Ysgol Filfeddygaeth Aberystwyth yn agor am y tro cyntaf

  • Cyhoeddwyd
Ysgol filfeddygol
Disgrifiad o’r llun,

Bydd myfyrwyr yn dysgu trin anifeiliaid mawr a bach

Mae'r ysgol gyntaf erioed yng Nghymru i hyfforddi milfeddygon yn agor ei drysau i fyfyrwyr ddydd Llun.

Mae'r Ysgol Gwyddor Filfeddygol wedi'i lleoli ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae'n cynnig gradd gydweithredol bum mlynedd a ddarperir ar y cyd gan y brifysgol a'r Coleg Milfeddygol Brenhinol (RVC).

Bydd myfyrwyr yn treulio dwy flynedd gynta'r cwrs yn Aberystwyth ac yna tair blynedd ar Gampws yr RVC yn Hawkshead yn Sir Hertford.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed yr Athro Darrell Abernethy fod agor yr ysgol yn "ddiwrnod cyffrous" ac yn "benllanw blynyddoedd o waith"

Dywedodd yr Athro Darrell Abernethy, pennaeth a chadeirydd yr ysgol newydd, ei fod yn gyffrous gweld "cynllun sydd wedi'i drafod ers amser hir yn cael ei wireddu o'r diwedd".

"Mae'n benllanw blynyddoedd o waith caled a gweledigaeth pobl o flynyddoedd yn ôl," meddai.

"Cafodd y syniad o ysgol filfeddygaeth ei gynnig 120 o flynyddoedd yn ôl, ac mae'n digwydd nawr o'r diwedd, felly mae'n hynod gyffrous."

Mae'r cwrs gradd newydd yn Aberystwyth wedi denu llawer o ddiddordeb - roedd bron i 150 o ymgeiswyr am y 25 lle sy'n cael eu cynnig yn flynyddol.

'Addysg drwy'r Gymraeg yn bwysig'

Er bod y cwrs yn agored i unrhyw un, dywedodd yr Athro Abernethy mai un o dargedau'r ysgol newydd yw denu ymgeiswyr o Gymru.

Dywedodd fod Cymru yn anfon llai o geisiadau milfeddygol i brifysgolion nag unrhyw un o genhedloedd eraill y DU.

Bydd y cwrs yn Aberystwyth hefyd yn cynnig cyfle i astudio agweddau o'r radd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd 150 o fyfyrwyr wedi ceisio am y 25 lle sydd ar gael yn yr Ysgol Filfeddygaeth

Bydd y myfyrwyr cyntaf yn defnyddio cyfleusterau newydd sbon ar ôl i'r brifysgol fuddsoddi £1m mewn Canolfan Addysg Filfeddygol ar Gampws Penglais - mae'r ganolfan yn cynnwys labordy anatomeg, ystafell hyfforddi ar gyfer trin anifeiliaid ac ystafell astudio ar wahân.

Dywedodd Anya Williams o Lanrug, un o'r myfyrwyr cyntaf yn yr Ysgol Filfeddygol newydd: "Mae'n hynod gyffrous. Dwi'n teimlo'n hynod freintiedig i fod ymysg y myfyrwyr cyntaf i allu astudio i fod yn filfeddyg yng Nghymru, ac yn elwa o'r cyfleusterau newydd.

"Mae'n hanfodol i'r wlad, i amaethyddiaeth a'r gymuned yn ehangach bod milfeddygon yn gallu cael eu hyfforddi yma.

"Mae'n bwysig i mi fod modd derbyn profiad ac addysg drwy'r Gymraeg hefyd - wedi'r cwbl mae cyfathrebu yn Gymraeg mor bwysig i'r sector. Dwi'n edrych ymlaen yn arw at ddechrau'r astudiaethau."

Bydd myfyrwyr yn cael eu hyfforddi i drin pob math o anifeiliaid - o anifeiliaid anwes domestig i anifeiliaid fferm a hyd yn oed rhywogaethau egsotig.

O ystyried natur wledig Aberystwyth a'r ardal gyfagos bydd pwyslais ar anghenion milfeddygol amaethyddiaeth.

Prinder milfeddygon

"Ar ôl Brexit mae prinder milfeddygon ledled y wlad, ac mae'r porthladdoedd mynediad yn golygu fod Cymru yn fwy prin o filfeddygon," ychwanegodd yr Athro Abernethy.

"Mae yna brinder yn arbennig mewn milfeddygfeydd gwledig, yn enwedig ym maes anifeiliaid mawr - creaduriaid fferm. Felly mae'n rhaid i ni gefnogi'r proffesiwn."

Dywed Cymdeithas Filfeddygol Prydain (BVA) fod cyflogwyr milfeddygol mawr ledled y DU wedi nodi cyfradd swyddi gwag o oddeutu 11% yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Dywedodd y BVA fod Brexit a Covid wedi gwaethygu'r problemau recriwtio, ac mae cynnydd sylweddol ym mherchnogaeth anifeiliaid anwes yn ystod y pandemig - heb unrhyw gynnydd tebyg mewn milfeddygon - wedi golygu galw llawer mwy am wasanaethau milfeddygfeydd.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd myfyrwyr yn treulio dwy flynedd yn Aberystwyth ac yna yn symud i Sir Hertford

Dywedodd Collin Willson, Llywydd Cangen Cymru y BVA: "Mae ysgolion a llefydd newydd i hyfforddi yn rhan o'r ateb i fynd i'r afael â phrinder yn y gweithlu yng Nghymru a ledled y DU.

"Rydym yn falch iawn o weld carfan newydd o filfeddygon y dyfodol yn cychwyn yn Aberystwyth, a dylai hyn helpu i gynyddu capasiti dros amser.

"Fodd bynnag, rydym wedi gwneud y pwynt bod angen i leoedd newydd gael eu cefnogi gan gyllid ac adnoddau ychwanegol, er mwyn sicrhau'r canlyniadau mwyaf posibl ac osgoi lledaenu'r gyllideb yn rhy denau ar draws cyrsiau newydd a rhai sy'n bodoli eisoes."

Y gobaith yw y bydd myfyrwyr y cwrs newydd yn penderfynu aros yng Nghymru i weithio ar ôl iddynt raddio ymhen pum mlynedd. Yn ystod y cwrs byddant yn cael cynnig profiad gwaith gyda milfeddygon lleol.

Dywedodd Phil Thomas, cyfarwyddwr ym Milfeddygon Ystwyth: "Bydd rhai yn dod i'r practis ac i bractisis eraill yn y cylch, achos ry'n ni'n trio meithrin cysylltiad agos rhwng y coleg a'r practisis trwy Gymru.

"Ond yn ogystal â hynny byddwn ni yn rhoi gwersi ymarferol a bydd rhai o'r milfeddygon sy' gyda ni yn dysgu ar y cwrs."

'Diwrnod gwych'

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: "Mae hwn yn ddiwrnod o ddathlu a gobaith mawr yma yn Aberystwyth.

"Mae amaeth a'i diwydiannau perthynol yn chwarae rhan bwysig yn economi Cymru ac mae cyfrifoldeb arnom ni fel prifysgolion i ddarparu'r bobl a'r sgiliau a fydd yn cyfrannu at sicrhau eu bod yn llwyddo am flynyddoedd i ddod.

Ychwanegodd Yr Athro Stuart Reid, Prifathro Coleg Milfeddygol Brenhinol: "Rydyn ni'n falch iawn o weld y fenter gyffrous hon yn dwyn ffrwyth ac yn ymuno â'n cydweithwyr wrth groesawu'r myfyrwyr newydd i Aberystwyth.

"Rydyn ni'n edrych ymlaen at estyn croeso'r un mor gynnes iddyn nhw pan gyrhaeddan nhw yn y Coleg Milfeddygol Brenhinol ymhen dwy flynedd ar gyfer ail ran ein gradd filfeddygol newydd a ddarperir ar y cyd."

Dywedodd Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru: "Mae hwn yn ddiwrnod gwych i Brifysgol Aberystwyth, i'r proffesiwn milfeddygol, ac i iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru.

"Mae'r clwstwr hwn - o addysg filfeddygol, ymchwil a rhagoriaeth - yn gyfle gwych i fyfyrwyr o Gymru a thu hwnt astudio mewn cyfleusterau sydd wedi'u cynllunio i'w helpu i gyrraedd eu potensial llawn ac i ragori."

Dyma englyn a ysgrifennwyd gan y milfeddyg Phil Thomas i nodi'r achlysur o agor yr ysgol filfeddygol newydd yn Aberystwyth:

Yma trig gweledigaeth - yn aelwyd

Coleg milfeddygaeth.

Nid fe ddaw, ond fe a ddaeth

Ein 'goriad i ragoriaeth.