Dim pàs Covid i bobl fu mewn treialon Novavax
- Cyhoeddwyd
Mae Cymraes a gymerodd ran mewn treialon ar gyfer un o'r brechlynnau yn erbyn Covid-19 yn dweud ei bod hi wedi ei "siomi".
Dydy brechlyn Novavax ddim wedi ei gymeradwyo ac felly ni all y bobl a gyfrannodd at y profion gael tystysgrif neu basbort Covid.
Un o'r cyfranwyr hynny oedd y gyn-nyrs Gwenfair Jones o Wersyllt, ger Wrecsam.
Mae hi'n rhwystredig na all hi fynd ar wyliau tramor gyda'i theulu ac felly wedi penderfynu cymryd brechlyn gwahanol - er nad oes unrhyw wybodaeth am yr effeithiau posib.
Dywedodd Novavax eu bod yn gweithio ar ran y rhai a dderbyniodd y brechlyn i geisio adfer y sefyllfa.
"Dwi'm yn meddwl bod ni wedi cael y wybodaeth dros y misoedd diwethaf am sut mae pethau'n symud ymlaen, pam bod o ddim wedi cael ei basio," meddai Ms Jones.
"Fyswn i'n licio gwybod faint o cover s'gen i efo Novavax, ond wnân nhw ddim dweud hynny wrthym ni.
"Felly, do, dwi wedi cael fy siomi.
"Dwi ddim yn flin achos fy mhenderfyniad i oedd i fynd ar y trial yn y lle cyntaf, so alla i ddim bod yn flin, ond dwi isio'r llythyr yna'n dweud bod fi'n cael mynd dros y dŵr."
Er mwyn derbyn y dystiolaeth brechu felly, mae Gwenfair Jones wedi derbyn brechlyn arall.
"Roedd Novavax yn reit bendant bod nhw ddim yn gallu rhoi dim cyngor i ni, fysan nhw ddim yn gallu dweud wrthym ni be' fyse'r sgil effeithiau o fod wedi cael dau frechlyn gwahanol," meddai.
"Roedd o'n gorfod bod yn benderfyniad i mi ac fel lot o bobl eraill dwi wedi cymryd y penderfyniad 'mod i isio cael y llythyr yn deud 'mod i wedi cael fy mrechu."
Fydd Novavax yn cael ei gymeradwyo?
Mae Llywodraeth y DU yn dweud y dylai unrhyw benderfyniad gan bobl o'r treialon i dderbyn brechlyn gwahanol gael ei wneud ar y cyd gyda'r meddygon sy'n arwain y profion.
Maen nhw'n dweud na ddylai pobl fel Ms Jones fod o dan anfantais pan ddaw hi i dystysgrif brechlyn a bod y llywodraeth yn gweithio i geisio datrys y sefyllfa.
Yn ôl yr Athro Arwyn Tomos Jones o Ysgol Fferylliaeth Prifysgol Caerdydd mae'n anodd gwybod pam nad ydy brechlyn Novavax wedi ei gymeradwyo erbyn hyn.
"Maen nhw'n amlwg yn edrych ar y data, boed o'n ddiogelwch, effeithiolrwydd," meddai.
"A hefyd, os ydy hwn yn cael ei gymeradwyo, ydyn nhw'n barod i wneud miliynau o doses ohono fo?"
Mae Gwenfair Jones yn dweud na fydd hi'n cymryd rhan mewn treialon yn y dyfodol.
'Cyfraniad mawr'
Mewn datganiad mae Novavax yn dweud eu bod yn disgwyl i'r gwaith terfynol ar gymeradwyo'r brechlyn ddigwydd yn y misoedd nesaf.
"Fe wnaeth y rhai a gymerodd ran yn ein hastudiaeth gyfraniad mawr mewn pandemig digynsail", medden nhw.
"Rydym yn gweithio ar eu rhan i sicrhau bod y dystiolaeth eu bod wedi eu brechu'n cael ei dderbyn y tu allan i Brydain."
Mae'r corff sy'n cymeradwyo brechlynnau - yr MHRA - yn dweud na allan nhw wneud sylw ar amseru na manylion y broses drwyddedu am resymau cyfrinachedd masnachol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Medi 2021
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2020