Rhagbrofol Euro dan-21 2023: Bwlgaria 0-4 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Jack ValeFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Lwyddodd Jack Vale o Blackburn Rovers i sgorio hat-tric i'r Cymry ifanc

Mae tîm dan-21 Cymru wedi cael hwb i'w gobeithion i gyrraedd Euro 2023 gyda buddugoliaeth swmpus oddi cartref yn erbyn Bwlgaria ddydd Mawrth.

Aeth Cymru ar y blaen wedi 26 munud wrth i Jack Vale fanteisio ar gamgymeriad gan y golwr er mwyn rhwydo'n hawdd.

Dyblwyd y fantais cyn hanner amser wrth i Billy Sass-Davies sgorio gyda pheniad pwerus o groesiad Rhys Hughes.

Aeth yr ymwelwyr ymhellach ar y blaen ar ddechrau'r ail hanner, gyda Vale yn sgorio ei ail yn dilyn pas wych i'r ymosodwr gan Joe Adams.

Seliodd Vale ei hat-tric gyda chwarter awr yn weddill wrth iddo benio croesiad Samuel Pearson i gefn y rhwyd.

Gêm gyfartal gyda Moldofa oedd unig ganlyniad Cymru yn y grŵp rhagbrofol cyn heddiw, a bydd eu gemau nesaf yn yr ymgyrch fis nesaf, wrth iddyn nhw deithio i herio Moldofa a'r Iseldiroedd.