Cau ysgolion wedi niweidio iechyd y plant tlotaf

  • Cyhoeddwyd
Sesiwn blasu bwyd
Disgrifiad o’r llun,

Athrawes a disgybl yn ystod sesiwn bwyta'n iach yn Ysgol Gynradd Thornwell, Cas-gwent

Tra bod ysgolion ynghau yng Nghymru fe gafodd disgyblion difreintiedig lai o ffrwythau a llysiau, llai o ymarfer corff a mwy o fwyd cyflym na'u cyd-ddisgyblion, yn ôl ymchwilwyr.

Wrth i blant baratoi i ddychwelyd i'r ysgol ar ôl gwyliau'r haf, dywedodd academyddion Prifysgol Abertawe fod strwythur dyddiol ysgol yn cael effaith fawr ar ddeiet.

Bu'r rhan fwyaf o ddisgyblion adref o fis Mawrth i fis Mehefin 2020 ac eto ar ddechrau 2021 oherwydd y pandemig.

Dros yr haf mae sesiynau Bwyd a Hwyl wedi eu cynnal gan awdurdodau lleol mewn degau o ysgolion ledled Cymru, gyda'r nod o hybu addysg am faeth yn ogystal â darparu gweithgareddau a phrydau iach i blant oed cynradd.

Pwysigrwydd bwyta'n iach

Mae'r cynllun, yn ôl pennaeth Ysgol Glan Morfa, Caerdydd, Meilir Tomos yn un gwerthfawr.

"Mae'n gyfle da i'r plant gael cymdeithasu â'u ffrindiau a dysgu yn ystod y gwyliau haf.

"Ar ôl y cyfnod clo 'da ni wedi gweld nifer o'r plant ddim wedi bod yn bwyta mor iachus dros y cyfnod felly mae'n bwysig bo' nhw'n gallu dod mewn a chael eu hyfforddi - i ddangos y pwysigrwydd o fwyta ac yfed yn iach," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Sesiwn ymarfer corff yn Ysgol Gynradd Thornhill

Mae cynllun HAPPEN ym Mhrifysgol Abertawe wedi gofyn i blant 8-11 oed mewn ysgolion cynradd ledled Cymru wneud arolwg ar-lein am eu hiechyd a'u lles yn ystod y cyfnod clo cyntaf, o fis Ebrill i fis Mehefin 2020.

Mae'r ymchwil yn nodi gwelliannau mewn sawl agwedd yn ymwneud â lles plant - gwell cwsg a mwy o hapusrwydd wrth dreulio amser gyda'r teulu - o gymharu ag arolygon tebyg yn y ddwy flynedd flaenorol.

Ond fe ddaeth gwahaniaethau i'r amlwg rhwng plant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a'u cyd-ddisgyblion mewn rhai agweddau gan gynnwys arferion bwyta a deiet.

Roedd plant sy'n cael prydau ysgol am ddim yn bwyta llai o ffrwythau a llysiau.

Dywedodd 45% eu bod wedi cael pum darn neu fwy o ffrwythau a llysiau ar un diwrnod, o'i gymharu â 69% o blant oedd ddim yn cael prydau ysgol am ddim - sy'n fwlch mwy na'r blynyddoedd blaenorol.

Yn ogystal dywedodd plant mwy difreintiedig bod yna ostyngiad wedi bod yn eu lefel ymarfer corff, tra'r oedd yn debycach i'w cyfoedion yn y blynyddoedd blaenorol.

Roedd yr ymchwil hefyd yn dangos bod yr holl ddisgyblion wedi bwyta tua'r un nifer o brydau yn 2019.

Ond yn ystod y cyfnod clo cyntaf yn 2020, newidiodd hyn ymhlith y plant nad oedd yn derbyn prydau ysgol am ddim, gyda gostyngiad mawr yn y nifer oedd yn bwyta prydau tecawê.

Dywedodd yr ymchwilydd Dr Michaela James o gynllun HAPPEN bod llai o ostyngiad mewn bwydydd cyflym yn ystod y cyfnod clo ymhlith plant o deuluoedd "llai cefnog".

"Fe sylwon ni bod bwyta'n llai iach, a'i fod yn anoddach i gael ffrwythau a llysiau ffres, yn rhan o brofiad y rhai oedd yn fwy difreintiedig," ychwanegodd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i ddarparu cyllid ar gyfer prydau ysgol am ddim drwy gydol y pandemig gan gynnwys y gwyliau, ond pwysleisiodd Dr James bwysigrwydd strwythur y diwrnod ysgol yn y broses.

"Fydde fe ddim mor hwylus iddyn nhw gael mynediad i'r cynllun prydau am ddim tu allan i'r ysgol - does dim amseroedd bwyta penodol wedi'u gosod, does dim trefn strwythuredig y mae plant wedi arfer â hi," meddai.

Yn ôl strategaeth Llywodraeth Cymru, Pwysau Iach: Cymru Iach, mae chwarter y plant sy'n dechrau'r ysgol yn ordew neu dros bwysau, ac mae gordewdra ymhlith plant yn waeth mewn ardaloedd mwy difreintiedig.

Mae'r nifer sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim wedi cynyddu yn ystod y pandemig.

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf yn Ebrill 2021, roedd 23% o ddisgyblion 5-15 oed yn gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim o'i gymharu â 20% yn Ionawr 2020.

Fe gododd y ffigwr i 25% wrth gynnwys y plant oedd yn gymwys wrth gyflwyno credyd cynhwysol.

Pynciau cysylltiedig