Cwnstabl yn cydnabod 'Pump Caerdydd' fel 'dioddefwyr'

  • Cyhoeddwyd
Lynette WhiteFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Lynette White yn 20 mlwydd oed pan gafodd ei lladd yng Nghaerdydd yn 1988

Dylai aelodau "Pump Caerdydd" gael eu "cydnabod fel dioddefwyr", meddai uwch heddwas gyda Heddlu De Cymru.

Cafodd John Actie, Ronnie Actie, Stephen Miller, Tony Paris ac Yusef Abdullahi eu carcharu ar ôl cael eu cyhuddo ar gam o lofruddio Lynette White, 20, yn ardal dociau Caerdydd yn 1988.

Dywedodd cyn-brif gwnstabl Heddlu de Cymru, Matt Jukes, ei fod yn "ymddiheuro am yr effaith ar eu bywydau".

Roedd Mr Jukes yn siarad ar raglen ddogfen newydd y BBC, 'A Killing In Tiger Bay', am yr achos.

Mae'r achos yn cael ei ystyried fel un o'r camgymeriadau cyfiawnder mwyaf difrifol yn hanes cyfreithiol y DU.

Fe wnaeth John Actie - un o dri aelod "Pump Caerdydd" sy'n fyw hyd heddiw - ddiolch iddo am siarad "yn wych ac yn gywir", gan ychwanegu mai "dyna'r geiriau yr oedden ni eisiau eu clywed flynyddoedd yn ôl".

'Amser i wrando a gweithredu'

Wrth siarad fel prif gwnstabl Heddlu De Cymru, cyn iddo ddod yn Gomisiynydd Cynorthwyol yn Llundain, dywedodd Mr Jukes fod yna "gyfrifoldeb enfawr o dryloywder" dros yr achos.

"Ymunais â'r heddlu yng nghanol y '90au, felly roedd ar ôl cyfres o gamgymeriadau cyfiawnder, ac roedd yr achos hwn yn un ohonynt," meddai ar y rhaglen ddogfen.

Disgrifiad o’r llun,

Dychwelodd John Actie i'r celloedd y cafodd ei garcharu ynddynt

"Mae'n rhaid i mi gydnabod 'Tri Caerdydd' a'r pump oedd wedi'u harestio'n wreiddiol fel dioddefwyr.

"Mae'n amser i wrando ond hefyd yn amser i weithredu; mae'n amser i'r sector cyhoeddus a'r gymdeithas ehangach i gyd gydnabod bod hiliaeth yn dal i fod yn ein cymunedau.

"Mae'r anfantais y mae cymunedau du yn ei phrofi trwy'r system gyfiawnder troseddol yn real ac yn bresennol ac mae'n rhaid mynd i'r afael â hi... Rwy'n gwybod y bydd hi'n parhau i fod yn ffocws enfawr i Heddlu De Cymru.

"Mae'n ddrwg gen i am yr effaith a gafodd Heddlu De Cymru a'r system gyfiawnder troseddol ar 'Dri Caerdydd', ac ar y pump a gafodd eu harestio. Mae'n ddrwg gen i am yr effaith y mae wedi'i chael ar eu bywydau."

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru / PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond yn 2003 y cafwyd llofrudd Lynette White yn euog

Cafwyd hyd i Lynette White, oedd yn 20 oed, wedi'i thrywanu dros 50 gwaith mewn fflat yn ardal dociau Caerdydd ar 14 Chwefror, 1988.

Er bod ditectifs Heddlu De Cymru wedi dweud eu bod yn chwilio am berson gwyn dan amheuaeth, cafodd pump o ddynion du neu hil-gymysg eu harestio a'u cyhuddo o'i llofruddio.

Ar ôl 19 o gyfweliadau gan swyddogion, cafwyd cyfaddefiad ffug gan Stephen Miller, cariad Ms White.

Daeth achos cyntaf y pum dyn i ben ar ôl i'r barnwr farw yn ystod y broses.

Ar ôl tua dwy flynedd yn y ddalfa, cafwyd John a Ronnie Actie yn ddieuog.

Ond cafwyd Stephen Miller, Yusef Abdullahi a Tony Paris yn euog ac fe'i dedfrydwyd am oes - rhain a ddaeth i gael eu hadnabod fel "Tri Caerdydd".

Cafodd y tri eu carcharu ar gam cyn cael eu rhyddhau ar apêl yn 1992.

'Teimlo fel carcharor rhyfel'

Dywedodd y Barnwr Arglwydd Ustus Taylor, ei bod - yn brin o gam-drin corfforol - yn "anodd creu dull mwy gelyniaethus a brawychus gan swyddogion heddlu yn ystod cyfweliad Stephen Miller".

Wrth gael ei holi, cyfaddefodd Mr Miller i'r llofruddiaeth gan enwi eraill fel rhai oedd yn gyfrifol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Stephen Miller ei fod yn teimlo fel "carcharor rhyfel"

"Pam 'nes i gyhuddo dynion diniwed? Mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i mi fynd i'r bedd gyda fi," meddai.

"Rwy'n 22 oed yn eistedd mewn gorsaf heddlu, ac fe wnaethon nhw fy rhoi yn yr ystafell 'ma a dechrau taflu pethau ata i - honiad ar ôl honiad - roedd yn anodd.

"Rwy'n credu pe bydden nhw wedi dweud bod Duw yno gyda mi, byddwn i wedi dweud ie.

"Roeddwn i'n teimlo fel carcharor rhyfel. Fe wnaethon nhw fynd â fi oddi ar y stryd a dweud wrtha i fy mod i wedi gwneud hyn."

Cafodd y llofrudd go iawn - Jeffrey Gafoor - ei garcharu yn 2003 diolch i dystiolaeth DNA.

Yn 2011 rhoddwyd swyddogion heddlu a fu'n rhan o'r ymchwiliad gwreiddiol a diffygiol ar brawf am lygredd honedig. Fe wnaethon nhw wadu'r cyhuddiadau.

Cwympodd yr achos gwerth £30m oherwydd gwaith papur coll a oedd - yn ôl pob sôn - wedi'i ddinistrio, ond cafodd ei ddarganfod ychydig wythnosau ar ôl i'r achos ddod i ben.

'Ni'n ddieuog ac yn ddioddefwyr'

Dywedodd adolygiad swyddfa gartref fod yr ymchwiliad yn cynrychioli "un o'r camgymeriadau gwaethaf o gyfiawnder yn hanes ein system gyfiawnder troseddol".

Ffynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ronnie Actie a Yusef Abdullahi wedi marw bellach

Bu farw Yusef Abdullahi yn 2011.

Cafwyd hyd i Ronnie Actie yn farw yn 2007. Dywedodd ei ffrindiau ei fod wedi cael trafferth ymdopi ar ôl amser yn y carchar.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Tony Paris yn croesawu sylwadau Matt Jukes

Collodd Tony Paris ei dad ychydig wythnosau cyn iddo gael ei ryddhau gan y Llys Apêl yn 1992.

Dywedodd wrth y rhaglen mai "dyna beth laddodd fy hen ddyn, fe aethon nhw â'i fachgen i ffwrdd, dweud iddo wneud rhywbeth na wnaeth, ac rydyn ni'n gwybod hynny".

Dywedodd Mr Paris ei fod yn falch hefyd fod uwch heddwas bellach yn ei ddisgrifio ef a'r pedwar arall fel "dioddefwyr".

"Mae'n bwysig, 30 mlynedd yn ddiweddarach, oherwydd er ein bod ni wedi cael ymddiheuriadau o'r blaen, nawr gall y byd i gyd weld ein bod ni'n ddieuog ac ein bod ni'n ddioddefwyr," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Matt Jukes yn Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru tan 2020

Fe wnaeth y swyddogion heddlu a fu'n rhan o'r ymchwiliad gwreiddiol wrthod cymryd rhan yn y rhaglen.

Dywedodd Matt Jukes fod "cwestiwn atebolrwydd" yn yr achos hwn gyda'r "sefydliad a'i uwch arweinyddiaeth".

"Wrth gwrs, mae'n bwysig dweud bod yr achos hwn wedi effeithio'n fawr ar lawer o bobl eraill - unigolion a oedd yn rhan o'r ymchwiliad, unigolion a oedd yn dystion," meddai.

"Mae'r sefydliad - ei broffesiynoldeb, ei onestrwydd - yn wahanol nawr nag yr oedd yn y gorffennol.

"Rwy'n credu bod gan bob oes ei heriau ei hun, ac mae ein disgwyliadau nawr ynglŷn â'r ffordd rydyn ni'n cynnal ein hunain a'n hymchwiliadau nid yn unig mor wahanol, ond maen nhw hefyd yn agored i gymaint mwy o archwiliadau.

"Mae'n achos o dristwch gwirioneddol fod enw Lynette yn cael ei ddefnyddio fel llaw-fer ar gyfer yr achos hwn ac mae'n hawdd anghofio bod bywyd merch ifanc wedi'i golli."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd John Actie ei fod yn gobeithio y byddai'r rhaglen ddogfen yn dangos i bobl yn y DU ac ar draws y byd "yn union beth ddigwyddodd"

Wrth ymateb i gyfweliad Mr Juke, dywedodd John Actie: "Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr fod Matt Jukes wedi dweud y pethau hyn. Hoffwn ddweud diolch yn fawr.

Dywedodd Mr Actie ei fod yn gobeithio y byddai'r rhaglen ddogfen yn dangos i bobl yn y DU ac ar draws y byd "yn union beth ddigwyddodd" ac yn tynnu sylw at yr effeithiau hirdymor ar y rhai dan sylw.

"Mae'r gwir yn bwysig - bydd y gwir yn eich rhyddhau chi - ac mae rhyddid yn amhrisiadwy. Ni allwch chi brynu eich rhyddid."

A Killing In Tiger Bay, 9 Medi am 21:00 ar BBC One Wales, BBC Two yng ngweddill y DU, ac ar iPlayer.