Pryder am gynllun i droi chwarel yn safle ailgylchu

  • Cyhoeddwyd
ChwarelFfynhonnell y llun, Connor Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Does yna ddim cloddio wedi bod yn Chwarel Cilyrychen ers 20 mlynedd, ac mae wedi datblygu yn hafan i fywyd gwyllt

Mae pobl sydd yn byw ger hen chwarel yn Sir Gaerfyrddin yn honni y bydd cynlluniau i ddefnyddio'r safle i ailgylchu gwastraff adeiladu yn cael effaith niweidiol ar fywyd gwyllt a chynyddu lefelau traffig yn yr ardal.

Mae cwmni TRJ o Rydaman, sydd yn gyfrifol am y cynlluniau, yn dweud y byddan nhw yn ystyried unrhyw wrthwynebiadau ac yn gofyn i ymgynghorwyr eu hystyried a chyflwyno atebion sydd yn dderbyniol i bawb.

Mae ymgyrchwyr yn erbyn y cynlluniau ar gyfer Cilyrychen yn dweud bod lefelau dŵr llyn y chwarel wedi gostwng yn sylweddol yn ystod yr wythnosau diwethaf, sydd wedi arwain at ymchwiliad gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Does yna ddim cloddio wedi bod yn Chwarel Cilyrychen ers 20 mlynedd, ac mae wedi datblygu yn hafan i fywyd gwyllt.

Mae tir cyfagos wedi ei ddynodi yn ardal o ddiddordeb gwyddonol arbennig.

Yn ôl trigolion lleol, mae'r ardal yn gynefin i hebogiaid tramor, ystlumod, gwiberod a phathewod.

Disgrifiad o’r llun,

Mae pryder y byddai'r cynllun yn gweld cynnydd enfawr yn nifer y lorïau sy'n teithio trwy bentref Llandybie

Bwriad cwmni Dolawen Cyf - is-gwmni TRJ o Rydaman - ydy datblygu safle i ailgylchu gwastraff adeiladu o fewn y chwarel.

Fe fydd peth cerrig yn cael ei gywasgu a'i ailddefnyddio ar gyfer prosiectau adeiladu.

Mae pobl sydd yn byw gerllaw yn bryderus y bydd lefelau traffig yn cynyddu, ac yn honni y gallai 140 o lorïau deithio trwy bentref Llandybie i gyrraedd safle'r chwarel.

Maen nhw'n dweud y bydd y llwch a'r llygredd sŵn yn niweidiol i fywyd gwyllt.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Siân Protheroe mae pryderon pobl leol yn cynnwys traffig, yr amgylchedd a'r sŵn

Dywedodd Siân Protheroe, sydd â dau o blant yn Ysgol Gynradd Llandybie: "Beth ni'n becso amdano mwyaf yw faint o draffig sydd yn mynd i ddod trwy Landybie.

"Ni'n edrych ar bethau fel lorïau enfawr sydd yn llawn cerrig ac yn y blaen.

"Mae'r heol yn mynd reit heibio'r ysgol. Mae'r cyngor eisiau i ni gerdded i'r ysgol.

"Mae pobl yn poeni am yr effaith ar yr amgylchedd, bywyd gwyllt o gwmpas y lle a'r sŵn."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd John Roberts fod lefelau traffig yn "ddigon gwael yna ar hyn o bryd"

Ychwanegodd John Roberts, sy'n byw ym Mhentregwenlais, dafliad carreg o'r chwarel: "Mae'r cwar ei hun wedi dod yn le mae bywyd gwyllt yn byw. Mae'n mynd i gael effaith ar hwnnw, s'dim dowt.

"Ond hefyd y broblem fwyaf gyda fi yw'r drafnidiaeth yn y pentref.

"Mae'n ddigon gwael yna ar hyn o bryd, yn enwedig pan mae pobl yn mynd i'r gwaith a phlant yn mynd i'r ysgol.

"Mae'n mynd i effeithio ar gymaint o bobl."

Deiseb yn erbyn y cais

Fe ddaeth dros 100 o bobl i gyfarfod cyhoeddus yn ddiweddar, ac mae 600 o bobl wedi arwyddo deiseb ar-lein yn erbyn y cais.

Mae ymgyrchwyr yn erbyn y cais yn honni bod dŵr yn cael ei bwmpio o'r chwarel yn barod, ac mae ganddyn nhw luniau sydd yn dangos lefel y dŵr yn gostwng yn ystod yr wythnosau diwethaf sydd, medden nhw, yn groes i gyngor Cyfoeth Naturiol Cymru.

Ffynhonnell y llun, Connor Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrchwyr dweud fod lefel y dŵr yn y chwarel eisoes yn gostwng

Doedd Cyfoeth Naturiol Cymru ddim yn barod i wneud sylw am y cais cynllunio, ond mewn dogfen sydd wedi ei chyflwyno i Gyngor Sir Caerfyrddin fel rhan o'r broses gynllunio, maen nhw'n "mynegi pryder am y cais oherwydd bod yna ddiffyg gwybodaeth am rywogaethau, bywyd adar, safleoedd gwarchodedig, a ffyrdd o atal llygredd".

Mae'r ddogfen hefyd yn nodi y dylai'r ymgeisydd gael trwydded cyn symud dŵr o lyn y chwarel.

'Atebion sy'n dderbyniol i bawb'

Dywedodd cwmni TRJ eu bod nhw'n ystyried "sylwadau a gwrthwynebiadau sydd yn cael eu codi ynglŷn â'r cynlluniau".

Mae'r cwmni wedi gofyn i'w ymgynghorwyr ymchwilio i'r sylwadau hyn ac i lunio atebion sydd yn dderbyniol i bawb.

"Fe fydd y casgliadau yn cael eu hanfon at yr adran gynllunio fydd yn llunio argymhelliad," meddai llefarydd.

"Gan fod y cais bellach o fewn y system gynllunio, dyw hi ddim yn briodol i wneud sylw pellach."

Pynciau cysylltiedig