Dirwy am gyflwyno pasys a phrofion Covid ffug
- Cyhoeddwyd

Bydd unrhyw un sy'n defnyddio pàs ffug yn cael ei dirwy, medd Llywodraeth Cymru
Bydd unrhyw un sy'n cael ei ddal yn defnyddio pàs Covid neu ganlyniad prawf llif unffordd ffug yn cael dirwy o ddydd Llun ymlaen, medd Llywodraeth Cymru.
Ddydd Mawrth fe bleidleisiodd Aelodau'r Senedd o blaid cyflwyno pàs Covid i gael mynediad i ddigwyddiadau mawr a chlybiau nos.
I gael pàs mae'n ofynnol i berson ddangos tystiolaeth sy'n profi naill ai fod wedi ei frechu'n llawn neu wedi cael prawf llif unffordd negyddol o fewn y 48 awr blaenorol.
Fe fydd y ddirwy ar gyfer ffugio canlyniad prawf neu bàs yn £60.
Fe all yr hysbysiad cosb benodedig ostwng i £30 os yw'n cael ei dalu o fewn 14 diwrnod. Ond os bydd rhywun yn troseddu am yr eildro, bydd y ddirwy yn dyblu.
'Peidiwch â chael eich twyllo'

Bydd y ddirwy yn dyblu os yw'r person sydd wedi'i ddal â pàs ffug yn troseddu am yr eildro
Does dim rhaid talu am gael pàs Covid neu brawf llif unffordd ond mae rhai pobl yng Nghymru eisoes wedi cael eu twyllo.
Mae Llywodraeth Cymru a chynghorau sir wedi bod yn rhybuddio am dwyll cysylltiedig â phasys Covid.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Wrth siarad ar Radio Wales fore Iau dywedodd Alison Farrar, prif swyddog Safonau Masnach Cymru: "Mae sgamwyr mor gyflym y diwrnodau yma wrth geisio twyllo bod rhywbeth yn ddilys.
"Am fod hwn mor newydd, does neb yn gwybod sut y mae'r un go iawn yn edrych ac os ydym yn cael neges destun yn ein hysbysu am sut mae cael pàs, mae'n anodd gwybod a yw'r neges yn un ffug."
Cadarnhaodd Ms Farrar fod pobl eisoes wedi cael eu twyllo i dalu swm o arian am bàs wedi iddynt dderbyn e-bost neu neges destun.
"Os ydych yn cael cais i roi manylion cerdyn banc er bod y neges yn dweud na fyddant yn eu defnyddio fe ddylai hynna fod yn rhybudd. Pam fyddent angen eich manylion banc?"
Fe anogodd pobl i "feddwl yn ofalus" cyn gwasgu dolen ac ymateb i negeseuon "brys" gan bobl nad ydynt yn eu hadnabod.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd28 Medi 2021
- Cyhoeddwyd17 Medi 2021