Partneriaeth i annog mwy o blant i chwarae pêl-droed
- Cyhoeddwyd
Mae prosiect newydd wedi'i lansio yng Nghymru i geisio cynyddu nifer y plant a phobl ifanc sy'n chwarae pêl-droed ac yn cefnogi'r tîm cenedlaethol.
Bydd Adran Chwaraeon yr Urdd, sydd bellach yn un o'r prif ddarparwyr chwaraeon cyfrwng Cymraeg, yn cydweithio â Chymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) i "sicrhau bod mwy o blant a phobl ifanc Cymru yn cymryd rhan mewn chwaraeon yn wythnosol".
Fe fydd y bartneriaeth yn rhoi pwyslais penodol ar gael mwy o fenywod i gymryd rhan mewn pêl-droed.
Bydd hybu'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig hefyd yn ganolog i'w gwaith.
Ysbrydoli merched i gymryd rhan
Mewn ymgais i gynyddu'r niferoedd sy'n chwarae pêl-droed bydd CBDC yn cynyddu nifer y canolfannau 'Huddle', sydd wedi'u sefydlu i ddenu merched 5-12 oed i chwarae am y tro cyntaf.
Y targed ydy 100 o ganolfannau erbyn 2024.
Dros dymor yr haf bydd gwersylloedd pêl-droed yn cael eu cynnal ar gyfer merched yn ogystal â bechgyn yng nghanolfannau'r Urdd yn ystod Pencampwriaeth Euro 2022 y merched.
Mae CBDC hefyd yn bwriadu cefnogi'r Urdd i ddarparu gweithgareddau pêl-droed hamddenol fel rhan o ymgyrch newydd y mudiad #FelMerch.
Prif nod #FelMerch yw ysbrydoli a chefnogi merched rhwng 14-25 i ymwneud â chwaraeon, mewn awyrgylch diogel a chroesawgar.
Mewn ymgais i gynyddu'r niferoedd sydd yn cefnogi'r tîm cenedlaethol bydd CBDC yn croesawu'r wasg i wersylloedd a digwyddiadau'r Urdd ar gyfer cynadleddau - bydd hyn yn cynnwys cyhoeddi'r garfan ar gyfer gemau agoriadol Cymru yn ymgyrch rhagbrofol Cwpan y Byd 2023 y merched yn Llangrannog.
Bydd trafnidiaeth ar gyfer ysgolion a chlybiau i gefnogi tîm merched Cymru yn eu gemau cartref, gan gynnwys y gêm yn erbyn Estonia yn Stadiwm Dinas Caerdydd fis Hydref a'r gêm yn erbyn Groeg ym Mharc y Scarlets fis Tachwedd.
Bydd staff a phrentisiaid yr Urdd hefyd yn helpu i gynnal sesiynau pêl-droed mewn ysgolion difreintiedig yn ystod rhai o gemau oddi cartref Cymru yn 2022.
'Awyddus i leihau'r rhwystrau'
Dywedodd Siân Lewis, prif weithredwr yr Urdd: "Mae perthynas yr Urdd â Chymdeithas Bêl-droed Cymru wedi mynd o nerth i nerth ac mae hi'n wych cael cydweithio er mwyn cynnig profiadau unigryw i'n haelodau.
"Rydym yn rhannu'r un weledigaeth, sef sicrhau bod mwy o blant a phobl ifanc Cymru yn cymryd rhan mewn chwaraeon yn wythnosol.
"Mae hyn yn arbennig o wir am ferched ac rydym yn awyddus i leihau'r rhwystrau i gymryd rhan, a dyma'r rheswm lansiwyd ymgyrch #FelMerch gennym yn ddiweddar.
"Edrychwn ymlaen at wahodd Cymdeithas Pêl-droed Cymru i rai o sesiynau #FelMerch a'n helpu i ysbrydoli cenhedlaeth rhag rhoi'r gorau i chwaraeon, a chydweithio er mwyn cynnig profiadau unigryw i'n haelodau."
Ychwanegodd Ian Gwyn Hughes, pennaeth cyfathrebu CBDC: "Mae CBDC yn hynod falch ein bod ni'n cryfhau ein perthynas gyda'r Urdd, ar ôl gweithio'n agos dros y blynyddoedd yn hybu diwylliant Cymru a'r iaith Gymraeg.
"Fe fydd y bartneriaeth yn cynyddu'r cyfleodd i blant yng Nghymru i chwarae pêl-droed ac yn creu cysylltiad rhwng aelodau o'r Urdd a'r timau cenedlaethol trwy drefnu tripiau i gemau Cymru a chynnwys unigryw gyda'n chwaraewyr ar gyfer sianelu cymdeithasol a chylchgronau'r Urdd.
"Trwy chwaraewyr fel Aaron Ramsey a Natasha Harding, mae gan yr Urdd hanes llwyddiannus o ran datblygu sêr y dyfodol ac rydym yn gobeithio gall y bartneriaeth helpu parhau hyn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mai 2021
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd31 Mai 2013