Llofruddiaeth Shotton: Dyn yn ymddangos yn y llys

  • Cyhoeddwyd
Shotton

Mae dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio menyw yn ei gartref yn Sir y Fflint wedi ymddangos yn Llys y Goron yr Wyddgrug.

Mae Russel Marsh, 29, wedi'i gyhuddo o ladd ei gyn-wraig, Jade Ward, a oedd yn fam i bedwar o blant, yn ei dŷ yn Shotton ddydd Iau diwethaf.

Wrth ymddangos trwy linc fideo o'r carchar, clywodd Mr Marsh y byddai'n ymddangos yn y llys eto ar 19 Tachwedd.

Mae'r dyddiad ar gyfer yr achos llys wedi'i drefnu ar gyfer 21 Mawrth 2022 ar hyn o bryd, ond fe fydd hwn yn cael ei adolygu yn ystod y gwrandawiad nesaf pan fydd disgwyl i Mr Marsh bledio.

Pynciau cysylltiedig