Dim anafiadau yn nhân Borth ond ci ac adar wedi trigo

  • Cyhoeddwyd
Borth fireFfynhonnell y llun, Izzie Alvey
Disgrifiad o’r llun,

Roedd modd gweld y tân wrth deithio ar y trên gerllaw

Mae'r gwasanaethau brys wedi cadarnhau na chafodd neb ei anafu yn y tân a fu mewn tŷ yn Borth ger Aberystwyth ddydd Gwener.

Ond dywed Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru bod ci ac adar cawell wedi'u lladd.

Cafodd diffoddwyr tân eu galw am 15:33 a bu'n rhaid i gymdogion symud i ganolfan gymunedol am gyfnod gan fod silindrau nwy yn y tŷ.

Roedd yna ofnau ar un adeg bod y tân wedi lledu i dai eraill ond fe gafodd cymdogion ddychwelyd i'w cartrefi am 22:00 nos Wener.

Fe adawodd y diffoddwyr olaf y safle brynhawn Sadwrn.

Mae ymchwilwyr yn parhau i geisio canfod achos y tân.

Pynciau cysylltiedig