Ailystyried dedfrydau giang a gynllwyniodd i herwgipio
- Cyhoeddwyd
Fe fydd dedfrydau grŵp o chwe pherson a garcharwyd am gynllwynio i herwgipio plentyn ar Ynys Môn yn cael eu hadolygu.
Mae swyddfa'r Twrnai Cyffredinol wedi cadarnhau y byddan nhw'n ystyried a yw dedfrydau'r chwech yn ddigon llym ai peidio.
Fe gafwyd Wilfred Wong, 53, Janet Stevenson, 67, ac Edward Stevenson, 69, yn euog wedi achos yn Llys y Goron Caernarfon a barodd am fis.
Roedd Anke Hill, 51, Jane Going-Hill, 60 a Kristine Ellis-Petley, 58, wedi pledio'n euog i'r cyhuddiadau mewn gwrandawiad blaenorol.
Fe wnaeth y giang herwgipio'r plentyn gan fod un ohonyn nhw'n credu bod y plentyn wedi dioddef camdriniaeth satanaidd a'u bod yn achub y plentyn rhag niwed pellach.
Ond fe ddaeth ymchwiliad gan yr heddlu i'r casgliad nad oedd camdriniaeth o'r fath wedi digwydd o gwbl.
Cafodd y chwe diffynnydd ddedfrydau o rhwng pedair ac 17 mlynedd yn y llys ym mis Medi.
Gall aelodau o'r cyhoedd ofyn i swyddfa'r Twrnai Cyffredinol i ystyried dedfrydau y maen nhw'n credu sydd ddim yn ddigon llym mewn llysoedd yng Nghymru a Lloegr o fewn 28 diwrnod i'r ddedfryd.
Mae'r Twrnai Cyffredinol wedi cadarnhau bod yr achosion o dan ystyriaeth fel rhan o'r cynllun yna.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Medi 2021
- Cyhoeddwyd9 Awst 2021