Cymru'n enwi carfan gref ar gyfer gemau mis Medi

  • Cyhoeddwyd
Mae Robert Page (chwith) wedi enwi chwaraewr Juventus, Aaron Ramsey yn y garfanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Robert Page (chwith) wedi enwi chwaraewr Juventus, Aaron Ramsey yn y garfan

Mae prif hyfforddwr Cymru, Robert Page wedi enwi carfan gref ar gyfer gemau pwysig ym mis Medi.

Mae Gareth Bale, Aaron Ramsey, Joe Allen a Ben Davies ymysg y 27 sydd wedi'u dewis i herio'r Ffindir, Belarws ac Estonia.

Does dim llawer o newid o'r garfan aeth i Euro 2020, ac mae pob un o'r chwaraewyr wedi ennill o leiaf un cap rhyngwladol.

Amddiffynnwr Abertawe, Connor Roberts yw'r prif absenoldeb, a hynny yn dilyn anaf a gafodd i linyn y gar yn ystod yr Ewros.

Bydd Cymru'n wynebu'r Ffindir mewn gêm gyfeillgar yn Stadiwm Olympaidd Helsinki ddydd Mercher, 1 Medi.

Ond y gemau pwysig fydd y gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022 yn erbyn Belarws ddydd Sul, 5 Medi ac adref yn erbyn Estonia ddydd Mercher, 8 Medi yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Bydd y gêm yn erbyn Belarws yn cael ei chwarae ar gae niwtral a tu ôl i ddrysau caeedig yn Kazan, Rwsia.

Yn cynorthwyo'r rheolwr Rob Page am y tro cyntaf fydd yr is-hyfforddwr Alan Knill, a hynny yn dilyn ymadawiad Albert Stuivenberg.

Disgrifiad,

2011: Blwyddyn waethaf erioed tîm pêl-droed Cymru?

Rhain fydd y gemau cyntaf i Gymru chwarae ers mynd allan o bencampwriaeth Euro 2020 ar ôl colli'n drwm i Ddenmarc yn Amsterdam ym mis Mehefin.

Y garfan yn llawn

Wayne Hennessey (Burnley), Danny Ward (Caerlŷr), Adam Davies (Stoke City);

Chris Gunter (Charlton Athletic), Ben Davies (Tottenham Hotspur), Ethan Ampadu (Chelsea), Chris Mepham (Bournemouth), Joe Rodon (Tottenham Hotspur), Neco Williams (Lerpwl), Tom Lockyer (Luton), James Lawrence (FC St Pauli), Rhys Norrington-Davies (Sheffield United);

Aaron Ramsey (Juventus), Joe Allen (Stoke City), Jonny Williams (Swindon), Harry Wilson (Fulham), David Brooks (Bournemouth), Joe Morrell (Portsmouth), Matthew Smith (Hull City, ar fenthyg o Man City), Dylan Levitt (Dundee United, ar fenthyg o Man United), George Thomas (QPR), Rubin Colwill (Caerdydd), Brennan Johnson (Nottingham Forest);

Gareth Bale (Real Madrid), Daniel James (Man United), Kieffer Moore (Caerdydd), Tyler Roberts (Leeds).