Mynnu ymchwiliad i ddiffyg ym mhensiynau athrawon Môn

  • Cyhoeddwyd
Pencadlys Cyngor Ynys Mon, Llangefni

Mae 'na alw am ymchwiliad annibynnol i Gyngor Môn wedi iddi ddod i'r amlwg nad yw rhai athrawon wedi derbyn cyfraniadau i'w pensiwn gan yr awdurdod lleol dros gyfnod o oddeutu saith mlynedd.

Mae BBC Cymru'n deall fod o leiaf 14 o athrawon wedi eu heffeithio ac y gallai'r golled ariannol hyd yn hyn fod yn "ddegau os nad cannoedd o filoedd o bunnoedd".

Mae Swyddfa Archwilio Cymru'n dweud eu bod nhw'n "ymwybodol o broblemau posib ynglŷn â phensiynau rhai athrawon" a'u bod yn "gwneud ymholiadau pellach".

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Môn eu bod nhw'n ymwybodol fod "nifer fach o athrawon wedi eu heffeithio".

Maen nhw wedi ymddiheuro ac yn pwysleisio na fydd unrhyw un "ar eu colled wrth ymddeol" a bod "cyfraniadau pensiwn wedi eu talu".

'Mynd nôl flynyddoedd'

Mae arweinydd grŵp yr wrthblaid ar Gyngor Môn, y Cynghorydd Bryan Owen yn dweud fod aelodau'r gymuned wedi cysylltu ag o i fynegi pryderon ynglŷn â'r camgymeriad ariannol.

"Dwi wedi holi ac mae'r cyngor wedi derbyn y ffaith bod 'na gamgymeriad wedi ei wneud ond beth oedd y camgymeriad, pwy wnaeth o a sut wnaeth o ddigwydd? Dydyn nhw ddim yn gwybod!" meddai.

"Maen nhw'n dweud fod o'n hanesyddol ac felly yn mynd 'nôl dipyn o flynyddoedd.

"Ella fod 'na rai fydd methu cael ffordd o weithio faint sy'n ddyledus iddyn nhw."

Disgrifiad o’r llun,

"Beth oedd y camgymeriad, pwy wnaeth o a sut wnaeth o ddigwydd? Dydyn nhw ddim yn gwybod," medd y Cynghorydd Bryan Owen

Mae BBC Cymru'n cael ar ddeall fod y broblem wedi dod i'r fei ar ôl i un o athrawon y sir holi i weld gwerth ei bensiwn a sylwi fod 'na "ddegau ar filoedd" ar goll.

Mae nifer o ffynonellau, gan gynnwys un gweithiwr o Gyngor Môn yn dweud ei fod bellach wedi dod i'r amlwg fod y cyngor ddim wedi talu cyfraniadau pensiwn i o leiaf 14 o athrawon dros gyfnod o saith mlynedd.

Mae 'na bryderon pellach fod rhagor o'r cannoedd o athrawon sy'n gweithio ym Môn hefyd wedi eu heffeithio o bosib, a bod yr awdurdod lleol rŵan yn gofyn i athrawon wirio gwerth eu pensiwn ac i gysylltu â nhw os oes unrhyw broblemau amlwg.

Mae'r Cyngor Môn yn mynnu mai "nifer fach sydd wedi eu heffeithio".

'Mynnu ymchwiliad'

"Peryg fydd rhaid cael ymchwiliad annibynnol i'r colledwr," meddai'r Cynghorydd Owen.

"Mae'r cyngor yn edrych i mewn ac maen nhw'n sicrhau fydd 'na neb ar eu colled - mi fyddan nhw'n talu'r pres yn ôl, ond er mwyn sicrhau nad ydy o'n digwydd eto mae'n rhaid dod i waelod y mater a dylai bod y staff yma sydd â diffyg pensiwn yn mynnu ymchwiliad.

"'Dan ni ddim gwybod faint yn union [sydd wedi eu heffeithio], maen nhw'n dweud bod 'na 14 ond falla bod 'na fwy ac ydy o 'di digwydd mewn adrannau eraill?

"Y ffordd orau i wneud o ydy cael rhywun annibynnol i mewn i sbïo arno - rhywun proffesiynol i roi'r ffydd i'r bobl sy'n gweithio i'r cyngor."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae o leiaf 14 o athrawon Ynys Môn wedi eu heffeithio

Yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Môn mae "holl gyfraniadau pensiwn wedi eu talu i'r Asiantaeth Pensiynau Athrawon (TPA) ac ni fydd unrhyw bensiynau yn cael eu heffeithio".

"Mae rhai gwallau wedi eu darganfod yng nghofnodion gwasanaeth nifer fach o athrawon yn ddiweddar," meddai.

"Rydym eisoes wedi hysbysu'r ysgolion a'r undebau athrawon; ac wedi tawelu eu meddyliau na fydd eu pensiynau yn cael eu heffeithio ac na fydd athrawon ar eu colled yn ariannol pan fyddant yn ymddeol.

"Mae arweiniad wedi'i roi i'r holl ysgolion ar Ynys Môn ac mae athrawon wedi eu cynghori i wirio eu hanes gwasanaeth.

"Os byddant yn dod ar draws unrhyw anghysondebau, byddem yn eu cynghori i gysylltu â thîm cyflogres y cyngor.

"Rydym yn cydnabod y bydd y mater hwn yn destun pryder ac ymddiheurwn i'r athrawon hynny sydd wedi eu heffeithio hyd yma."

Mewn datganiad fe ddywedodd Swyddfa Archwilio Cymru eu bod yn "ymwybodol o broblemau posib ynglŷn â phensiynau rhai athrawon yng Nghyngor Môn".

"Rydym yn gwneud ymholiadau pellach i'r cyngor er mwyn derbyn rhagor o fanylion," meddai'r datganiad.

Pynciau cysylltiedig