Agor cwest i farwolaeth Logan Mwangi

  • Cyhoeddwyd
Logan Mwangi, also known as Logan Williamson

Mae cwest wedi ei agor i amgylchiadau marwolaeth Logan Mwangi.

Cafodd corff y bachgen pum mlwydd oed o Sarn ger Pen-y-bont ar Ogwr ei ddarganfod yn Afon Ogwr ar 31 Gorffennaf ar ôl i'w rieni roi gwybod i'r heddlu ei fod ar goll.

Yn dilyn archwiliad post mortem, ni chafodd achos marwolaeth Logan ei gadarnhau ac felly bydd angen gwneud ymchwiliadau pellach.

Mae'r cwest nawr wedi'i ohirio tan ar ôl yr achos llys troseddol sy'n ymwneud â marwolaeth y bachgen.

Mae tri pherson wedi'u cyhuddo mewn cysylltiad â'r farwolaeth.

Mae ei lystad John Cole, 39, wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth tra bod ei fam Angharad Williamson, 30, a bachgen 13 mlwydd oed, sydd heb ei enwi am resymau cyfreithiol, wedi'u cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Fe wnaethon nhw ymddangos o flaen Llys y Goron Casnewydd ym mis Awst, ac mae disgwyl i'r achos yn ei herbyn ddechrau yn Ionawr 2022.

Pynciau cysylltiedig