Cleifion canser y fron yn wynebu oedi cyn triniaeth

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Meddyg a chlafFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod nhw'n buddsoddi'n sylweddol mewn gofal canser

Mae elusen ganser Macmillan yn rhybuddio ei bod hi'n edrych "yn dywyll" ar wasanaethau canser dros y misoedd nesaf.

Mae mwy na chwarter cleifion canser y fron yng Nghymru yn wynebu oedi gyda'u triniaeth. Mae yna ofnau mai gwaethygu fydd y sefyllfa o ganlyniad i'r cynnydd mewn achosion o Covid a'r pwysau fydd ar y gwasanaeth iechyd dros y gaeaf.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod wedi buddsoddi'n helaeth mewn gwasanaethau canser a fydd yn helpu i gyflymu diagnosis a thriniaeth.

Yn ôl ffigyrau diweddaraf y llywodraeth dyw bron i 30% o gleifion canser y fron ddim yn dechrau triniaeth o fewn y targed cenedlaethol o 62 diwrnod.

'Teimlo'n unig dros ben'

Cafodd Andrea Davies-Tuthill o Ferthyr ddiagnosis o ganser y fron cyn dechrau'r pandemig ond fe darfodd hwnnw ar ei gallu i gael triniaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Roeddwn i'n poeni am Covid gan bod imiwnedd y corff yn isel, medd Andrea Davies-Tuthill

"Roedd e'n anodd iawn i gael scans, llawdriniaeth ac o'n i'n teimlo'n unig dros ben oherwydd dros gyfnod Covid doedd dim ffrindiau na theulu yn gallu dod gyda chi.

"O'n i 'di cael chemotherapy ac mae e'n achosi problem gydag imiwnedd y corff, felly chi'n pryderu am Covid yn eich lladd chi achos bod eich imiwnedd yn isel."

Pan oedd y pandemig ar ei waethaf ym mis Ionawr eleni roedd llai na 64% o gleifion canser y fron yn cael triniaeth o fewn y cyfnod targed. Wrth i gyfraddau'r haint godi eto mae Macmillan yn poeni mai gwaethygu fydd y sefyllfa.

"Dyw hi ddim yn edrych y dda dros y misoedd nesaf," meddai Richard Pugh, pennaeth Macmillan yng Nghymru.

"Mae'n system iechyd ni mewn safle drwg iawn ac mae'r effaith ar gleifion yn mynd i fod yn enfawr a gyda winter pressures hefyd dyw hi ddim yn mynd i fod yn dda am y flwyddyn yma na'r flwyddyn nesaf hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Rhaid cofio nad yw canser yn stopio pan mae'r system yn stopio, medd Richard Pugh, pennaeth Macmillan

Yn ôl yr elusen mae oedi wrth gael cymorth ac oedi yn y system yn golygu ei bod hi'n fwy anodd trin canser.

"Mae rhai pobl yn mynd drwy'r system a 'dyn ni ddim yn gallu gwneud llawer iddyn nhw. Dyw canser ddim yn stopio pan mae'r system yn stopio.

"Mae hi yn dywyll, ni'n gorfod bod yn onest a mae'r Llywodraeth yn gorfod bod yn onest a rhoi cynllun mewn lle i weld beth allwn ni neud blwyddyn nesa' a'r flwyddyn ar ôl hynny.

"Rhaid cofio doedden ni ddim mewn safle da cyn Covid," ychwanegodd Mr Pugh.

Buddsoddiad sylweddol

Wrth ymateb mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod wedi cyhoeddi buddsoddiad o £25 miliwn mewn offer diagnostig, a fydd yn helpu i gyflymu'r diagnosis a'r driniaeth ar gyfer cyflyrau gan gynnwys canser y fron.

"Bydd gwasanaethau canser yn cael hwb sylweddol, gyda buddsoddiad newydd mewn sganwyr CT, camerâu gama, ac ystafelloedd delweddu MRI a phelydr-x fflworosgopeg.

"Yn ogystal â buddsoddiad wedi'i gynllunio mewn sganwyr PET-CT rydyn ni hefyd wedi darparu bron i £8 miliwn yn ddiweddar ar gyfer offer delweddu newydd i Bron Brawf Cymru.

"Mae gofal canser wedi parhau drwy gydol y pandemig ac rydyn ni wedi cyhoeddi ein dull gweithredu er mwyn adfer gwasanaethau'r GIG, gan gynnwys gofal canser, sydd wedi cael £240 miliwn o gyllid ychwanegol hyd yma eleni. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio'n galed i adfer y rhaglen sgrinio ar y fron.

"Byddwn yn gweithio'n agos gyda'r Gwasanaeth Iechyd yn ystod y misoedd nesaf i fwrw ymlaen â'r camau gweithredu penodol sy'n ymwneud â gwasanaethau canser.

"Rydyn ni'n parhau i annog unrhyw un sydd â symptomau i gysylltu â'i feddyg teulu ac i bobl fynychu eu hapwyntiadau sgrinio, diagnostig a thriniaeth," ychwanegodd llefarydd.