Ceisio dysgu hanes safle cyn iddo ddiflannu i'r môr

  • Cyhoeddwyd
Cloddio ar safle bryngaer Dinas Dinlle

Mae gwaith yn cael ei wneud i ddarganfod mwy o ddirgelion y fryngaer yn Ninas Dinlle cyn iddi ddiflannu i'r mor.

Y pryder ydy y bydd erydu arfordirol yn cael effaith fawr ar y safle dros y degawdau nesaf.

Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd sy'n arwain y gwaith cloddio ar y fryngaer sy'n dyddio o'r oes haearn dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl.

Mae olion tŷ crwn ysblennydd wedi cael ei ddarganfod yma a hwn ydy un o'r tai crwn mwyaf i'w ddarganfod yng ngogledd orllewin Cymru.

Caiff y prosiect ei ariannu a'i gynnal ar y cyd â Cadw, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a CHERISH (Climate, Heritage and Enviroments of Reefs, Islands and Headlands).

Ffynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Dyma sut y byddai tai'r tŷ crwn wedi edrych, yn ôl Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd

Mae tua traean y fryngaer eisoes wedi diflannu dros y canrifoedd oherwydd erydiad y môr, a'r pryder nawr yw y bydd mwy yn diflannu dros y degawdau nesaf gan gynnwys y tŷ crwn.

Mae'r archeolegwr Rhys Mwyn yn rhan o'r gwaith cloddio a dywedodd wrth Cymru Fyw: "Dydy'r fryngaer ddim yn mynd i bara 2,000 o flynyddoedd arall yn nacdi.

"Pan ydan ni'n edrych yn fan hyn 'da ni reit wrth ymyl y clogwyn mae o bron â bod yn frawychus mor agos ydy'r dibyn i'r archeoleg, felly o fewn yr 50 mlynedd nesa yn sicr 'da ni'n debygol o golli wedyn y rhan helaeth o'r archeoleg ar yr ochr yma... ochr orllewinol y gaer."

Ond a oes modd atal y niwed i'r safle?

Atebodd Rhys Mwyn: "Mae hwnnw'n gwestiwn da yn tydi… anodd iawn rhwystro natur tydi.

"Mi fedrith rhywun rhoi blociau concrit ar y traeth ond mae 'na deimlad bod natur yn gryfach na dyn.

"Dwi'n ofni bod natur yn mynd i ennill fan hyn. Be mae o am greu mewn ffordd ydy sefyllfa lle 'da ni'n gallu archwilio safle, bod 'na arian yn cael ei roi oherwydd y bygythiad - yr erydiad arfordirol.

"Mae o'n caniatáu i ni gloddio ac i ddysgu… mae 'na ochr bositif ein bod ni'n cael gweld y cwt crwn ond yr ochr negyddol ydy bod hwnna ddim yn mynd i bara am byth."

Pynciau cysylltiedig