Cydnabod arloeswraig ffermio organig o Geredigion
- Cyhoeddwyd
"Roedd mam-gu yn fenyw o'dd ymhell o flaen ei hamser, yn ffermwraig organig o fri a hynny pan nad oedd hynny yn ffasiynol."
Dyna gof wyres Dinah Williams o Ddôl-y-bont, ger Aberystwyth, o'i mam-gu.
Ymhell cyn i ffermio organig gael ei gydnabod fel dull prif ffrwd, roedd Ms Williams yn credu'n gryf "ym mhŵer natur", gan droi ei chefn ar dechnegau'r cyfnod fel defnyddio gwrtaith artiffisial.
Ddydd Gwener fe fydd plac porffor yn cael ei osod ar feudy cartref Ms Williams, i gydnabod ei harloesedd ym myd ffermio organig.
Mae'r placiau'n cydnabod cyfraniad arbennig gan ferched yng Nghymru, a dyma'r wythfed plac i'w osod.
'Dim mefus Dolig!'
Fferm Brynllys, lle amaethai Dinah Williams a'i gŵr, oedd y fferm laeth organig gyntaf yng Nghymru.
Yn y 1970au fe gyd-sefydlodd Gymdeithas Bridd Gorllewin Cymru wedi iddi yn 1952 ddod yn un o aelodau cyntaf Cymdeithas y Pridd.
Yn ddiweddarach bu'n rhannol gyfrifol am sefydlu yr Ysgol Ffermio Tibetaidd ger Aberhonddu a chyfrannodd at brosiect Bryn Gwyn yn ne Cymru - prosiect a ddefnyddiai ddulliau organig i adfer gweundiroedd yn dilyn cloddio am lo brig.
"Hyd ei marw yn 98 oed yn 2009 fe ddilynodd mam-gu ei hegwyddorion a'i chred ym mhŵer natur," meddai wyres Ms Williams, Shan James wrth siarad â Cymru Fyw.
"Roedd y gadwyn fwyd gyfan yn bwysig iddi ac ro'dd hi'n credu'n gryf mewn rhoi bwyd a maeth iawn i blanhigion. Roedd cael y deunydd iawn yn y pridd yn gwbl hanfodol er mwyn cynhyrchu bwyd da."
"Ro'dd hi'n 'neud beth o'dd yn reddfol iddi - ffermio syml effeithiol. Ymhob agwedd o'i bywyd ro'dd hi am wneud yn siŵr bod basics pethe'n iawn.
"Ro'dd bwyta bwyd yn ei dymor yn bwysig - fyddai hi ddim yn credu mewn cael mefus ddydd Nadolig.
"Mae'r hyn sydd i'w weld yn digwydd i'r gadwyn fwyd y dyddiau hyn yn dangos pa mor iawn oedd hi mewn gwirionedd. Mae wedi dylanwadu yn fawr ar y teulu i gyd."
Dulliau 'traddodiadol, anffasiynol'
Mae Placiau Porffor yn cydnabod cyfraniad merched rhyfeddol yng Nghymru.
"Roedd yr hyn a wnaeth Dinah Williams yn gwbl arloesol," medd Penri James, sy'n ddarlithydd amaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth.
"Yn y 1940au wedi'r rhyfel roedd y rhan fwyaf o ffermwyr yn defnyddio gwrtaith artiffisial ond fe lynodd Dinah Williams at y dull traddodiadol pan oedd hynny'n anffasiynol.
"Ar y pryd doedd dim modd cofrestru fel fferm organig - ond dyma enghraifft o fferm organig gynnar iawn na ildiodd i dechnegau newydd y cyfnod."
'Falch bod Mam yn cael ei chydnabod'
Dywedodd llefarydd ar ran y Pwyllgor Placiau Porffor: "Mae dylanwad Dinah ar fywyd menywod wedi bod yn amlwg - yn gyntaf drwy ei hesiampl personol o'r hyn y gall menyw ei gyflawni mewn byd gwrywaidd, fel yr oedd ffermio yng nghyfnod y 1940au-1960au.
"Fel merch ifanc bu'n ffermio gyda'i mam, yna gyda'i gŵr ac wedyn gyda'i merch a'i mab-yng-nghyfraith, gan arwain at sefydlu Rachel's Dairy, brand llaeth organig cyntaf Cymru."
Dywedodd Rachel Rowlands, sefydlydd Rachel's Dairy, ei bod yn hynod o falch bod yr hyn a wnaeth ei mam yn cael cydnabyddiaeth.
"Dwi mor falch bod cyfraniad mam i'r byd organig yn cael sylw. Mae'n parhau i fod yn ysbrydoliaeth i bawb oedd yn ei hadnabod ac ry'n ni gyd wedi elwa o'i chyngor doeth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Medi 2021
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd1 Medi 2017