Awgrym y gallai fod ymchwiliad Covid penodol i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Mark Drakeford, Adam Price, Andrew RT DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images, BBC
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r pleidiau gwleidyddol wedi gwrthdaro yng Nghymru ynghylch yr angen am ymchwiliad penodol i'r wlad

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhoeddi llythyr gan y Prif Weinidog sy'n nodi y gallai Llywodraeth Cymru gynnal ymchwiliad Covid-19 wedi'r cyfan.

Yn y llythyr, sydd wedi'i rannu gan Andrew RT Davies, dywed Mark Drakeford y gallai fod ymchwiliad penodol i Gymru os nad yw'n fodlon â thelerau'r un ar gyfer y pedair gwlad.

"Edrychaf ymlaen at drafod cylch gorchwyl yr ymchwiliad ledled y DU gyda'ch cymheiriaid yn Llywodraeth y DU fel bod gennyf y sicrwydd yr wyf yn ei geisio ar gyfer ymchwiliad cynhwysfawr," meddai Mr Drakeford yn y llythyr.

"Os gwelir bod telerau manwl dull Llywodraeth y DU yn annigonol yna rydyn ni, wrth gwrs, yn cadw'r hawl i ailystyried."

Mae pwysau wedi bod yn cynyddu ar Lywodraeth Cymru ar ôl i weinidogion yn Holyrood gyhoeddi y byddai'r Alban yn cynnal ei hymchwiliad ei hun erbyn diwedd y flwyddyn.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru wedi bod yn galw am ymchwiliad penodol i Gymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn ystyried cynnig Llywodraeth yr Alban ochr yn ochr â'n hymgysylltiad parhaus â Llywodraeth y DU ar fanylion yr ymchwiliad pedair gwlad.

"Rydyn ni'n ceisio ymrwymiad y bydd ymchwiliad y pedair gwlad yn delio'n gynhwysfawr â gweithredoedd Llywodraeth Cymru a phrofiadau pobl Cymru."

Ym mis Mai, dywedodd Prif Weinidog y DU, Boris Johnson, y bydd ymchwiliad cyhoeddus annibynnol - ledled gwledydd y DU - yn cael ei gynnal yng ngwanwyn 2022.