Ateb y Galw: Yr artist Meirion Jones
- Cyhoeddwyd
Yr artist Meirion Jones sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan Ion Thomas yr wythnos diwethaf.
Mae Meirion yn byw ar fferm fach ger Aberteifi, ac mae'n adnabyddus am ei ddarluniau o dirlun a phobl y gorllewin. Mae'n artist llawn-amser ac yn rhannu stiwdio gyda'i wraig Joanna, sydd hefyd yn artist.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Mae'n rhaid mod i'n ddwy neu'n dair oed pan logodd fy rhieni garafán sipsi yng Ngorllewin Iwerddon, un a dynnid gan gaseg fawr wen. Yr atgof cynta' sy' gennyf yw gweld y lleuad lawn drwy ffenestr addurniedig y garafán ar lan un o lynnoedd Connemara.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Cwestiwn anodd. Gallwn fynd ȃ chi o Bwllderi i Geibwr i Ystrad Fflur. Ond fe ddyweda' i Lyn Y Fan Fach gan fod y gwreiddiau yn ddwfn yn Y Mynydd Du.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Eisteddfod Genedlaethol Abertawe oedd hi, ac yn y Glamorgan Arms pan oedd Neil Rosser yn canu, dyma gyfarfod ȃ merch sydd bellach yn wraig imi.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Difrifol, doniol, mympwyol.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Iwerddon eto. Erbyn hyn roeddwn yn fy arddegau cynnar. Minnau, fy chwaer a'm rhieni ar wyliau carafanio yn ne-orllewin y wlad. O bob man, dyma ni yng nghanol dinas Corc ar adeg brysuraf y dydd yn mynd yn erbyn llif y traffig mewn system tair lôn! Gyda'r garafán yn bownsio'n anniddig tu ȏl y car.
Roedd y ceir yn dod atom mewn anghrediniaeth, cyrn yn canu ac yn sgrialu fel mewn cartŵn. Stopiwyd y ceir gan Garda mawr pwyllog a awgrymodd wrth fy nhad y dylai wneud tro pedol. Dyna a wnaeth. Ac wrth inni fynd i'r cyfeiriad iawn fe ddywedodd y Garda gyda hanner gwên: "I hope they'll keep a welcome in the valleys for yous!"
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Fe ollyngais ddeigryn pan fu farw eboles fach bert a aned i un o'n cesig ni. Enfys.
O archif Ateb y Galw:
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Os mai ffotograff yw 'llun' fan hyn, byddwn yn dewis yr un ohona' i a Joanna (y wraig) yn paratoi i esgyn troedfynyddoedd yr Andes gyda'r gauchos.
(Dw i'n reit hoff o'r un ohona' i a Maradona yn Buenos Aires hefyd!)
Os mai darlun yw 'llun' yna byddwn yn dewis Goleuni gan Aneurin (yr artist Aneurin Jones sy'n dad i Meirion) gan ei fod yn 'dal' y gwladwyr mwyn oedd yn lluosog yng Ngheredigion ar un adeg.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Rwy'n hoff o America Ladin. Tra'n teithio o gwmpas Venezuela un haf gydag enaid hoff cytun (Hywel Roderick), penderfynwyd bod angen hoe, a chael rhai dyddiau yn lolian ar draeth. Felly ar draeth Choroni, un poblogaidd a phoblog, dyma ganfod llecyn ar y tywod yng nghanol y lluoedd. Yn fy shorts Umbro gwyn, brasgamais drwy'r teuluoedd a'r cariadon i ymdrochi yn nŵr emrallt Y Caribî.
"Mor braf yw bywyd," meddyliwn, "paradwysaidd yn wir!" Ond ar y ffordd nȏl drwy'r traeth at y tywel dyma sylwi fod rhai pobol yn gwenu arnaf, eraill yn chwerthin, a rhai yn rhythu gan ysgwyd eu pennau. Ar ȏl imi eistedd, daeth gwerthwr hufan iȃ ataf gan ddweud yn araf mewn Sbaeneg: "Ydych chi'n sylweddoli gyfaill fod eich shorts yn dryloyw pan yn wlyb?!"
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Roedd gen i lais canu angylaidd pan yn fach.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Onibai mod i methu cyffro, byddwn yn codi peint o Guinness i gyfeillion ac anwyliaid, i ddiolch iddynt am bob chwerthiniad ac antur a thynnu coes.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Anwybyddu galwadau ffȏn.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Caradoc Evans. Er mwyn cael cyfle i ofyn iddo faint o wirionedd ffeithiol sydd yn ei straeon.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Fy hoff lyfr yw Dail Pren gan Waldo. Pam? Wel, am fod y cerddi yn fythol wyrdd ac yn gysur mewn adegau tywyll. Ffilm? The Magnificent Seven! Arwriaeth a rhamant - ac mae rhywbeth pruddglwyfus yn fy natur sy'n dyheu am farchogaeth i'r machlud.
Beth ti'n edrych mlaen at wneud mwya' unwaith fydd pandemig Covid wedi dod i ben?
Parhau i hunan-ynysu!
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
I ddweud y gwir, does dim awydd arna' i i fod yn neb arall.