Gosod mwy o gamerâu cyflymder i wella ansawdd aer
- Cyhoeddwyd
Bydd gyrwyr sy'n torri'r terfyn cyflymder ar rai o ffyrdd mwyaf llygredig Cymru yn wynebu camau gorfodi o'r wythnos nesaf ymlaen.
Mae camerâu wedi'u gosod mewn pum lleoliad ledled y wlad lle mae parthau 50mya wedi'u cyflwyno i wella ansawdd aer.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae lefelau llygredd eisoes wedi'u torri o hyd at 47%.
Ond ychwanegodd llefarydd bod angen gwell cydymffurfiad "os ydym am gyflawni'r gostyngiadau y mae angen i ni eu gwneud".
O ddydd Llun 4 Hydref bydd gyrwyr sy'n cael eu dal yn torri'r terfyn cyflymder mewn pedwar lleoliad yn debygol o dderbyn llythyr yn esbonio'r rheswm dros y cyfyngiadau.
Fodd bynnag, bydd y gyrwyr "mwyaf peryglus" yn wynebu cael eu herlyn.
Y pedwar lleoliad yw:
A494 rhwng ffin Cymru/Lloegr a Chyfnewidfa Dewi Sant, Glannau Dyfrdwy
A483 rhwng cyffyrdd 5 a 6 yn Wrecsam
A470 rhwng Glan-bad a Phontypridd
M4 rhwng cyffyrdd 41 a 42 ym Mhort Talbot
Bydd camau gorfodi ar gyfer torri'r terfyn cyflymder rhwng cyffyrdd 25 a 26 o'r M4 yng Nghasnewydd yn dechrau "yn y dyfodol".
Cyflwynwyd y parthau 50mya ar ôl i Lywodraeth Cymru gytuno i weithio ar gynlluniau newydd i fynd i'r afael â lefelau uchel o lygredd aer yn dilyn achos cyfreithiol yn 2018.
Mae data a gofnodwyd ar gyfer 2020 a 2021 wedi dangos bod crynodiadau o nitrogen deuocsid yn y pum lleoliad ar y cyfan wedi parhau'n is na'r terfyn cyfreithiol, o ganlyniad i lefelau traffig is yn sgil y pandemig.
Fodd bynnag, gyda thraffig bellach yn dychwelyd i lefelau arferol, mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd "cydymffurfiad gwell" yn caniatáu i'r gwelliannau gael eu cynnal.
'Dim dewis arall'
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, Lee Waters: "Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran lleihau lefelau allyriadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond mae'n rhaid i ni fynd ymhellach ac yn gyflymach erbyn hyn.
"Rydyn ni'n gwybod nad yw terfynau cyflymder arafach yn ddewis poblogaidd, ond mae angen i ni wneud pethau'n wahanol a bod yn fentrus i gael unrhyw obaith o fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd.
"Mae'n amlwg bod y cyfyngiadau cyflymder rydym wedi'u cyflwyno ar ein ffyrdd mwyaf llygredig yn gweithio - mae'r canlyniadau'n yn dangos hynny'n glir - ond mae cydymffurfio â'r terfynau hyn yn hanfodol os ydym am gyflawni'r gostyngiadau y mae angen i ni eu gwneud yn yr amser byrraf posibl."
Dywedodd rheolwr partneriaeth GanBwyll, Teresa Ciano, y bydd y gorfodaeth yn ei gwneud hi'n bosibl "rhoi gwybod i bobl am bwysigrwydd cydymffurfio â'r terfyn cyflymder yn y lleoliadau hyn, tra'n parhau i erlyn y gyrwyr mwyaf peryglus".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2018