Carcharu giang am gynllwyn i herwgipio plentyn

  • Cyhoeddwyd
caernarfon

Mae giang wnaeth gynllwynio i herwgipio plentyn ar Ynys Mon ym mis Tachwedd 2020 wedi eu dedfrydu i gyfanswm o 63 o flynyddoedd 'dan glo.

Ym mis Awst eleni fe gafwyd tri yn euog o'r drosedd tra bod tri arall eisoes wedi cyfadde'r cyhuddiad.

Fe gafodd Anke Hill, 51 oed, a wnaeth gipio'r plentyn o'r stryd dedfryd o 14 mlynedd a 5 mis.

Derbyniodd Wilfred Wong, 56 - wnaeth fygwth fam maeth y plentyn gyda chyllell - 17 o flynyddoedd am gynllwynio i herwgipio a bod ag arf yn ei feddiant.

Wrth dedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Iau dywedodd y barnwr Nicola Jones fod y cynllwyn yn un "soffistigedig oedd wedi ei baratoi yn drylwyr".

Fe wnaeth y giang herwgipio'r plentyn gan fod un ohonyn nhw'n credu bod y plentyn wedi dioddef camdriniaeth satanaidd.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Sir Northampton
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd car gyda phlatiau ffug ei stopio gan Heddlu Sir Northampton ym mis Tachwedd 2020

Fe wnaeth Janet Stevenson, 67 a'i gwr Edward Stevenson, 69 o ardal Crawley, de Lloegr ddedfrydau o 15 mlynedd ac wyth mlynedd am logi car i gludo'r plentyn i dde-ddwyrain Lloegr fel rhan o'r cynllwyn.

Fe dderbyniodd Jane Going-Hill, 60 a Kristine Ellis-Petley, 58, y ddwy yn byw yng Nghaergybi, pedair blynedd ac wyth mis a phedair blynedd am dreulio cyfnod ar y pontydd rhwng Ynys Môn a'r tir mawr yn gwylio am unrhyw weithgaredd gan yr Heddlu ac am eu rhan pellach yn y cynllwyn.

Niwed seicolegol

Yn yr achos dedfrydu ddydd Iau, fe glywodd Llys y Goron Caernarfon sut oedd yr achos wedi achosi niwed seicolegol mawr i'r plentyn, nad oes modd ei enwi am resymau cyfreithiol.

"Roedd y plentyn yn cal hunllefau cyson ac yn bryderus iawn," clywodd y llys.

"Roedd yn wyliadwrus o eraill ac yn poeni'n gyson."

Wrth dedfrydu dywedodd y Barnwr Nicola Jones fod effaith gweithredoedd yr unigolion wedi bod yn enfawr ac wedi effeithio ar nifer.

"Mae bywyd ifanc y plentyn yma wedi ei ddifetha o'ch achos chi," meddai.

"Mae'r plentyn a'r teulu maeth wedi dioddef yn seicolegol oherwydd hyn. Mae'r hyn da chi wedi gwneud wedi achosi gymaint o niwed seicolegol efallai neith y plentyn fyth wella."