Cannoedd mewn rali 'undod' yn dilyn fandaliaeth Parc Bute
- Cyhoeddwyd
Mae cannoedd o bobl wedi gorymdeithio ym Mharc Bute yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn mewn ymateb i'r difrod gwerth miloedd o bunnau a gafodd ei wneud yr wythnos ddiwethaf.
Cafodd yr orymdaith ei threfnu o gwmpas y parc fel "ymateb positif" i'r fandaliaeth, yn ôl trefnydd y digwyddiad.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw'n parhau gyda'u hymchwiliadau i'r difrod a bod patrolau mwy cyson yn parhau yn y dydd a gyda'r nos.
Mae is-gonswl Japan hefyd wedi dweud y bydd y wlad yn rhoi anrheg o goed ceirios i helpu adnewyddu'r parc.
Cafodd tua 50 o goed, gan gynnwys rhai rhywogaethau prin, eu torri gyda llifiau'r wythnos ddiwethaf, ac roedd hanner y coed a ddinistriwyd wedi eu plannu er cof am bobl sydd wedi marw.
Dywedodd ceidwaid y parc y bydd yn cymryd degawdau i adfer y difrod.
Yn dilyn yr ymosodiad, cafodd pobl eu gwahodd i ddigwyddiad 'Adfer Parc Bute' ac yna picnic yn y parc ddydd Sadwrn.
Cafodd y digwyddiad ei drefnu gan berchennog caffi'r Ardd Gudd, Melissa Bootham.
Mewn neges ar Facebook dywedodd y byddai'n ffordd o ddangos "undod a gwrthwynebiad cyfeillgar".
Roedd Roz Adams yn un o'r rheiny ar yr orymdaith, a dywedodd ei bod hi eisiau bod yno i "ddangos cefnogaeth" yn dilyn y fandaliaeth.
"Pam fyddech chi'n gwneud hynny? Pam fyddech chi'n blocio draenau? Pam fyddech chi'n torri coed?" meddai.
Ychwanegodd fod gweld cymaint o bobl yn yr orymdaith wedi codi ei chalon a dangos fod "mwy o bobl da na drwg".
Dywedodd Dora Furnival, un arall o'r gorymdeithwyr, fod Parc Bute wedi bod yn ddiangfa bwysig i bobl Caerdydd yn ystod y pandemig.
"Bydd Parc Bute wastad yn berchen i bobl Caerdydd a bydd e wastad yn le ar gyfer positifrwydd," meddai.
Ychwanegodd James Horne ei fod yn dorcalonnus y glywed am y fandaliaeth, yn enwedig o ystyried y pwyslais cynyddol ar bwysigrwydd bywyd gwyllt a'r amgylchedd.
"Nid pobl meddw oedd rhain yn mynd drwyddo a torri brigau, roedd e'n ymosodiad pwrpasol wedi'i gynllunio," meddai.
"Ni dal methu cael ein pennau rownd y peth."
Japan i roi coed ceirios i'r parc
Mewn tro annisgwyl mae Japan yn rhoi 100 o goed ceirios ar gyfer prosiect cyfeillgarwch, ac mae diplomydd wedi awgrymu defnyddio 50 yn y parc.
Cafodd nifer tebyg eu dinistrio gan yr ymosodwyr.
Cadarnhaodd Keith Dunn, is-gonswl anrhydeddus Japan i Gymru, bod y coed ceirios Sakura yn cael eu rhoi gan bobl Japan i Gymru fel symbol o gyfeillgarwch rhwng y ddwy genedl.
Maen nhw'n cael eu rhoi fel rhan o'r prosiect sy'n gysylltiedig â Thymor o Ddiwylliant Japan â'r DU, sy'n cael ei ddathlu yn y ddwy wlad.
Dechreuodd y dathliad yn 2019 ond cafodd ei ymestyn ar ôl nifer o ohiriadau o ganlyniad i'r pandemig.
Dywedodd Mr Dunn: "Mae'r rhain yn symbol cryf o'n cyfeillgarwch gall gael ei gefnogi a'i fwynhau gan genhedloedd y dyfodol a dwi'n gobeithio bydd y planhigion newydd yma'n cael eu croesawu gan ein cymunedau yn y dyfodol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Medi 2021
- Cyhoeddwyd10 Medi 2021