Gohirio llawdriniaethau dewisol yn y gorllewin
- Cyhoeddwyd

Bydd tair ward yn cau am gyfnod yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cyhoeddi eu bod yn atal llawdriniaethau dewisol mewn dau ysbyty ac yn cau ward mewn ysbyty arall oherwydd effeithiau Covid-19.
Ni fydd llawdriniaethau orthopedig dewisol yn cael eu cynnig yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd nac yn Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli am y tro.
Bydd un ward yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin yn cau i gleifion newydd ac i ymwelwyr, a bydd mesurau ychwanegol yn cael eu cyflwyno mewn dwy ward arall oherwydd y cynnydd yn nifer yr achosion o coronafeirws.
Dywedodd y bwrdd mewn datganiad eu bod yn cymryd y camau yma er mwyn sicrhau bod gofal critigol yn dal ar gael i'r cleifion sydd gyda'r angen mwyaf mewn ysbytai, lleoliadau cymunedol a'r cartref, a hynny er gwaethaf pwysau eang ar y system.
Dywedodd prif weithredwr y bwrdd, Steve Moore: "Rwyf am fod yn glir y bydd ein gwasanaethau argyfwng a gofal brys yn dal ar agor i bobl sydd eu hangen, ac mae'r camau yr ydym yn eu cymryd yn helpu i sicrhau y gallwn weld y cleifion yna.
"Mae ein staff yn defnyddio'u sgiliau i flaenoriaethau a gofalu am gleifion yn y ffordd orau bosib, ac rydym yn ddiolchgar am hynny.

Pwysleisiodd Steve Moore y byddai gwasanaethau argyfwng yn dal ar agor i bawb sydd eu hangen
"Ond rydym yn dal yn y pandemig sy'n dal i amharu ar ein bywydau bob dydd, ac yn anffodus un o ganlyniadau hynny yw fod rhaid i ni ailgyflwyno mesurau dros dro, gan gynnwys gohirio rhai llawdriniaethau yn y tymor byr, er mwyn sicrhau y gallwn ofalu am gleifion yn ddiogel.
"Mae'r cynnydd yn nifer yr achosion yn Hywel Dda yn dangos, er nad yw'r nifer sy'n dod i'r ysbyty mor uchel ag yn y tonnau blaenorol, mae Covid-19 yn parhau yn risg difrifol i'n hiechyd a'n gwasanaethau iechyd.
"Rwy'n apelio ar bawb i wneud eu rhan drwy gadw at fesurau 'cadw'n ddiogel' sydd wedi lleihau ymlediad y feirws."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Medi 2021
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2021