'Daeth y diagnosis yn rhy hwyr i Mam'
- Cyhoeddwyd
Dri deg mlynedd ar ôl marwolaeth eu mam o ganser yr ofari, mae'r brawd a chwaer, Gareth a Nia Roberts, yn cofio amdani drwy gymryd rhan mewn her i godi arian i elusen.
Mae'r ddau ddarlledwr a'u teuluoedd yn cerdded 11,000 o gamau bob dydd drwy gydol mis Mawrth fel rhan o fis codi ymwybyddiaeth o ganser yr ofari i gofio am eu mam, Mabel, oedd yn 56 mlwydd oed pan fu farw o'r afiechyd.
Mae'r ymgyrch yn bwysig mewn dwy ffordd, meddai Nia: "O ran codi arian, ie, ond codi ymwybyddiaeth hefyd achos be' sy'n digwydd yn aml iawn ydy bod y diagnosis yn dwad yn rhy hwyr a bod y canser wedi ymledu, a felly oedd hi yn hanes Mam yn anffodus."
Roedd Mabel Roberts, a oedd yn wraig i'r actor JO Roberts, newydd ymddeol o'i swydd fel athrawes yn Ysgol Gyfun Llangefni ac yn paratoi at bennod newydd ym mywyd y teulu pan aeth yn sâl.
"Roedden ni'r plant, Gareth a finnau, wedi gorffen yn y coleg, y ddau ohonan ni'n gweithio, yn ein hugeiniau, ac roedd ganddi hi a Dad bob math o gynlluniau ar gyfer ymddeoliad ond wrth gwrs ddigwyddodd hynny ddim," meddai Nia.
"Fe gafodd y diagnosis fod canser yr ofari arni ac o fewn chwe mis roedd hi wedi'n gadael ni. A roedd hi bryd hynny union yr un oed ag yr ydw i rŵan, roedd hi'n 56, dwi'n 56."
Y sylweddoliad hwnnw, ynghyd â'r ffaith ei bod yn 30 mlynedd ers iddi farw, a ysgogodd y penderfyniad i wneud rhywbeth er cof amdani i gyd-fynd â'r mis codi ymwybyddiaeth.
'Llawn hwyl'
"Roedd hi'n berson llawen, llawn hwyl; yn athrawes wrth ei galwedigaeth felly roedd ganddi hi ofal [dros] blant trwy ei hoes," meddai Nia wrth gofio amdani ar raglen Dros Ginio, Radio Cymru.
"Roedd ganddi ofal teulu ac roedd hi'n ofalus drostan ni fel plant a Dad, ei gŵr, a'i mam ei hun.
"Roedd hi'n gantores, roedd hi'n dalentog, roedd hi'n gymwynaswraig, roedd hi'n Gristion. Roedd hi'n tueddu i roi pobl o'i blaen hi ei hun.
"Roedd hi'n ddewr iawn," pan aeth yn sâl, meddai Nia, "roedd hi'n ffyddiog iawn: fuon ni yn Ysbyty Gwynedd, Broadgreen, Clatterbridge... ond roeddan ni'n rhy hwyr."
O ran y symptomau a gafodd ei mam, mae'r cyfnod yn niwlog i Nia: "Ro'n i yn fy ugeiniau cynnar yn byw bywyd yn llawn a dwi'n siŵr ei bod hi wedi cadw pethau'n dawel iddi hi ei hun.
"Nid [fy mod] eisiau dwyn anfri ar neb, dim dyna'r bwriad, ond mi roedd hi wedi bod i weld y meddyg teulu, a meddwl mai pethau eraill oedd o o hyd ac o hyd.
"A dyna pam rŵan, gan fod gen i ddwy ferch yn eu harddegau, mae lledaenu y neges yma'n bwysig.
"Os ydi merched yn ymwybodol o'r symptomau a'u bod nhw'n gallu mynd at feddygon a bod meddygon teulu, drwy arian sy'n cael ei godi, hefyd yn fwy ymwybodol o'r symptomau, mae 'na ddiagnosis, mae'r cyfan yn digwydd yn gynt.
"Ac wrth gwrs, mae'n bwysig pwysleisio, os cewch chi ddiagnosis cynnar, mae naw allan o bob 10 yn byw."
Torri'r newydd
Mae'r diwrnod y cafodd Gareth wybod gan ei dad yn yr ysbyty yn Lerpwl nad oedd gwella i fod ar ei fam yn glir iawn yn ei gof.
Un o'r prif bethau mae'n ei gofio yw ei bryder o wybod y byddai'n rhaid iddo dorri'r newydd i'w chwaer fach.
Roedd Nia yn teithio i Fae Colwyn y diwrnod hwnnw i gartref perthynas cyn mynd ymlaen i weld ei mam yn Lerpwl.
"Dwi'n cofio gyrru nôl o Lerpwl i Fae Colwyn yn gwybod mai fi fyddai'r cyntaf i ddeud wrth Nia," meddai Gareth.
"A dwi'n cofio sefyll yn y lownj yn y tŷ ym Mae Colwyn. Dwi ddim yn cofio'r siwrnai o gwbl; yr unig beth oedd yn mynd drwy fy meddwl oedd sut ar wyneb y ddaear dwi'n mynd i ddeud wrth fy chwaer. Mae pethau fel'na yn aros efo chi.
"Roedd o'r tro cyntaf i mi deimlo profedigaeth oedd mor agos, a hithau mor ifanc.
"Ro'n i'n 30 pan fuodd hi farw ond wrth gwrs fel mae bywyd yn mynd yn ei flaen, mae rhywun yn dod ar draws bob math o broblemau a dwi wedi gweld fy hun yn sefyll yn yr ardd ac yn meddwl, 'Be' fysa Mam yn ddeud', neu 'Be' fyddai ei chyngor hi' - dwi'n gweld colli hynna yn fwy na dim arall.
"Dwi'n gwybod y baswn i wedi gallu mynd ati hi, eistedd i lawr a siarad a byddai hi yn dallt, neu bydda hi yn gwybod be' i'w ddweud."
Mae'r cof amdani yn dal yn fyw iawn i'w phlant, ond chafodd hi erioed gyfarfod ei hwyrion.
"Ond roedd hi'n gwybod ar y Nadolig olaf gawson ni efo'n gilydd fel teulu bod fy ngwraig ar y pryd yn disgwyl y plentyn cyntaf, roedd hi'n gwybod fod 'na blentyn ar y ffordd," meddai Gareth.
"...mae'n anodd cyfleu iddyn nhw y trysor o ddynes oedd hi.
"Fuodd hi farw yn y mis Chwefror a mi gafodd fy mab cyntaf ei eni yn y mis Awst.
"Fysa hi wedi gwirioni efo'r plant; mae gan Nia ddwy o ferched ac mae gen innau ddau o feibion ond welodd yr un ohonyn nhw mohoni - mae hynny'n anodd, mae'n anodd cyfleu iddyn nhw y trysor o ddynes oedd hi."
Mae 10 o aelodau'r teulu, gan gynnwys Nia a Gareth a'u plant, yn cymryd rhan yn yr ymgyrch noddedig drwy gerdded llwybrau o amgylch eu cartref yn ddyddiol.
Maen nhw'n gwneud 11,000 o gamau bob dydd am fod 11 menyw yn marw o'r canser bob dydd yn y DU.
"Dwi'n teimlo ei fod o'r math o ganser sydd yn mynd o dan y radar - dydi o ddim i'w weld fel petai yn cael gymaint o sylw ag afiechydon eraill," meddai Gareth.
"Un o'r pethau eraill ydy pa mor anodd ydy diagnosio yn sydyn er mwyn cael y driniaeth priodol mewn pryd, achos yn amlach na pheidio mae hi wedi mynd yn ben set ar nifer o ferched."
Symptomau a diagnosis cynnar
"Mae'n hollbwysig bod y canser yma yn cael diagnosis cynnar achos mae diagnosis cynnar yn achub bywydau," meddai Annwen Jones, Prif Weithredwr Target Ovarian Cancer.
Y prif symptomau yw:
Teimlo'n chwyddedig (bloated) yn barhaus
Cael trafferth bwyta neu teimlo'n llawn drwy'r amser
Poen yn y bol
Angen pasio dŵr yn amlach
"Gall y symptomau hyn awgrymu rhywbeth arall, llai difrifol, ond os byddwch chi'n cael unrhyw un o'r symptomau yma a dydyn nhw ddim yn mynd i ffwrdd dros dair wythnos - maen nhw'n barhaus - mae'n bosib bod y symptomau yn awgrymu canser yr ofari a felly fe ddylech chi wneud apwyntiad brys i weld eich GP," meddai.
Os caiff rhywun ddiagnosis yn y cyfnod cynharaf gall oroesi am bum mlynedd neu fwy, meddai Annwen Jones.
Ond os ydyn nhw'n cael diagnosis yn hwyr mae'r canser wedi cael cyfle i ddatblygu ac mae'r driniaeth yn fwy anodd.
Ar hyn o bryd does dim sgrinio am ganser yr ofari a dyna pam mae ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth yn bwysig.
Mae'r canser yma'n fwy cyffredin ymhlith merched canol oed ac mae hyd at 20% o fenywod wedi etifeddu risg genetig gan eu mam neu eu tad, meddai Annwen Jones sy'n cynghori i bobl siarad gyda'u meddyg teulu os oes na ganser yr ofari neu ganser y fron yn y teulu.
Mae mwy o wybodaeth am ganser yr ofari, y symptomau a'r profion all meddygon eu gwneud ar wefan Target Ovarian Cancer., dolen allanol
Hefyd o ddiddordeb: