Dau hunanladdiad yn unedau iechyd meddwl y gogledd

  • Cyhoeddwyd
Uned Ablett
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw'r claf cyntaf yn uned Ablett, Ysbyty Glan Clwyd, ym mis Rhagfyr y llynedd

Mae wedi dod i'r amlwg fod dau glaf mewn unedau iechyd meddwl yn ysbytai'r gogledd wedi lladd eu hunain o fewn chwe mis i'w gilydd.

Mewn adroddiad a gafodd ei drafod gan un o bwyllgorau Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ddydd Mawrth, mae cyfarwyddwr iechyd meddwl y bwrdd yn nodi dau "ddigwyddiad catastroffig" ers cwblhau adolygiad o bwyntiau crogi posibl fis Medi diwethaf.

Mae Newyddion S4C yn deall mai dau hunanladdiad drwy grogi yw'r digwyddiadau yma.

Dywedodd y bwrdd iechyd ei fod wedi gwario dros £8m ers 2016 ar gael gwared ar bwyntiau crogi mewn unedau iechyd meddwl.

Ond mae Plaid Cymru wedi cwestiynu sut fod hunanladdiadau yn parhau i ddigwydd, flynyddoedd lawer ers i'r broblem gael ei hamlygu i'r bwrdd iechyd.

Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd yr ail farwolaeth yn uned Hergest, Ysbyty Gwynedd ym mis Ebrill eleni

Bu farw'r claf cyntaf yn uned Ablett, Ysbyty Glan Clwyd, ym mis Rhagfyr y llynedd, cyn i ail glaf ladd ei hun ym mis Ebrill eleni yn uned Hergest, Ysbyty Gwynedd.

Noda'r adroddiad bod digwyddiadau tebyg drwy Gymru gyfan.

Mewn degawd rhwng 2008 a 2018 bu farw 14 o gleifion ar draws y wlad mewn unedau iechyd meddwl.

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi bod dan y lach am ei wasanaethau iechyd meddwl dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig wedi i ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd gael ei chau yn ddisymwth yng ngaeaf 2013.

Fe wnaeth adolygiad ganfod honiadau "gofidus iawn" am ofal cleifion yno.

'Dim yn broblem newydd'

Wrth ymateb i'r adroddiad diweddaraf, dywedodd Aelod Senedd Plaid Cymru ar gyfer rhanbarth y gogledd, Llyr Gruffydd fod "hon ddim yn broblem newydd".

"'Da ni'n gwybod fod adroddiad 'nôl yn 2014 wedi amlygu gofid ynglŷn â'r pwyntiau crogi yma ar yr unedau iechyd meddwl," meddai.

"Mi oedd adroddiad Holden hefyd mae'n debyg yn amlygu y pwyntiau yma.

"Ond eto chwe, saith mlynedd yn ddiweddarach, 'da ni'n dal i weld achosion o bobl yn lladd eu hunain yn defnyddio'r pwyntiau crogi hyn.

"Felly mae 'na gwestiynau mawr i'r bwrdd a rheolwyr y bwrdd ynglŷn â sut bod hyn dal yn broblem gymaint o flynyddoedd wedi i hyn gael ei amlygu."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Llyr Gruffydd fod pryderon am bwyntiau crogi wedi eu hamlygu i'r bwrdd iechyd ers blynyddoedd lawer

Yn ôl Dewi Roberts, aelod o gyngor iechyd cymuned ar gyfer ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, er bod pryder am yr achosion yn lleol, mae angen gweithredu hefyd ar lefel Cymru gyfan i leihau cyfleoedd i gleifion allu crogi eu hunain mewn wardiau iechyd meddwl.

"Mae o wedi cael ei adnabod ers rhai blynyddoedd bod lleoedd angori - ligatures - ar lefel isel, yn broblem," meddai.

"Mae o'r ffordd fwyaf cyffredin o hunan-ladd ac mae 'na wersi i'w dysgu."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dewi Roberts bod "gwersi i'w dysgu" o'r hunanladdiadau diweddar

Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn disgwyl i bob bwrdd iechyd ddarparu gofal diogel a lleihau'r risg i gleifion gael niwed, a bod hynny'n cynnwys cael polisïau a phrosesau i adolygu a monitro risg crogi yn gyson.

Mae'r llywodraeth yn cyfaddef bod gwaith i wella diogelwch cleifion yn y maes hwn yn parhau ond ei bod yn disgwyl i unrhyw ddigwyddiad lle mae diogelwch claf yn cael ei beryglu i gael ei ymchwilio'n drylwyr, yn unol â'r polisi adrodd digwyddiadau cenedlaethol.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr mewn datganiad ei fod wedi gwario dros £8m ers 2016 ar gael gwared ar bwyntiau crogi uchel mewn unedau iechyd meddwl er mwyn lleihau'r risg o hunanladdiadau.

Ychwanegodd ei fod, fel byrddau iechyd eraill Cymru, yn dilyn canllawiau cenedlaethol i adolygu, lleihau a rheoli'r risgiau sy'n gallu cael eu hachosi gan bwyntiau crogi.

Dywedodd fod lleihau niwed mewn amgylchiadau fel y rhain yn gymhleth ac yn her i'r gwasanaeth iechyd drwy'r DU, a'i fod yn parhau i addasu i'r canllawiau cenedlaethol wrth anelu at ddarparu awyrgylch addas i gleifion sydd yn rhwystro'r cyfle i hunan-niweidio.