Horizon yn tynnu'r plwg ar gynllun Wylfa Newydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r datblygwyr y tu ôl i gynlluniau ar gyfer gorsaf ynni niwclear newydd gwerth £20bn yn Ynys Môn wedi tynnu eu cais yn ôl.
Mae Pŵer Niwclear Horizon wedi beio diffyg opsiynau cyllido gan Lywodraeth y DU i wireddu cynllun Wylfa Newydd.
Ym mis Medi, cefnodd cwmni Hitachi ar y cynllun, a oedd yn addo creu tua 9,000 o swyddi.
Dywedodd Horizon fod penderfyniad Hitachi i dynnu allan o'r cynllun hefyd yn ffactor yn eu penderfyniad.
Ers hynny mae cwmni arall wedi datgelu cynlluniau ar gyfer gwaith pŵer llai a fferm wynt ar safle ar wahân yn Wylfa.
Daeth y gwaith ar Wylfa Newydd i stop ym mis Ionawr 2019 achos costau cynyddol wedi i Hitachi a Llywodraeth y DU fethu a dod i gytundeb am gefnogaeth ariannol i'r fenter.
Ar 16 Medi y llynedd, cyhoeddodd Hitachi eu bod yn cefnu ar y prosiect yn llwyr.
Roedd gwrthwynebwyr y prosiect, fel y grŵp ymgyrchu PAWB, wedi dadlau'n gyson o blaid buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy yn ei le.
Dirwyn Horizon i ben
Mae Horizon wedi ysgrifennu at yr Arolygiaeth Gynllunio a'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, yn cadarnhau diwedd y prosiect cythryblus.
Dywedodd y llythyr fod trafodaethau â thrydydd partïon ynghylch cyllid wedi bod yn gadarnhaol, ond nad oedd unrhyw gynigion addas wedi dwyn ffrwyth.
Ychwanegodd: "Fel y gwyddoch, cyhoeddodd Hitachi atal y prosiect ym mis Ionawr 2019 a'i fwriad i dynnu'n ôl yn llwyr ym mis Medi 2020.
"Yng ngoleuni hyn ac yn absenoldeb polisi cyllido newydd gan Lywodraeth y DU, mae Hitachi Ltd. wedi gwneud y penderfyniad i ddirwyn Horizon i ben fel endid datblygu gweithredol erbyn 31 Mawrth 2021.
"O ganlyniad, mae'n rhaid i ni nawr, yn anffodus, dynnu'r cais yn ôl."
Mewn datganiad, dywedodd prif weithredwr Horizon, Duncan Hawthorne, y byddai'r cyhoeddiad yn siomedig i gefnogwyr y prosiect.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd18 Medi 2020
- Cyhoeddwyd15 Medi 2020