Teyrnged i fam 'oedd yn gweld daioni mewn pawb'
- Cyhoeddwyd

Roedd Jade Ward yn fam i bedwar o fechgyn
Mae teulu mam ifanc o Sir Y Fflint a fu farw mewn digwyddiad yn Shotton fis diwethaf wedi rhoi teyrnged iddi.
Roedd Jade Ward yn 27 oed ac yn fam i bedwar o blant.
Mae ei chyn-ŵr, Russell Marsh, wedi cael ei gyhuddo o'i llofruddio yn ei gartref ddydd Iau, 26 Awst.
Dywedodd teulu Ms Ward ei bod "yn fam ffyddlon a fydd yn byw yn ein calonnau ni oll am byth".
'Hi oedd enaid y parti'
Cafodd ei disgrifio fel merch "hyfryd, bywiog a phoblogaidd oedd yn caru ac yn gofalu am bawb roedd yn eu nabod, yn enwedig ei phedwar o fechgyn".
Ychwanegodd datganiad y teulu: "Roedd Jade wastad yn gweld daioni mewn pawb, byddai'n rhoi pawb o flaen ei hun ac roedd yn caru anifeiliaid...
"Roedd hi'n gymeriad cryf, roedd ganddi ffordd unigryw ei hun o wisgo, roedd yn caru dillad ac yn arbennig, ei lipstic coch.
"Hi oedd enaid y parti ac roedd wastad yn dawnsio. Roedd yr ystafell wir yn goleuo wrth iddi ddod i mewn."

Cafwyd hyd i gorff Jade Ward mewn eiddo yn Chevrons Road ddydd Iau 26 Awst
Ymddangosodd Russell Martin yn Llys Y Goron Yr Wyddgrug ddydd Mercher ar gyhuddiad o lofruddiaeth ac fe allai wynebu achos llawn ym Mawrth 2022.
Mae Heddlu Gogledd Cymru'n parhau i ymchwilio i'r digwyddiad ac yn apelio i'r cyhoedd am wybodaeth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Medi 2021