'Fe gafodd fy mrawd ei drywanu - rhaid gweithredu'
- Cyhoeddwyd
Dros y degawd diwethaf, mae troseddau cysylltiedig â chyllyll wedi mwy na dyblu yng Nghymru.
Wrth i gyfyngiadau Covid lacio mae un elusen ac un grŵp ymgyrchu cymunedol, sydd wedi siarad â Newyddion S4C, yn rhybuddio y gallai'r sefyllfa waethygu ymhellach.
Rhwng Ebrill 2010 a Mawrth 2011, cofnodwyd 700 trosedd cysylltiedig â chyllell neu arf miniog gan heddluoedd Cymru. Rhwng Ebrill 2020 a ddiwedd Mawrth eleni roedd y ffigwr yn 1,461 sy'n cyfateb i bedair trosedd y dydd ar gyfartaledd - cynnydd o fwy na 100%.
Mae'r ffigyrau diweddaraf ychydig yn is na'r flwyddyn flaenorol, gyda gostyngiad o 1% - ond credir bod cyfnodau clo a chyfyngiadau Covid wedi cyfrannu at hynny.
Gyda chyfyngiadau i bob pwrpas wedi diflannu, mae cynrychiolwyr grŵp ymgyrchu cymunedol PTKD (Put The Knives Down) ac elusen Street Doctors yn rhybuddio y gallai pethau nawr waethygu ymhellach.
Codi ymwybyddiaeth am ddifrifoldeb a sgil effeithiau troseddau cyllyll yw nod PTKD. Mae ganddyn nhw hefyd linell ffôn 24/7 sydd yn cynnig cefnogaeth i'r rheiny sydd wedi cael eu heffeithio gan droseddau o'r fath.
Dywed Elle Powell, sy'n gwirfoddoli i'r grŵp ymgyrchu: "Wrth i bethau ailagor, ry'n ni'n derbyn mwy o alwadau ffôn. Ry'n ni'n poeni bod lefelau trosedd yn cynyddu unwaith eto. Ni ddim eisiau i hynny ddigwydd."
Astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd mae Evie Wateridge, ond mae hefyd yn gwirfoddoli gydag elusen Street Doctors, sydd yn cynnal sesiynau gyda phobl ifainc am beryglon cario cyllell yn ogystal â chynnig hyfforddiant cymorth cyntaf ar sut i drin claf sydd wedi ei drywanu.
Wrth siarad mewn sesiwn hyfforddi yn Nhredelerch, dwyrain Caerdydd, dywedodd hi wrth Newyddion S4C bod y sefyllfa o ran troseddau cyllell yn debygol o waethygu.
"Ry'n ni'n poeni'n fawr am droseddau cyllell. Nid yng Nghaerdydd yn unig, ond drwy'r Deyrnas Gyfunol.
"Llynedd, fe gyhoeddodd Street Doctors adroddiad yn ymchwilio i effaith y pandemig ar bobl ifainc. Darganfyddodd yr adroddiad hwnnw bod cefnogaeth i bobl ifainc wedi lleihau yn ddramatig. Mae hynny'n eu gwneud nhw'n fwy bregus ac agored i drais, felly ry'n ni'n poeni yn fawr ar hyn o bryd."
"Ry'n ni'n gwybod i drais y tu allan i'r cartref gwympo yn ystod y pandemig gan fod pethau ynghau, ond wrth i bethau ailagor, allwn ni ddisgwyl gweld hynny'n codi unwaith eto."
'Dal i frifo i'r byw'
Un dyn sydd wedi byw drwy effeithiau dinistriol trywanu yw Ged Bermingham. Ym mis Mehefin 2004, llofruddiwyd ei frawd Adrian yn ardal Glan-yr-afon, Caerdydd.
Wrth ailymweld â'r union fan lle bu farw ei frawd, esboniodd Ged i farwolaeth ei frawd gael effaith pellgyrhaeddol.
"Mae pobl yn siarad am dorcalon. Doeddwn i ddim yn sylweddoli pa mor llythrennol yw hynny. Mae dy galon yn llythrennol yn torri. Mae fel petai rhywun wedi rhwygo twll yn eich brest chi.
"Ddaeth fy rhieni byth dros yr hyn ddigwyddodd - mae'r ddau ohonyn nhw bellach wedi marw. Ond 17 mlynedd yn ddiweddarach, mae'n dal i frifo i'r byw.
"Dyw e byth yn diflannu - a pham fyddai fe? Mae'n derfynol. Mae marwolaeth yn derfynol. A dyw trywanu byth yn mynd i orffen yn dda."
26 oed oedd Adrian, yn dychwelyd o noson allan. Roedd e ar fin dychwelyd i hyfforddi gyda'r Royal Marines cyn cael ei anfon i Irac. I'w frawd, mae amgylchiadau ei farwolaeth yn boenus o hyd.
"O'r achos llys, oedd yn bythefnos o uffern, dwi'n gwybod i fenyw ifanc weld y cyfan o'r fflatiau yma tu ôl i fi. Dywedodd hi bod y gyllell wedi torri ei wddf. Mae'n swnio fel petai hynny wedi niweidio ei nerfau neu ewynnau (tendons). Doedd e ddim yn codi ei fraich dde - ei law gryfaf.
"Ry'n ni'n gwybod iddo fe gael ofn achos fe driodd e ffonio 999, yn ei boced neu wrth ei ochr. Dywedodd tystion iddyn nhw weld golau'r ffôn. Ond er bod galwad ac iddi gael ei hateb, doedd dim allen nhw wneud achos doedd neb ar ochr arall y ffôn.
"Drywanodd e fy mrawd yn ei frest, gan dorri'r aorta o'i galon, wedyn neidio lan a lawr ar ei ben.
"Welodd y ferch ifanc yma y cwbl. Roedd hi yn ei dagrau yn y llys, a'r rheithgor yn llefain gyda hi hefyd."
Cafwyd yr ymosodwr yn euog o lofruddio, gan dderbyn dedfryd oes, gyda lleiafrif o 16 mlynedd dan glo.
Mae Ged Bermingham nawr yn benderfynol o rybuddio am beryglon posibl cario cyllell drwy sôn am farwolaeth ei frawd.
Ac mae'n dweud bod y ffigyrau diweddaraf yn pwysleisio'r angen am ymateb.
"Mae'n profi bod pethau'n gwaethygu. Mae'n bryd gwneud rhywbeth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2018