Côr yn canu i'r gymuned am y tro cyntaf ers Covid
- Cyhoeddwyd
Roedd 'na ddathlu yng ngogledd Powys nos Fercher wrth i'r côr meibion lleol ganu i'r gymuned am y tro cyntaf ers dechrau'r pandemig.
Roedd rhyw 70 o drigolion ar gae Ysgol Pennant i glywed Côr Penybontfawr yn canu yn yr awyr agored ac yn amlwg roedd pawb yn mwynhau.
Roedd yn brofiad "braf iawn ond yn rhyfedd", yn ôl un aelod o'r côr, Eifion Williams.
"'Den ni heb fod yn practisio rŵan ers blwyddyn a hanner, a pethau oeddan ni'n wybod yn dda cynt 'den ni wedi anghofio geiriau, ynde!
"Mae'n andros o beth, yn dydi - wedi anghofio nhw yn llwyr, ond enjoio yn fawr iawn."
"Mae'n lyfli bod cymaint o bobl wedi troi allan," meddai Bethan Page, a drefnodd y digwyddiad.
Mae hi'n byw ym Mhenybontfawr ac yn gweithio efo prosiect Palasau Hwyl sy'n ymwneud 'efo cymunedau'n dewis beth maen nhw eisiau ei wneud yn ddiwylliannol.
Dywedodd: "Nes i wahodd y côr i gynnal sesiwn ymarfer y tu allan a ma' nhw wedi derbyn y gwahoddiad a mae hyn yn lyfli.
"'Den ni gyd yma heno yn dathlu'r ffaith bod nhw yn cael cyd-ganu eto.
"Dwi'n meddwl bod ni'n teimlo bod ni eisiau gweld ein gilydd a thra bod y tywydd yn dyner bod ni'n mynd i drio rhyw 'chydig bach o bethau bach."
Ychwanegodd Rhonwen Broom, adweinyddes y côr: "Maen nhw di bod yn pestero fi ar y Zoom trwy gydol y pandemig yn gofyn pryd 'dan ni'n cael cychwyn.
"Dwi wrth fy modd, dwi 'di gwirioni'n lan bo' ni 'di gallu cynnal noson fel hyn ar gyfer y gymuned. A'r ffordd orau o ddod o bobl at ei gilydd ydi trwy ganu."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd11 Medi 2020