Cei Connah: Menyw yn pledio'n ddieuog i lofruddio dyn
- Cyhoeddwyd

Bu farw Dean Michael Bennett yn Nghei Connah ym mis Mai eleni
Mae menyw wedi pledio'n ddieuog i lofruddio dyn yng Nghei Connah yn gynharach eleni.
Bu farw Dean Michael Bennett, 31, wedi digwyddiad mewn eiddo ar Ffordd y Doc ar 22 Mai.
Yn ymddangos trwy linc fideo o garchar Styal fore Mawrth, cafodd Emma Berry wybod y bydd ei hachos yn cychwyn yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar 6 Rhagfyr.
Mae disgwyl i'r achos bara pythefnos.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mai 2021
- Cyhoeddwyd23 Mai 2021