Dyn yn y llys wedi ei gyhuddo o lofruddio'i gyn-wraig

  • Cyhoeddwyd
Russell MarshFfynhonnell y llun, Andrew Price
Disgrifiad o’r llun,

Mae Russell Marsh wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth

Mae dyn wedi ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o lofruddio ei gyn-wraig.

Mae Russell Marsh, 29 o Shotton yn Sir y Fflint, wedi ei gyhuddo o ladd Jade Marsh, oedd hefyd yn cael ei hadnabod fel Jade Ward.

Cafodd y fam i bedwar ei chanfod yn farw ar Chevrons Road yn y dref fore Iau.

Siaradodd Mr Marsh ond i gadarnhau ei enw yn ystod y gwrandawiad byr yn Yr Wyddgrug.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa nes ei ymddangosiad nesaf ddydd Mercher.

Pynciau cysylltiedig