Mwy o achosion 'difrifol' o hunan niweidio ar wardiau iechyd meddwl

  • Cyhoeddwyd
Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

Roedd 'na gynnydd yn nifer y digwyddiadau difrifol lle cafodd cleifion niwed yn deillio o rwymyn neu gwlwm yn unedau iechyd meddwl y gogledd yn y blynyddoedd cyn i ddau glaf farw yno, yn ôl ffigyrau sydd wedi dod i law BBC Cymru.

Mae dau glaf wedi marw o grogi ers i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr gael ei dynnu allan o fesurau arbennig gan Lywodraeth Cymru fis Tachwedd y llynedd.

Mae Cais Rhyddid Gwybodaeth gan Newyddion S4C yn dangos bod nifer y "digwyddiadau difrifol" ble cafodd cleifion niwed "o ganlyniad i neu'n defnyddio" rhwymyn neu gwlwm wedi codi dros y tair blynedd diwethaf.

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn dweud eu bod wedi gwario dros £8m mewn pum mlynedd yn cael gwared â pheryglon crogi.

11 achos yn 2020

Yn 2018, cafodd llai na phum achos difrifol eu cofnodi yn holl unedau iechyd meddwl y rhanbarth. Fe gododd y ffigwr hwnnw i naw yn 2019 ac i 11 yn 2020.

Cofnododd cwest a agorodd ym mis Rhagfyr 2020 fod claf wedi marw ar ôl cael ei ddarganfod "â rhwymyn o amgylch ei wddf" yn uned Ablett yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.

Mae staff wedi eu symud o'u swyddi ac mae ymchwiliad yn digwydd ar ôl i glaf arall lwyddo i "grogi ei hun" ar uned Hergest yn Ysbyty Gwynedd ym mis Ebrill 2021.

Disgrifiad o’r llun,

Bu farw'r claf cyntaf yn uned Ablett, Ysbyty Glan Clwyd, ym mis Rhagfyr y llynedd

Mae'r pwnc wedi ei godi mewn sawl ymchwiliad ac adroddiad.

Yn 2013, adroddodd Uned Cefnogaeth a Gweithredu Llywodraeth Cymru bod peryglon crogi "dal yn risg i gleifion a heb ei ddatrys yn llawn".

Yn 2018, cofnododd adolygiad gan Donna Ockenden "bod nifer o broblemau yn ymwneud ag ystadau nad ydynt wedi eu datrys yn cynnwys peryglon crogi oedd yn bryder gafodd eu codi mewn sawl archwiliad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru dros gyfnod o flynyddoedd".

Mewn ymateb i'r ffigyrau sydd wedi eu hamlygu gan BBC Cymru, dywed Teresa Owen, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "Ers 2016, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, rydym wedi gwario £8m yn cael gwared â pheryglon crogi o'n hunedau iechyd meddwl preswyl.

"Mae hyn wedi lleihau'r cyfleoedd ar gyfer digwyddiadau hunan niweidio yn cynnwys pwyntiau sy'n uwch na'r pen."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd arweinwyr uned Hergerst eu symud ar ôl marwolaeth claf

"Ynghyd â byrddau iechyd eraill yng Nghymru, rydym yn dilyn canllawiau cenedlaethol i adolygu, lleihau a rheoli risg peryglon crogi.

"Mae rheoli niwed i gleifion preswyl yn gymhleth ac mae'n her sy'n wynebu cyrff iechyd ar draws Prydain.

"Rydym yn parhau i addasu i ganllawiau cenedlaethol ac yn ceisio darparu amgylchedd therapiwtig wedi ei ddodrefnu'n briodol i gleifion sy'n lleihau'r cyfleoedd i hunan niweidio."

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn parhau o dan fesurau "ymyrraeth wedi ei dargedu" gan Lywodraeth Cymru ac mae hynny'n cynnwys gwasanaethau iechyd meddwl.