Sut fyddwn ni'n cynhesu ein tai yn y dyfodol?

  • Cyhoeddwyd
Michelle a Steven Potter
Disgrifiad o’r llun,

Mae Michelle a Steven Potter bellach yn talu llai na hanner y ffigwr cyfartalog ledled y DU i gynhesu eu cartref

Fe allai defnyddio dulliau newydd o gynhesu dim ond chwe chartref gael yr un effaith â thynnu 60,000 o geir oddi ar y ffordd, yn ôl cymdeithas dai.

Dywedodd Coastal Housing, sy'n rheoli 5,000 o gartrefi yn ne Cymru, bod hyn yn dangos cymaint o garbon sy'n deillio o gynhesu tai.

Ond yn ôl y prif weithredwr Debbie Green, mae hefyd yn dangos bod newid yn bosib.

Ar hyn o bryd mae cynhesu adeiladau yn gyfrifol am hyd at 10% o holl allyriadau Cymru.

Dywedodd Ms Green, dros gyfnod o 60 mlynedd, y byddai chwech o'u tai newydd nhw yn arbed 180,000 cilogram o allyriadau carbon o'i gymharu â thai traddodiadol.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o adeiladu 20,000 o dai cymdeithasol carbon-isel ebyn 2026

Mae Steven Potter yn un o'r rheiny sy'n byw yng nghartrefi newydd Coastal Housing, gyda'i wraig Michelle a'u mab.

"Mae'n hollol wahanol o ble ry'n ni wedi byw o'r blaen - does gennych chi ddim gwres canolog nwy yma, paneli solar sydd yma," meddai.

Ychwanegodd ei fod wedi eu helpu i arbed arian hefyd, a bod eu bil misol tua £43 y mis - llai na hanner y ffigwr cyfartalog ledled y DU o £95.

'Cyfle unwaith mewn cenhedlaeth'

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o adeiladu 20,000 o dai cymdeithasol carbon-isel cyn etholiad nesaf y Senedd, ac mae hefyd eisiau i'r sector cyhoeddus fod yn garbon niwtral erbyn 2030.

Maen nhw hefyd yn edrych ar ffyrdd newydd o adeiladu tai fel y bydd y deunyddiau sy'n cael eu defnyddio yn cael llai o effaith ar yr amgylchedd.

Mae'r mwyafrif o gartrefi yng Nghymru yn rai hŷn, wedi'u hadeiladu mewn ffyrdd traddodiadol ac yn dibynnu ar olew neu nwy i'w gwresogi.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llywodraeth yn annog adeiladwyr i ddefnyddio deunyddiau naturiol i inswleiddio, fel gwlân Cymreig

Dywedodd cyfarwyddwr Ffederasiwn y Meistri Adeiladu yng Nghymru, Ifan Glyn fod targedau'r llywodraeth yn cynnig cyfle euraidd i gwmnïau ac adeiladwyr lleol.

"Fe allai'r dasg o uwchraddio 1.4 miliwn o gartrefi yng Nghymru gynnig cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i adeiladwyr lleol am eu bod nhw yn y safle mwyaf amlwg i wneud y gwaith," meddai.

Ychwanegodd bod angen i berchnogion cartrefi gael anogaeth ariannol i gynnal gwaith uwchraddio er mwyn ei wneud yn broses mor syml â phosib.

'Creu swyddi newydd'

Cafodd cartrefi Coastal Housing yn Rhydaman, Sir Gâr eu hadeiladu gyda phren o Gymru - maent yn defnyddio papur wedi'i ailgylchu ar gyfer inswleiddio, ac mae paneli solar wedi'u gosod er mwyn cynhyrchu trydan.

"Mae'r chwe chartref yma yn arbed 180,000 cilogram o garbon dros 60 mlynedd - sydd fel plannu dwy filiwn o goed neu dynnu 60,000 o geir oddi ar y ffordd," meddai Ms Green.

"Dydy hyn ddim yn unig o fudd i'r rheiny sy'n byw yno, ond bydd yn creu swyddi newydd i'r rheiny sy'n eu hadeiladu."

Pynciau cysylltiedig