Covid: Ymgyrchwyr yn gofyn am ymchwiliad i Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr a gollodd anwyliaid yn ystod y pandemig wedi galw ar y Prif Weinidog Mark Drakeford i gynnal ymchwiliad cyhoeddus penodol i Gymru mewn cyfarfod ddydd Iau.
Bu aelodau o'r grŵp Covid Bereaved Families for Justice Cymru yn cwrdd â'r prif weinidog yn dilyn gwahoddiad gan Mr Drakeford.
Ymhlith y pynciau dan sylw yn y sgwrs oedd marwolaethau mewn cartrefi gofal a heintiadau mewn ysbytai.
Yn flaenorol mae Mr Drakeford wedi dweud nad yw'n ffafrio ymchwiliadau ar wahân.
Dywedodd sylfaenydd y grŵp, Anna-Louise Marsh-Rees na ddylai ymdriniaeth Cymru o'r pandemig fod yn "droednodyn" mewn ymchwiliad i'r DU gyfan.
"Dylai penderfyniadau gafodd eu gwneud yng Nghymru gael eu hymchwilio yng Nghymru," meddai, gan ychwanegu y bydd "ymchwiliad y DU yn anferthol".
Yn dilyn y cyfarfod ddydd Iau dywedodd Llywodraeth Cymru mai dyma oedd "dechrau ar drafodaethau cyson rhwng y prif weinidog a'r teuluoedd", a'u bod wedi cytuno i gwrdd eto yn y dyfodol agos.
Collodd Ms Marsh-Rees ei thad i Covid ym mis Hydref y llynedd wedi iddo fynd i Ysbyty Nevill Hall yn Y Fenni oherwydd haint ar y goden fustl (gall bladder).
Mae hi'n credu iddo gael ei heintio gyda coronafeirws pan oedd yn yr ysbyty, a dechreuodd ymgyrchu am ymchwiliad pan na chafodd atebion oedd yn ei bodloni gan y bwrdd iechyd lleol.
Dywedodd bod y prif weinidog wedi dweud ei fod am "wrando a dysgu" yn ei wahoddiad i'r grŵp.
Yn flaenorol mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai ymchwiliad i'r DU gyfan yw'r opsiwn gorau er mwyn deall profiadau pobl yng Nghymru.
Ond mae Ms Marsh-Rees yn credu bod angen craffu ar feysydd fel gofal cymdeithasol a gofal iechyd yng Nghymru, gan mai dyma lle cafodd y penderfyniadau eu gwneud.
Ychwanegodd: "Ry'n ni am weld yr hyn fydd yn digwydd yn Yr Alban... ymchwiliad wedi ei arwain gan farnwr ac sy'n seiliedig ar hawliau dynol.
"Dydw i ddim yn siŵr a yw Mark Drakeford yn deall yn iawn pa mor ddrwg yw pethau yn yr ysbytai."
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Rhun ap Iorwerth nad oedd gan Lywodraeth Cymru "unrhyw esgus" i beidio dilyn Yr Alban.
"Mae angen i ni edrych ar yr hyn ddigwyddodd yn fanwl, ac yn gyhoeddus, er mwyn dysgu gwersi i'r dyfodol," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Medi 2021
- Cyhoeddwyd19 Medi 2021
- Cyhoeddwyd24 Awst 2021