AS yn siarad am 'brofiad echrydus' wrth eni ei mab
- Cyhoeddwyd
Mae un o aelodau Senedd Cymru wedi siarad am y tro cyntaf am y diffygion yn y gofal a dderbyniodd gan adran mamolaeth Ysbyty Brenhinol Morgannwg cyn genedigaeth ei phlentyn sydd bellach yn wyth oed.
Roedd Heledd Fychan, AS Canol De Cymru dros Blaid Cymru, yn ymateb ar raglen Dros Ginio ddydd Mawrth, i'r adroddiad damniol ynghylch gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Tywysog Charles ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
"Mi gefais i fy mhlentyn yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg a chael profiad echrydus, ond wrth lwc mae o'n wyth oed ac yn iawn.
"Dwi ddim wedi siarad am hyn yn gyhoeddus, hwn oedd fy mabi cyntaf, ac roedden nhw yn deud wrtha i nad oeddwn i yn agos i'w gael o, ac yn diystyru'r ffaith bod o ar fin dod a finnau yn erfyn arnyn nhw i edrych arna i ac i roi cefnogaeth," meddai Heledd Fychan
'Dweud bod dim byd yn bod'
"Mi wnaethon nhw yrru fy ngŵr adref gan ddweud nad oedd dim byd yn digwydd ac o fewn awr roedd Twm [fy mab] yma yn y byd.
"Ond oherwydd hynny mi roedd yna broblemau yn y dyddiau cynnar, a finnau'n gorfod mynd nôl a mlaen i'r ysbyty.
"A dwi'n teimlo 'nath neb wrando arna i. Mi 'nes i gŵyn yn y diwedd ac mi roedd o'n brofiad emosiynol ac anodd iawn iawn."
Daeth adolygiad i'r casgliad y gallai un o bob tri o fabanod gafodd eu geni'n farw mewn dau ysbyty yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg fod wedi goroesi oni bai am gamgymeriadau difrifol yn eu gofal.
Roedd yr adolygiad yn edrych ar ffaeleddau dros gyfnod o ddwy flynedd a hanner, yng ngwasanaethau mamolaeth Ysbyty Brenhinol Morgannwg ger Llantrisant, ac Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful.
O'r 63 achos o farw-enedigaeth a ddigwyddodd yn yr ysbytai hynny, yn bennaf rhwng Ionawr 1 2016 a 30 Medi 2018, mi wnaeth arbenigwyr ddarganfod fod 'na fethiant difrifol mewn 21 - neu draean - o'r achosion.
Cafodd yr adolygiad i achosion o farw-enedigaethau ei arwain gan banel annibynnol, a gafodd ei sefydlu yn 2019 i ymchwilio ac archwilio newidiadau wedi un o sgandalau gofal mwyaf hanes y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Cafodd y panel, dan arweiniad cyn Brif Gwnstabl Heddlu Gwent, Mick Giannasi, ei ffurfio ar ôl i wasanaethau mamolaeth Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg gael eu rhoi dan fesurau arbennig yn dilyn adolygiad damniol.
Daeth yr adolygiad gan ddau goleg brenhinol i'r casgliad fod menywod a babanod wedi dod i niwed yn sgil prinder staff a methiannau i adrodd am ddigwyddiadau difrifol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2020