Wrecsam gam yn nes at fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2025

  • Cyhoeddwyd
Cae Ras a Thraphont PontcysyllteFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cae Ras a Thraphont Pontcysyllte ymysg atyniadau mwyaf adnabyddus ardal Wrecsam

Mae Wrecsam yn un o wyth ardal sydd wedi'i henwi ar restr hir Dinas Diwylliant y DU yn 2025.

Roedd cyfanswm o 20 ardal wedi gwneud cais am y statws ymhen pedair blynedd - pump o'r rheiny yng Nghymru.

Tra bod Wrecsam wedi cyrraedd rownd nesaf y broses ddethol ni fydd ceisiadau Bangor a gogledd-orllewin Cymru, Casnewydd, Sir Conwy a Phowys yn mynd ymhellach.

Y saith man arall sy'n dal â gobaith o fod yn Ddinas Diwylliant ydy ardal Armagh, Banbridge a Craigavon yng Ngogledd Iwerddon, Stirling yn Yr Alban, a Bradford, Cernyw, Durham, Derby a Southampton yn Lloegr.

Bydd yr wyth ardal ar y rhestr hir nawr yn derbyn £40,000 er mwyn datblygu cais llawn.

'Cynrychioli Cymru'

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Simon Hart fod Wrecsam "wedi gwneud yn eithriadol o dda er mwyn cynrychioli Cymru ar y rhestr hir".

"Rwy'n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw wrth ymgeisio i fod yr ardal gyntaf yng Nghymru i gael ei henwi'n Ddinas Diwylliant y DU," meddai.

Ychwanegodd bod gan y dref hanes diwylliannol, gan nodi safle treftadaeth Traphont Pontcysyllte, un o glybiau pêl-droed hynaf y byd, a Theatr Stiwt.

Gan groesawu'r cyhoeddiad, dywedodd Dirprwy Weinidog Celfyddydau Cymru, Dawn Bowden y byddai sicrhau statws Dinas Diwylliant y DU 2025 "yn wirioneddol drawsnewidiol i Wrecsam".

Ychwanegodd: "Mae gyda ni ddiwylliant unigryw a rhagorol yma yng Nghymru, yr ydym oll yn falch ohono. Rwy'n dymuno i'r byd wybod pa mor wych ydy o hefyd!"

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Bangor, Casnewydd, Conwy, Powys a Wrecsam wedi mynegi diddordeb ar gyfer 2025

Unwaith bob pedair blynedd mae ardal yn derbyn y statws, gyda'r cais llwyddiannus ar gyfer 2025 yn olynu Coventry fel Dinas Diwylliant 2021.

Bydd y rhestr fer derfynol gael ei chyhoeddi ar ddechrau 2022, gyda'r enillydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Mai 2022.

Bwriad statws Dinas Diwylliant y DU ydy rhoi cyhoeddusrwydd i wahanol ardaloedd o'r wlad er mwyn eu "rhoi ar y map diwylliannol ledled y byd".

Er mwyn ennill yr hawl am y statws mae'n rhaid i'r ardaloedd brofi y gallan nhw roi diwylliant wrth galon eu cynlluniau i adfer o effaith y pandemig.

Hwb ariannol

Dywedodd Adran Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU bod ymgeisio am y statws wedi profi'n hwb enfawr i ardaloedd yn y gorffennol, hyd yn oed yn y llefydd hynny na lwyddodd i gael eu henwi'n Ddinas Diwylliant.

Ond mae gwobrau llawer mwy i'r enillwyr, gyda dinas Coventry wedi derbyn dros £15.5m gan Lywodraeth y DU i gefnogi ei blwyddyn fel Dinas Diwylliant 2021. Roedd Coventry eisoes wedi denu dros £100m mewn buddsoddiad o ganlyniad i'r statws.

Roedd Abertawe ymysg y pum ardal oedd ar y rhestr fer ar gyfer 2021 ond dinas Coventry gafodd ei dewis i olynu Hull.