Motor Niwron: Siwrna Sioned

  • Cyhoeddwyd
iechydFfynhonnell y llun, Sioned Roberts-Jones
Disgrifiad o’r llun,

Sioned Roberts-Jones sy'n byw gyda Chlefyd Motor Niwron

Mae person gyda Chlefyd Motor Niwron yn debygol o farw o fewn 5 mlynedd i'w diagnosis ond mae 10% yn byw am fwy na 10 mlynedd.

Un o'r bobl hynny ydi Sioned Roberts-Jones. Cafodd Sioned, o Lanrug, wybod bod ganddi Glefyd Motor Niwron ym mis Hydref 2006. Union bymtheg mlynedd yn ôl i'r Hydref hwn.

Rhannodd Sioned ei siwrne mewn rhaglen arbennig ar BBC Radio Cymru lle mae hi'n sôn sut mae byw gyda'r cyflwr, a wynebu pob rhwystr un dydd ar y tro.

Sylwi bod rhywbeth o'i le

Eglura Sioned, sy'n wraig, mam a nain: "O'n i'n bwydo Cian, y mab, oedd rhyw bythefnos oed yn fy mreichiau i. Pan o'n i'n rhoi potal iddo fo ges i grampiau'n bicep yr ochr dde, fel spasms calad a jest teimlad o wendid yn y fraich. O'n i jest yn gwybod doedd hwnna ddim yn rwbath normal.

"O'n i'n meddwl ella bo' gynno fi trapped nerve ar ôl bod trwy'r beichiogrwydd, ond yn amlwg toedd o ddim. Ges i diagnosis gyda'r Cyflwr Motor Niwron.

"Am bo' fi'n meddwl ella mai trapped nerve oedd o, es i at y meddyg teulu a'r meddyg hwnnw'n gwybod yn syth fod o'n rhywbeth niwrolegol.

"Ges i ngyrru i Walton ar ôl hynny am brofion achos does 'na ddim prawf penodol i MND. Felly oeddan nhw wedi gorfod gwatshad fi, asesu fi am wythnosau, misoedd. A weithiau toedd 'na ddim llawer o wahaniaeth o un tri mis i'r llall ynof fi. Na'th y diagnosis gymryd bron iawn i dair blynedd."

Disgrifiad,

Gwyliwch Sioned yn dweud pam gwnaeth hi benderfynu rhannu ei stori mewn rhaglen ddogfen: Motor Niwron: Siwrna Sioned

Clefyd Motor Niwron

Mae Clefyd Motor Niwron (MND) yn effeithio ar yr ymennydd a'r cyhyrau. Eglura Dr Rhys Williams, niwrolegydd yn ysbyty Gwynedd a chanolfan Walton, Lerpwl:

"Mae o'n gyflwr niwro ddiriwiol. Hanfod y cyflwr ydi fod celloedd yr ymennydd yn dirywio dros amser. Yr hyn sy'n cael ei effeithio ydi swyddogaeth y niwronau yma sydd â swyddogaeth modur. Modur y corff hynny ydi.

"Rhain ydi'r niwronau sy'n gyrru negeseuon sy'n sbarduno'r cyhyrau a wedyn beth mae rhywun sydd â Chlefyd Motor Niwron yn ei gael fel profiad ydi bod eu cyhyrau nhw yn methu dros amser. Y cyhyrau sy'n ein breichiau a'n coesau ni ond hefyd y cyhyrau sydd yn gyfrifol am lefaru, am lyncu ac am anadlu."

Derbyn y diagnosis

Roedd yn rhaid i Sioned dderbyn y diagnosis a rhannu hynny gyda'i theulu. Meddai Sioned:

"O'n i wedi rhyw fath o dderbyn ar ddiwrnod y diagnosis. Dwi'n meddwl o'n i jest yn flin bo' 'na ddim triniaeth er o'n i'n falch o gael gwbod be' oedd yn matar efo fi, oedd hynny'n ryddhad.

"Sporadic MND sydd gen i sy'n golygu ei fod o out of the blue. Dim cysylltiad teulu o gwbl. Mae'r math arall, familial yn genetig. Mae be' sgen i yn llai progressive felly mae o yn progressio'n lot arafach ond does na'm byd i ddweud na wneith o newid llwybr mewn amser i fod yn fwy aggressive."

Ffynhonnell y llun, Sioned Roberts-Jones
Disgrifiad o’r llun,

Sioned yn casglu arian i elusen MND Association

Effaith ar y teulu

Mae Sioned yn wraig i Mel ac yn fam falch i Lea, Caryl a Cian. Tra'n byw gyda Motor Niwron mae hi hefyd wedi byw i fod yn Nain i Efan ac Awel. Er yr holl gariad sydd o amgylch Sioned, mae hi'n pryderu am ei theulu, sydd hefyd yn byw drwy'r cyflwr:

"Dim jest y claf sy'n byw drwy'r cyflwr. Mae'r teulu i gyd yn cael eu heffeithio ac wrth ddysgu am rywun efo anabledd mae o 'di gneud nhw'n blant fwy cyfrifol, cryfach a lot fwy compassionate tuag at bobl eraill.

Ffynhonnell y llun, Sioned Roberts-Jones
Disgrifiad o’r llun,

Sioned ar wyliau gyda Mel ei gŵr, a'i phlant Lea, Caryl a Cian pan oeddent yn ieuengach

Ar y rhaglen hefyd, clywn ei merch Caryl yn trafod effaith Motor Niwron arni hithau. Dim ond plentyn ysgol oedd Caryl pan gafodd ei mam ddiagnosis. Meddai:

"Mae Mam yn lyfli. Mae hi'n garedig a bob tro yn rhoi ni'n gynta'. Faswn i methu gofyn am fam gwell er bod ganddi Motor Niwron. Dydi o heb newid o gwbl sut mae hi efo ni gyd.

"Dwi 'di cael merch flwyddyn dwytha, Awel, a wedyn Efan, merch Lea, mae o'n chwech. Mae hi fatha'r Nain gora' hefyd a dydyn nhw ddim rili di sylwi bod ganddi Motor Niwron.

"Ond dwi ofn y dyfodol. Dwi'n gwybod bod Mam efo'r cyflwr yma ers dipyn o flynyddoedd rŵan ond mae pethau'n medru newid mor sydyn. Mae y cyflwr yma yn ofnadwy. 'Dan ni rili lwcus fod o mor araf yn Mam."

Ffynhonnell y llun, Sioned Roberts-Jones
Disgrifiad o’r llun,

Sioned gyda'i merch, Caryl, a'i hwyers, Awel

Addasu

Bellach nid yw Sioned yn cerdded yn annibynnol iawn ond mae hi wedi addasu i fyw efo'r cyflwr er gwaetha ei styfnigrwydd ar ddechrau ei siwrne. Eglura Sioned:

"Dwi'n defnyddio baglau braich a dwi'n defnyddio cadair olwyn pan dwi isio mynd yn bellach.

"Dwi'n cofio'r adag ges i stairlift wedi ffitio mewn a nes i byth dderbyn hwnna neu ddim yn licio gweld y tŷ yn cael ei newid fatha cartra' henoed a finna efo tri o blant bach. Oedd hwnna yn galed iawn.

"Dwi jest 'di ffeindio ffordd rownd petha, mae'r corff yn beth hollol amazing."

Ffynhonnell y llun, Sioned Roberts-Jones
Disgrifiad o’r llun,

Sioned gyda'i hŵyr Efan a'i mab, Cian

Un dydd ar y tro

Er gwaetha'r gofid a'r boen mae Clefyd Motor Niwron yn ei roi i Sioned, mae hi wedi ffeindio nerth a chryfder i wynebu'r cyflwr a mwynhau bywyd.

Meddai: "Byw efo'r cyflwr dwi isho. Dwi'n gwybod fod o'n gallu gwaethygu yn sydyn a gallu newid llwybr.

"Fy neges i ydi i gymryd bob help sydd ar gael ac i obeithio a medru sbïo ar yr ochr ora' i betha'. Dwi'n gobeithio y bydd 'na rhyw fath o driniaeth a iachâd. Dwi yma am y long run."

Ffynhonnell y llun, Sioned Roberts-Jones
Disgrifiad o’r llun,

Sioned a'i gŵr Mel

I glywed rhagor gwrandewch ar Motor Niwron: Siwrna Sioned ar BBC Sounds.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig