Arolwg newid hinsawdd: Mwyafrif o blaid newid ffordd o fyw

  • Cyhoeddwyd
Pontypridd

Mae mwyafrif pobl Cymru yn credu bod angen newid eu ffordd o fyw yn sylweddol er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.

Yn ôl canlyniadau arolwg o 1,149 ar ran Llywodraeth Cymru roedd 84% o'r rhai a holwyd yn credu hynny.

Roedd 84% am weld llai o fwyd yn cael ei wastraffu, llai o ddeunydd pacio a rhagor o ailgylchu.

Dywedodd 81% eu bod eisoes yn ceisio gwastraffu cyn lleied o fwyd ag y bo modd, neu'n debygol o ddechrau gwneud hynny.

Er i 86% gyfaddef eu bod yn pryderu am newid hinsawdd, dim ond 15% o ymatebwyr a ddywedodd eu bod yn credu y byddai'n cael effaith "fawr iawn" ar eu hardal leol.

Fodd bynnag, roedd 42% yn cydnabod y gallai effeithio ar eu hardal "i ryw raddau", gan adlewyrchu rhybudd gan y Cenhedloedd Unedig ddydd Llun.

Roedd 77% yn credu y byddai dyfodol gydag allyriadau sero-net yn well ar gyfer eu llesiant a'u hiechyd, tua 51% o'r farn y byddai sero-net yn well ar gyfer yr economi, ac 80% yn cefnogi ymrwymiad y DU i sicrhau sero-net erbyn 2050.

'Mulod i dorri'r gwair a chynllunio'n well'

Mae teulu ifanc o'r Groeslon ger Caernarfon wedi dechrau cymryd nifer o gamau i geisio newid eu ffordd o fyw.

Dywed Annie Maycox, sydd â dau fab, Nowa, 3 oed, a Ffranci, 20 mis, ei bod yn poeni am newid hinsawdd ac yn awyddus i wneud eu rhan i daclo'r broblem.

"Dwi wedi dechrau prynu napis reuseable, a dwi'n gwneud wipes fy hun efo dŵr, blodyn tea tree a baby wash ar ddarnau o microfibre. Dwi'n gwneud pot ohono ar ddechrau pob wythnos," meddai Annie, sy'n golurwraig wrth ei gwaith.

Mae hi hefyd yn gwneud hylif i drin neu osgoi brech cewynnau (nappy rash) gydag aloe vera, olew tea tree ac olew cnau coco.

Ffynhonnell y llun, Annie Maycox
Disgrifiad o’r llun,

Mae mulod Annie yn gwneud mwy na chadw'r gwair i lawr

"Yn lle defnyddio'r peiriant torri gwair a strimmer yn yr ardd, rwbath arall eitha' doniol 'da ni wedi 'neud ydy prynu dau ful bach i gadw'r gwair i lawr.

"Mi ydan ni'n hel y pŵ, ac mi geith ei ddefnyddio ar y llysiau yn y polytunnel mewn rhyw flwyddyn. Mae gen i ddau geffyl, ond mi fasa rheiny'n rhy fawr ar gyfer yr ardd, ac yn gwneud gormod o lanast."

Mae Annie wedi stopio gwneud hanner llwyth yn y peiriant golchi dillad, ac mae'n gofalu defnyddio rhaglenni eco-gyfeillgar.

Mae hi hefyd yn ymwybodol iawn o ddeunyddiau a gwastraff plastig, ac yn ceisio prynu mwy o bethau sydd wedi eu lapio â phapur.

"Dwi hefyd yn prynu mwy o betha' mewn bulk arlein, yn lle mynd i Gaernarfon yn y car, a dwi'n planio ein bwyd yn well - os ydw i'n gwneud lasagne er enghraifft, mi fydda i'n gwneud mwy ohono, tra bod y popty on, ac yn ei rewi fo wedyn."

Ac ar ben hyn oll, mae hi'n ystyried troi'n fegan er mwyn helpu'r amgylchedd.

Angen camau penderfynol

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: "Bydd sicrhau Sero-net erbyn 2050 yn golygu cymryd camau penderfynol dros y deg mlynedd nesaf, gyda'r angen i lywodraeth, busnesau a chymunedau ddod at ei gilydd i newid y ffordd rydyn ni'n bwyta, siopa, teithio a chadw ein cartrefi'n gynnes.

"Er y bydd costau i'r camau rydyn ni'n eu cymryd i ddechrau, bydd y costau ariannol a'r effeithiau andwyol ar lesiant os nad ydyn ni'n gweithredu gryn dipyn yn uwch.

"Rydyn ni'n gwybod y bydd newid hinsawdd yn effeithio ar ein cymunedau, gyda disgwyl i lifogydd yng Nghymru ddigwydd yn fwy rheolaidd a pheri rhagor o ddifrod na'r rhai rydyn ni wedi eu profi yn ystod y ddwy flynedd diwethaf.

"Rhaid peidio â gadael i'r camau mae angen inni gymryd heddiw er mwyn diogelu'r dyfodol godi braw arnon ni.

"Bydd Cymru Sero-net yn iachach, yn hapusach ac yn fwy ffyniannus ar ein cyfer ni, ein plant, ein hwyrion a'n hwyresau ac ar gyfer pob cenhedlaeth wedyn."

Pynciau cysylltiedig