Cwest Frankie Morris: Arlunydd, 18, wedi crogi ei hun

  • Cyhoeddwyd
Frankie MorrisFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Diflannodd Frankie Morris ar ôl bod mewn rêf ger Waunfawr ar 2 Mai

Mae cwest wedi clywed bod arlunydd graffiti o Ynys Môn a aeth ar goll ar ôl rêf anghyfreithlon wedi crogi ei hun mewn coedwig.

Diflannodd Frantisek "Frankie" Morris, 18, ddechrau mis Mai, ond ni chafwyd hyd i'w gorff am fis.

Mewn cwest i'w farwolaeth ddydd Llun, cofnododd y crwner gasgliad o hunanladdiad.

Dywedodd bod Frankie Morris, o Landegfan, wedi dweud wrth eraill fod ganddo deimladau hunanladdol yn yr wythnosau cyn iddo ddiflannu.

Clywodd y gwrandawiad yng Nghaernarfon fod Frankie Morris wedi bod yn y rêf mewn hen chwarel yn Waunfawr ger Caernarfon ar nos Sadwrn, 1 Mai.

Roedd wedi cymryd cyffuriau gan gynnwys cetamin.

Dywedodd patholegydd wrth y cwest fod y cyffur yn cynyddu teimladau o hwyliau isel wrth i'w effeithiau ddirwyn i ben.

Dywedodd yr heddlu fod Frankie Morris wedi gadael y rêf ar droed fore 2 Mai, ac wedi teithio i Lanberis, gan godi beic ar hyd y ffordd.

Ond roedd gan y beic bynjar a chafodd ei weld yn ddiweddarach yn cerdded gyda'r beic rhwng Llanberis a phentref Pentir, lle cafodd ei weld ddiwethaf ar deledu cylch cyfyng tua 13:00.

Daeth ditectifs yn bryderus pan ddaethpwyd o hyd i'r beic yn ddiweddarach wedi ei adael wrth afon.

Cafwyd hyd i Frankie Morris wedi'i grogi o goeden mewn coetir gerllaw ar 3 Mehefin pan adroddodd aelodau'r cyhoedd fod arogl cryf yn dod o'r isdyfiant.

'Arlunydd a cherddor talentog'

Fe wnaeth datganiad gan ei fam Alice Morris - a ddarllenwyd yn y cwest - ddisgrifio Frankie fel "dyn ifanc cymdeithasol, didwyll a gonest a oedd yn mwynhau gweithgareddau awyr agored ac a oedd yn arlunydd a cherddor talentog".

Dywedodd y crwner Katie Sutherland ei bod yn fodlon nad oedd unrhyw un arall yn gysylltiedig â'i farwolaeth.

Ychwanegodd ei fod wedi sôn am feddyliau hunanladdol wrth ei frawd ychydig wythnosau cyn mynd ar goll.

Gan gofnodi casgliad o hunanladdiad, dywedodd y gallai rhai o'r trafodaethau yn y rêf fod ar ei feddwl y diwrnod canlynol.