'Da chi byth yn rhy hen i drio rhywbeth newydd!'

  • Cyhoeddwyd
Rhian Cadwaladr

Ers yn blentyn mae Rhian Cadwaladr wedi cael trafferthion gyda'i chlun, sy' wedi achosi dipyn o boen iddi dros y blynyddoedd.

Ond er gwaetha'r anaf fe lwyddodd i gwblhau her arbennig yn ddiweddar. A hithau'n troi'n 60 ym mis Ebrill 2022 roedd Rhian eisiau cyrraedd copa 60 bryn, ac ambell fynydd, cyn ei phen-blwydd, gan orffen gyda'r Wyddfa.

Anaf pan yn blentyn

Felly, beth yw'r hanes tu ôl i'r her?

"Pan o'n i'n naw oed roeddwn i'n cerdded ar fainc pan syrthiodd fy nhroed drwy'r hollt rhwng y slats a beryg fod y niwed i fy nghlun wedi digwydd wrth i mi blycio fy nghoes yn rhydd," esboniai Rhian.

"Es i i'r ysbyty, fy nghoes ar traction ac yna'n cerdded ar faglau a methu rhoi fy nhroed i lawr am gyfnod. Dwi'n cofio fod yna ychydig o benbleth efo'r diagnosis ac i luniau peledr x o'r glun gael eu gyrru ffwrdd i Lundain ac i'r diagnosis ddod yn ôl fel cyflwr o'r enw irritable hip."

Ffynhonnell y llun, RhianCadwaladr
Disgrifiad o’r llun,

Rhian ar Mynydd Gwaith (Yr Eifl)

Dros y blynyddoedd mae'r boen wedi mynd a dod i Rhian: "Weithiau mae hi yn teimlo fel petai hi wedi dod allan o'i lle - hip impingement mae'r doctor yn ei alw - sy'n boenus iawn.

"Dwi wedi dysgu fod gormod o droelli ar y glun yn gallu achosi hyn, er enghraifft pan yn dawnsio, mynd rownd orielau, siopa - unrhyw beth lle mae rhywun yn troi yn aml felly mi fyddai yn trio bod yn ofalus a peidio gwneud gormod o hyn.

"Roeddwn i wrth fy modd yn dawnsio llinell pan oedd hynny yn ffasiynol rhai blynyddoedd yn ôl ond mi roedd yn rhaid i mi roi'r gorau iddi."

Ffynhonnell y llun, RhianCadwaldr
Disgrifiad o’r llun,

Rhian a'i phartner Andrew, ar Moel Tryfan

Felly, beth wnaeth i Rhian benderfynu gwneud yr her yma? "Nes i gychwyn cerdded, fel amryw o bobl eraill, yn ystod y cyfnod clo cyntaf llynedd. Yn ystod yr haf mi es i fyny i ben Mynydd Mawr ac yna Moel Eilio.

"O'n i wedi gwirioni efo'r golygfeydd, yn enwedig gan fy mod i wrth fy modd yn tynnu lluniau ac mi roedd y glun wedi bihafio.

"Dwi'n lwcus o fyw mewn ardal lle mae llawer o fryniau a mynyddoedd ac mi ddaeth yna syniad gwirion i mhen i - beth petawn i'n trio cyrraedd copa 60 ohonyn nhw cyn fy mhen-blwydd yn 60 yn Ebrill 2022, gan eu cofnodi mewn llunia."

Ffynhonnell y llun, RhianCadwaladr
Disgrifiad o’r llun,

Rhian ar y Crimpiau, yn ardal Capel Curig

Cerdded yr Wyddfa

"Tua tair blynedd yn ôl pan ges i'r pwl drwg dwytha efo fy nghlun a chael peledr x arni, oedd yn dangos fod yna osteoathritis ynddi erbyn hyn, mi ofynnais i'r doctor a oeddwn i wedi cerdded fyny'r Wyddfa am y tro ola'.

"Er mod i wedi fy ngeni a magu yn Llanberis dim ond unwaith o'n i wedi bod fyny o'r blaen ac wastad wedi bwriadu mynd eto. Ei ateb oedd "caria ymlaen tra medri di." Daeth y geiria yma yn ôl i fy meddwl a dyna dwi wedi, ac am, wneud."

Ffynhonnell y llun, RhianCadwaladr
Disgrifiad o’r llun,

Rhian ar gopa Tre'r Ceiri

O'r holl fryniau a mynyddoedd i Rhian gerdded, ble oedd rhai o'r mannau mwyaf heriol? "Dydw i ddim yn ffeindio yr un ohonyn nhw'n hawdd!

"Mi 'nes i gychwyn ar draws Crib Nantlle fis Awst llynedd ond wedi dringo fyny'r Garn roedd gen i ormod o ofn mynd dros crib Mynydd Drws Y Coed, yn enwedig gan fy mod i ar ben fy hun.

"Roeddwn i'n benderfynol o fynd i weld y tŵr bach sydd ar ben Tal y Mignedd (sydd yn un o fynyddoedd Crib Nantlle) felly eleni nes i berswadio Andrew fy mhartner i ddod efo fi i fyny Trum y Ddysgl er mwyn medru cerdded drosodd i Tal y Mignedd.

"Roedd honno yn dro heriol - a llethr Trum y Ddysgl yn hynod serth. Roedd yna dipyn o sgrambyl i ben Moel Hebog hefyd - ond beth oedd yn anodd am honno oedd i ni gychwyn lawr y ffordd anghywir a gorfod mynd nôl i fyny i ffeindio'r llwybr iawn."

Ffynhonnell y llun, RhianCadwaldr
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa ysblennydd o gopa Moel Hebog

Dod i nabod yr ardal

Roedd Rhian yn cael cystal hwyl ar y cerdded iddi gwblhau yr her yn gynnar - dechreuodd yr her yn Awst 2020 ac fe orffennodd ar 7 Medi, 2021.

"Dwi'n lwcus a breintiedig mewn llawer o ffyrdd - y ffaith fod fy nghlun wedi dal a'r ffaith mod i yn byw mewn lle gogoneddus ac wedi medru gwneud y mwya' o'r cyfnod Covid 'ma i ddod i wir adnabod fy ardal.

"Dwi wedi magu parch mawr at natur a'r amgylchedd. Mi es i ar gwrs undydd efo Anelu llynedd i ddysgu sut i ddefnyddio cwmpawd a map ac mae gen i ap ar fy ffôn sydd yn dangos y ffordd, a diolch amdano achos dwi wedi mynd ar goll droeon!

Ffynhonnell y llun, RhianCadwaladr
Disgrifiad o’r llun,

Rhian ar gopa Mynydd y Graig Goch

"Mae'r cerdded mynyddoedd yn hynod llesol i'r iechyd - yn feddyliol a chorfforol ond mae o hefyd yn gallu bod yn beryglus ac mae'n rhaid parchu hyn a darparu amdano."

Damwain wedi cwblhau'r her

Yn wir, yn ddiweddar fe gafodd Rhian ddamwain tra allan yn cerdded, wedi iddi gwblhau yr her.

"Dwi hefyd wedi dysgu pa mor hawdd ydi cael anaf - does dim rhaid llithro o ben clogwyn i frifo.

"Yn eironig ddigon mi lwyddais i frifo fy mhen-glin bedwar diwrnod ar ôl gorffen fy her, wrth neidio oddi ar garreg isel, felly dim cerdded i mi am ychydig, ond mi fydda i yn ôl yn y bryniau cyn gynted ag y medra i gan gymryd pob gofal!"

Ffynhonnell y llun, RhianCadwaladr
Disgrifiad o’r llun,

Yn dringo Moel Sygun ger Beddgelert

Pa gyngor fydde Rhian yn ei roi i eraill sydd efallai'n ddigalon am rhyw anaf, ac eisiau bod yn fwy actif?

"Yn gyntaf i wrando ar gyngor eich meddygon, gan gofio gofyn eu cyngor am be' fedrwch chi neud yn hytrach na chanolbwyntio ar be' na fedrwch chi wneud. Yn ail, gwrandwch ar eich corff - mae 'na adegau pan fod 'na arwyddion yn deud wrtha ni am stopio ond weithia tydan ni ddim - ac yna mae yna bris i'w dalu."

Oes her arall am fod?

"Oes! Dwi eisoes wedi cychwyn cerdded llwybrau arfordir Môn, a dwi ffansi gwneud Llwybr Llechi Eryri ac os na fydd y glun yn bihafio dwi ffansi dilyn cwrs ffotograffiaeth ac efallai dechra' dysgu sut i chwara' piano.

"Da chi byth yn rhy hen i drio rhywbeth newydd a dyddiau 'ma tydi bod yn 60 yn ddim i'w ofni!"

Hefyd o ddiddordeb: