Nifer y bobl ar restrau aros ysbytai Cymru ar ei lefel uchaf
- Cyhoeddwyd
Mae mwy o bobl yn aros am driniaeth ysbyty sydd ddim yn frys yng Nghymru nag erioed o'r blaen.
Roedd 624,909 o bobl ar restrau aros ym mis Mehefin, gyda'r ffigwr yn dringo'n gyson bob mis a 41% ers dyddiau cynnar pandemig Covid.
Cynyddodd nifer y bobl a oedd yn aros hiraf - mwy na naw mis - eto i 233,210.
Yn y cyfamser, cafodd adrannau damweiniau ac achosion brys a gwasanaeth ambiwlans Cymru eu misoedd prysuraf ers i'r pandemig ddechrau.
Daw'r ffigyrau wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y bydd dros hanner biliwn o bunnoedd yn cael ei glustnodi i'r GIG er mwyn delio gydag effeithiau'r pandemig.
Mae'r Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £411m ar gyfer costau parhaus delio â'r pandemig hyd at fis Ebrill 2022 a £140m ar gyfer adferiad a mynd i'r afael ag amseroedd aros.
Perfformiad amser aros damweiniau ac achosion brys - gyda dim ond 69.8% o gleifion yn treulio llai na phedair awr yn aros i gael eu trin - oedd y gwaethaf a gofnodwyd.
Mae'r ffigwr ar gyfer nifer y cleifion sy'n aros am driniaeth ysbyty nad yw'n frys wedi bod yn tyfu ers i'r pandemig ddechrau, gyda nifer o lawdriniaethau'n cael eu gohirio yn ystod y don gyntaf.
Ychwanegwyd 17,869 o bobl eraill at y rhestr yn ystod y mis diwethaf a chynyddodd y niferoedd a oedd yn aros mwy na naw mis o 5,457.
Ond dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod hi'n "galonogol gweld cynnydd yn cael ei wneud gyda nifer y cleifion sy'n aros dros 52 wythnos yn gostwng am y trydydd mis yn olynol".
"Gwelsom hefyd y nifer fwyaf o ymgynghoriadau arbenigol wedi'u cwblhau a'r triniaethau a ddechreuwyd mewn unrhyw fis ers dechrau'r pandemig."
Mae'r ffigyrau ar gyfer Mehefin 2020 yn dangos:
Y rhestr aros gyffredinol am driniaeth yw 624,909 - yr uchaf erioed;
Mae nifer y cleifion sy'n aros mwy na 36 wythnos - naw mis - i ddechrau triniaeth yn yr ysbyty wedi tyfu o 25,634 ym mis Chwefror 2020 i 233,210 (cynnydd o 810%);
Roedd yr arosiadau hiraf yn cynnwys 54,394 o bobl i fod i gael triniaeth orthopedig neu drawma - cynnydd o 546% ers mis Chwefror 2020;
Mae ffyrdd wedi'u gwneud yn rhai sy'n aros am lawdriniaeth gardiothorasig, ond roedd 108 yn dal i aros mwy na naw mis, mwy na dwywaith y nifer cyn y pandemig;
Mae 34,104 o bobl eraill wedi bod yn aros mwy na naw mis am driniaeth offthalmoleg - o'i gymharu â 4,083 cyn dechrau'r pandemig.
Mae'r ffigyrau, a gyhoeddwyd ddydd Iau, hefyd yn dangos bod Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru wedi derbyn mwy o alwadau ym mis Gorffennaf nag mewn unrhyw fis ers i'r pandemig ddechrau - gyda'r gyfran uchaf o alwadau "coch", yr argyfyngau hynny sy'n peryglu bywyd ar unwaith, ar gofnod.
Y targed mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yw y dylid gweld 95% o gleifion o fewn pedair awr ond gostyngodd hynny i 69.8% ym mis Gorffennaf.
Gostyngodd hyn mor isel â 44.7% gan aros pedair awr neu lai yn Ysbyty Glan Clwyd yn Sir Ddinbych a 43.8% yn ysbyty newydd y Grange yn Nhorfaen.
Arhosodd mwy na 7,000 o gleifion fwy na 12 awr mewn unedau brys - gyda'r targed na ddylai unrhyw un aros cyhyd.
Ond dechreuodd mwy o bobl driniaeth ar gyfer canser yn ystod y mis diweddaraf nag yn y mis blaenorol.
Cyfanswm y cleifion a ddechreuodd eu triniaeth ganser gyntaf a nifer y cleifion a ddechreuodd eu triniaeth o fewn yr amser targed oedd yr ail uchaf ers i'r cofnodion cyfredol ddechrau.
'Annerbyniol'
Yn ôl Is-lywydd Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys Cymru, Dr Suresh Pillai "does dim amheuaeth" bod y GIG "mewn sefyllfa ddifrifol o heriol" a bod y "pwysau ar staff ac adrannau ar hyn o bryd yn ddi-baid".
Mae risg bosib amseroedd aros hirach i ddiogelwch cleifion, meddai, yn "annerbyniol" ond mae'r pwysau presennol yn amharu ar ymdrechion i roi "gofal safon uchel, effeithiol".
Rhybuddiodd bod staff eisoes wedi llwyr ymlâdd a dan straen, a hynny cyn y cynnydd arferol yn y galw am ofal iechyd yn nhymhorau'r hydref a'r gaeaf.
"Mae'r gwasanaeth iechyd a'i weithlu angen sicrwydd bod yna gynllun cadarn a chynhwysfawr i reoli'r cynnydd tebygol yna mewn galw a darparu adnoddau digonol i staff ac adrannau," ychwanegodd.
"Heb gynllun manwl a chefnogaeth sylweddol mae yna berygl na fyddai'r gwasanaeth iechyd yn gallu ymdopi petai yna aeaf garw.
"Yn y cyfamser, rhaid i fyrddau'r GIG ehangu'r capasiti ble bynnag mae'n bosib, parhau gyda mesurau rheoli atal haint, a chyfathrebu clir rhwng arbenigwyr ac adrannau...
"Er bod bywyd wedi dychwelyd i'r arfer i rai pobl, i weithwyr iechyd mae'n gyfnod gwirioneddol anodd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Awst 2021
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2021