Sawl gwleidydd o Gymru wedi profi 'digwyddiadau pryderus'

  • Cyhoeddwyd
Syr David AmessFfynhonnell y llun, PA Media

Mae Aelod Seneddol Llafur Cymreig wedi dweud ei fod wedi derbyn "neges arall yn bygwth fy mywyd", yn dilyn marwolaeth David Amess.

Dywedodd Chris Bryant fod ganddo bryderon am ddiogelwch ASau pan maen nhw i ffwrdd o San Steffan, yn dilyn y digwyddiad ddydd Gwener.

Mae Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart hefyd wedi dweud fod pob AS y mae wedi siarad â nhw dros y penwythnos "wedi profi digwyddiadau pryderus, unai mewn syrjeris lleol neu ar-lein".

Ychwanegodd yr AS Ceidwadol wrth raglen BBC Politics Wales: "Does dim amheuaeth o gwbl ein bod ni mewn safle gwaeth nawr nag oedden ni ychydig flynyddoedd yn ôl."

Adolygu trefniadau

Cafodd Syr David Amess, AS Ceidwadol yn Essex ers 1983, ei drywanu i farwolaeth wrth iddo gyfarfod etholwyr ddydd Gwener.

Dywedodd Mr Hart fod ASau yn "falch" o fod yn agored ac ar gael i gwrdd â'r cyhoedd, ac nad oedd marwolaeth Syr David yn newid hynny.

Ychwanegodd Liz Saville-Roberts, AS Plaid Cymru ar gyfer Dwyfor Meirionnydd, fod etholaethau mawr a gwledig fel ei un hi yn golygu nad oedd hi wastad yn "ymarferol" i gael swyddogion heddlu gyda nhw bob tro.

"Dwi ddim yn siŵr y bydden i eisiau i'r heddlu flaenoriaethu rhywbeth sydd fel arfer ddim yn cario risg uchel, a dwi ddim yn siŵr y bydden ni eisiau i'r bobl sy'n dod i fy ngweld i deimlo bod rhaid cael swyddog heddlu neu ryw fath o ddiogelwch wrth fy ochr," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Chris Bryant, Vaughan Gething, Liz Saville-Roberts a Simon Hart

Syr David Amess yw'r ail Aelod Seneddol i gael ei ladd mewn pum mlynedd, yn dilyn llofruddiaeth yr AS Llafur Jo Cox yn 2016.

Dywedodd Ms Saville-Roberts fod trefniadau diogelwch wedi cael eu hadolygu ers hynny, a bod ganddi "wastad rywun arall" wrth gyfarfod pobl.

Ychwanegodd ei bod hi'n "falch" gweld fod cyn-Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones wedi ymddiheuro am neges a bostiodd ar Twitter wedi marwolaeth Syr David Amess.

Roedd Mr Jones, cyn-gynrychiolydd i Blaid Cymru, wedi awgrymu fod y farwolaeth wedi dod o ganlyniad i lywodraeth Geidwadol oedd wedi hybu "atgasedd".

'Iaith pobl wedi caledu'

Mae Comisiwn y Senedd hefyd wedi dweud y byddan nhw'n cynnig cyngor ar ddiogelwch i Aelodau o'r Senedd ym Mae Caerdydd yn dilyn y digwyddiad.

"Dwi'n sicr wedi meddwl mwy am beth dwi'n ei wneud wrth wneud fy ngwaith... ond hefyd yn fy mywyd arferol hefyd," meddai Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething.

"Doedd dim rhaid i fi feddwl am hynny pan ges i fy ethol i ddechrau, ond mae'n rhaid i fi nawr.

"Mae iaith rhai pobl wedi caledu, ar-lein ond hefyd gyda'r protestiadau diweddar y tu allan i'r Senedd."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Syr David Amess ei drywanu i farwolaeth yn ei syrjeri etholaethol yn Leigh-on-Sea, Essex ddydd Gwener

Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: "Dwi yn meddwl bod y cyfryngau cymdeithasol wedi gwneud gwaith yn lot fwy anodd, ond ar y llaw arall mae'n helpu ni i gysylltu efo'r cyhoedd hefyd.

"Ond bydden i'n siomedig pe byddai'n rhaid i ni fel gwleidyddion ymbellhau oddi wrth y cyhoedd fel canlyniad, a dwi yn meddwl yn gyffredinol na fyddai gwleidyddion yn hapus i wneud hynny."

Fe wnaeth protestwyr ymgynnull y tu allan i'r Senedd yn ddiweddar yn dilyn y bleidlais i gyflwyno pas Covid yng Nghymru.

Gwelwyd golygfeydd tebyg hefyd y tu allan i gartref y Prif Weinidog Mark Drakeford yn gynharach eleni hefyd, wrth i brotestwyr ymgynnull i wrthwynebu cyfyngiadau Covid.

  • Cadarnhaodd Heddlu De Cymru nos Sul bod dyn 76 oed o Bontycymer wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ddanfon negeseuon maleisus.