Disgwyl tair blynedd am atebion i farwolaeth merch 4 oed
- Cyhoeddwyd
Mae dynes a gollodd ei merch pedair oed i sepsis wedi dweud bod disgwyl dros dair blynedd am gwest wedi ychwanegu at ei galar.
Bu farw Skyla Whiting o Flaenafon, Torfaen o fewn dyddiau wedi iddi gael ei tharo'n wael ym mis Mai 2018.
Dywedodd ei mam, Amy Whiting, bod disgwyl am y cwest wedi bod "fel cwmwl mawr du dros ein pennau".
Erbyn hyn mae disgwyl i'r cwest i farwolaeth Skyla gael ei gynnal ar 19 Tachwedd.
Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder fod y pandemig wedi achosi "heriau sylweddol" ond fod gwasanaethau fel cwestau ac achosion llys wedi parhau.
Dywedodd Mrs Whiting fod Skyla wedi dod adref o'r ysgol ym mis Mai 2018 gyda phoen yn ei bol, ac roedd eu meddyg teulu yn credu efallai bod ei alergedd i lactos wedi dychwelyd.
Wedi i symptomau Skyla waethygu dros nos aeth ei mam â hi at y meddyg teulu eto'r diwrnod canlynol, a ddywedodd bod ganddi haint feirol.
Ond wedi i'w chyflwr waethygu eto y noson honno fe wnaeth y teulu ei chymryd i adran frys Ysbyty Nevill Hall yn Y Fenni.
Wedi iddi dreulio ychydig o amser ar ward y plant cafodd y teulu wybod eto mai haint feirol oedd ar Skyla, ac fe gafon nhw eu gyrru adref.
Pan wnaeth ei chyflwr barhau i waethygu dros nos fe wnaeth Mrs Whiting ffonio'r ysbyty a gofyn iddi gael ei gweld eto, ac er i'r ysbyty wrthod i ddechrau, cafodd ei derbyn yn ôl i ward y plant yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.
Fe wnaeth profion gwaed ganfod bod ei lefelau heintio yn uchel iawn.
"Roedd ei gwefusau wedi troi'n las ac roedd poen ofnadwy yn ei choesau," meddai Mrs Whiting.
"Fe gymrodd hi nes 07:00 y bore wedyn i ymgynghorydd ddod i'w gweld hi, ac fe wnaeth e sylweddoli bryd hynny ei bod mewn sioc septig.
"Cafodd ei chymryd i Ysbyty Plant Arch Noa [yng Nghaerdydd], oedd yn wych gyda hi, ond yn anffodus roedd hi'n rhy hwyr erbyn i ni gyrraedd yno."
Fe wnaeth cyflwr Skyla waethygu eto dros nos a bu farw ar 15 Mai.
'Ddrwg iawn gennym'
Dywedodd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan eu bod yn cydymdeimlo gyda theulu Skyla a'i bod yn "ddrwg iawn gennym am amgylchiadau'r gofal a dderbyniodd hi".
Ychwanegodd fod ymchwiliad llawn wedi'i gynnal i'r mater a bod y canfyddiadau wedi cael eu rhannu gyda'r teulu ac uwch-grwner Gwent.
Dywedon nhw hefyd fod y bwrdd iechyd wedi gweithredu i fynd i'r afael â'r diffygion a godwyd yn yr ymchwiliad.
"Mae disgwyl i'r cwest ddigwydd, neu hyd yn oed darganfod bod e am ddigwydd o gwbl, yn sugno eich egni i gyd," meddai Mrs Whiting.
"Mae fel cwmwl mawr du dros eich pennau - mae pawb yn gwybod pa mor anodd ydy mynd trwy gwest ac mae disgwyl amdano yn flinedig a llafurus.
Galw am gyfathrebu
Mae hi'n galw hefyd am gyfathrebu gwell rhwng y system gyfiawnder a'r rheiny sydd wedi colli anwyliaid.
"Dydw i ddim wedi cael gwybod pam fod y cwest wedi'i oedi. Dydw i ddim yn gwybod os mai Covid yw'r rheswm," meddai Mrs Whiting.
"Rydych chi'n mynd mor hir heb glywed unrhyw beth ac mi fyddai mor dda cael eich hysbysu am beth sy'n digwydd."
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Tra bo'r pandemig wedi achosi heriau sylweddol, mae'r gwasanaethau allweddol yma wedi parhau - diolch i grwneriaid ymroddedig, eu staff, a nawdd ychwanegol gan y llywodraeth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Awst 2021
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2020