Pryder wrth i fwy ofyn am gymorth canser diwedd bywyd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Meddyg a chlafFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod nhw'n buddsoddi mewn gofal adfer canser

Mae nifer y bobl sy'n dioddef o salwch angheuol ac yn gwneud cais am fuddion diwedd-bywyd wedi cynyddu yn ystod y pandemig.

Dywedodd elusen Macmillan fod yna dystiolaeth fod achosion o ganser wedi pentyrru, a bod mwy o bobl yng Nghymru'n dioddef o ganserau cyfnod-hwyr.

Yn ôl y ffigyrau, roedd cynnydd o 20% o'i gymharu â'r flwyddyn gynt yn nifer y ceisiadau gan bobl oedd â llai na chwe mis i fyw.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn buddsoddi mewn gofal adfer canser (recovering cancer care).

Methu targedau

Mae Coleg Brenhinol y Radiolegwyr (RCR) eisoes wedi rhybuddio y gallai cleifion fod mewn perygl oherwydd diffyg arbenigwyr canser yng Nghymru.

Dywedodd Macmillan fod eu rhwydwaith sy'n cynghori ar fuddion wedi gweld cynnydd yn nifer y ceisiadau DS1500 - ar gyfer pobl sydd â salwch terfynol - a hynny o 1,004 yn 2019 i 1,204 yn 2020.

Ond y gred yw bod miloedd ddim ar restrau triniaeth y gwasanaethau iechyd ers dechrau pandemig Covid, unai am eu bod nhw wedi bod yn amharod i fynd am brofion neu oherwydd trafferthion wrth geisio cyrraedd gwasanaethau.

Mae atgyfeiriadau DS1500 yn cael eu gwneud gan oncolegwyr i gadarnhau fod claf yn dioddef o ganser nad oes modd ei wella, ac mae'n golygu bod modd wedyn gwneud cais am bethau fel budd-daliadau tai, Credyd Cynhwysol a Lwfans Byw i'r Anabl.

Disgrifiad o’r llun,

"Doedden ni methu rhoi canser ar ffyrlo," meddai Richard Pugh, pennaeth Macmillan Cancer Support yng Nghymru

Dywedodd Macmillan eu bod yn "bryderus" am y cynnydd yn nifer y ceisiadau, ac y gallai hynny effeithio ar wasanaethau diwedd oes.

Yn ôl ffigyrau diweddaraf y gwasanaeth iechyd, dim ond 62% o bobl oedd yn dechrau triniaeth canser o fewn 62 diwrnod o amheuon yn cael eu codi - a hynny'n sylweddol is na'r targed o 75%.

"Dwi ddim yn hoffi dweud 'ddywedon ni, do', ond yn yr achos yma 'dyn ni wedi bod yn dweud mai dyma'r llwyth wrth gefn ddylai'r llywodraeth boeni amdano," meddai Richard Pugh, pennaeth Macmillan yng Nghymru.

"Dyw pobl gyda chanser heb fod yn dod ymlaen a dangos symptomau, heb fod yn mynd at y meddyg teulu, ac nawr mae'n rhy hwyr i lawer.

"Doedden ni methu rhoi canser ar ffyrlo, roedd e dal yna ac yn risg mawr i bobl."

'Sefyllfa fregus iawn'

Mae Seema Arif yn oncolegydd ymgynghorol yng Nghanolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd, ac yn gadeirydd pwyllgor Cymreig yr RCR.

Dywedodd fod y pandemig wedi effeithio ar wasanaethau canser i gleifion, ac felly eu siawns o oroesi'r afiechyd.

"Dwi'n gweld fy hun yn cyfeirio llawer mwy at y DS1500 y dyddiau yma o'i gymharu â dwy, dair blynedd yn ôl," meddai.

Mae'r RCR hefyd wedi mynegi pryder am ddiffyg oncolegwyr ac arbenigwyr canser yng Nghymru, gyda disgwyl i draean o oncolegwyr ymddeol erbyn 2025.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Oherwydd y pandemig, mae wedi mynd yn rhy hwyr i drin canser mewn rhai cleifion

Roedd y sefyllfa staffio eisoes yn "fregus, fregus iawn" hyd yn oed cyn Covid, meddai Dr Arif.

"Gallai'r llywodraeth fuddsoddi faint maen nhw eisiau i mewn i offer a phethau eraill... ond os nad oes gennych chi ddigon o radiolegwyr i ddarllen y sganiau, dyw hynny ddim am helpu," meddai.

Mewn ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae gofal canser wedi parhau drwy gydol y pandemig ac rydym wedi cyhoeddi ein cynllun ar gyfer adfer gwasanaethau'r GIG, gan gynnwys gofal canser, gyda £240m o gyllid ychwanegol hyd yma eleni."

Ychwanegodd y llywodraeth fod gwasanaethau canser wedi bod yn trin mwy o bobl eleni o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.

"Rydyn ni wedi cefnogi cynnydd sylweddol yn nifer y llefydd hyfforddi ar gyfer radioleg yn y blynyddoedd diwethaf, a llynedd fe gytunon ni ar lefydd hyfforddi ychwanegol i oncoleg ac arbenigedd tebyg."

Pynciau cysylltiedig