'Angen gwell adnoddau misglwyf mewn gwyliau cerddorol'
- Cyhoeddwyd
Mae yna alwadau ar i wyliau cerddorol ddarparu gwell adnoddau i ferched yn ystod eu misglwyf.
Dywed y cerddor Francesca Dimech ei bod wedi cael pwl o banig yn ystod yr haf wedi iddi sylweddoli y byddai ei misglwyf yn dod yn ystod gŵyl gerddorol.
Fel arfer byddai Ms Dimech, 37 o Gaerdydd, yn cymryd meddyginiaeth er mwyn gohirio ei misglwyf ond y tro hwn fe wrthododd y fferyllydd â rhoi presgripsiwn iddi.
Mae hi ymhlith nifer sy'n galw am well adnoddau mewn gwyliau i bobl yn ystod eu misglwyf.
"Dylai bod cyfleusterau mwy pwrpasol ar gael," meddai. "Dwi ddim yn sôn am unrhyw ŵyl yn benodol ond pob un."
Dywedodd y gantores a'r actores mai'r unig beth yr oedd hi'n gallu meddwl amdano cyn mynd i Ŵyl y Dyn Gwyrdd yng nghanolbarth Cymru fis diwethaf oedd prynu cynnyrch anymataliaeth (incontinence) ac roedd hi, meddai, wedi ystyried gwisgo cewyn.
Dywed nad yw toiledau mewn gwyliau yn gyffredinol yn "neis iawn" ac yn aml does yna ddim lle i roi tampons neu dyweli.
Mae Francesca, sydd wedi bod yn mynychu gwyliau ers ei harddegau, am i drefnwyr ddarparu gwell adnoddau gan gynnwys biniau a dŵr rhedegog gerllaw.
"Fe wnes i drio defnyddio cwpan mislif, dyna dwi'n ei ddefnyddio fel arfer, ond mae'n rhaid i chi ei olchi fe ac yn y toiled penodol es i doedd yna ddim dŵr gerllaw," meddai.
"Ac roedd yr un lle roedd 'na ddŵr yn fan cymunedol lle roedd pobl yn golchi eu dannedd."
Dywed y berfformwraig bod y sefyllfa yn un anodd i bobl fel hi sydd â fibroids neu endometriosis.
"Mi wnes i ystyried defnyddio y toiledau pobl anabl ac yna 'nes i feddwl pam y dylwn ni? Dwi ddim yn anabl. Dwi'n fenyw ac y mae hyn yn broses naturiol i ddynes a ddylwn i ddim fod yn gorfod defnyddio toiled i bobl anabl."
Yn ôl cynrychiolwyr o'r elusen 'Swansea Takes on Period Poverty' (STOPP) mae'r profiad yn gallu bod yn annynol ac yn ddigalon.
Maent yn dweud "bod yn rhaid i drefnwyr digwyddiadau feddwl am gyfleusterau sydd eu hangen a hynny wrth i fwyfwy o ddigwyddiadau gael eu cynnal y tu allan yn sgil Covid".
"Nid moethusrwydd ry'n ei angen ond hwylusdra," meddent.
Mae elusen STOPP yn galw am ailddefnyddio cynnyrch ond yn aml dyw hi ddim yn ymarferol defnyddio deunyddiau o'r fath a'u cadw'n lân mewn digwyddiadau.
"Yn amlwg does dim digon o feddwl wrth wraidd digwyddiadau... i ddarparu mannau golchi diogel a glân, fe allen ni ddarparu cynnyrch a fyddai'n gwneud y cyfan yn brofiad cadarnhaol," meddent.
Mae Gŵyl Shambala yn Sir Northampton yn darparu cyfleusterau penodol.
Mae'r 'Red Sea Travel Agency' yng Ngŵyl Shambala yn darparu sinc i olchi cwpanau misglwyf a gofod cysurus lle gall merched gael potel ddŵr poeth os oes angen.
Dyma'r ŵyl gyntaf i gynnig darpariaeth o'r fath.
"Yr hyn fydden ni'n hoffi i ddigwydd yw bod gofod o'r fath yn dod yn beth normal," medd y trefnwyr.
Dywedodd llefarydd ar ran Gŵyl y Dyn Gwyrdd bod y trefnwyr wastad yn edrych am ffyrdd i wella cyfleusterau fel bod pawb yn gallu teimlo'n gyfforddus.
"Roedd hon yn flwyddyn wahanol yn sgil Covid ac roedd ymarferoldeb pethau yn anodd ond fe fyddwn yn gallu darparu cyfleusterau penodol y flwyddyn nesaf," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Medi 2020
- Cyhoeddwyd23 Awst 2021
- Cyhoeddwyd19 Awst 2021