Aberteifi: Cyfnod o golledion
- Cyhoeddwyd
"O Wyn y Fet i Richard a Wyn Fflach, fe gollodd ardal Aberteifi rai o'u mawrion."
Mae Aberteifi wedi profi cyfres o golledion dros y deunaw mis diwethaf gyda rhai o hoelion wyth y dre a'i chyffiniau wedi marw - David R. Edwards, prif leisydd y grŵp Datblygu; y cerddorion Richard a Wyn Jones a'r DJ a'r cyflwynydd Andrew Paul Thomas, sef Tommo.
Mewn erthygl arbennig i Cymru Fyw, mae'r bardd Ceri Wyn Jones yn trafod yr effaith ar ei ardal ac hefyd yn ystyried cyfraniad y cymeriadau i ddiwylliant arbennig y fro.
A oes rhai ardaloedd yn fwy talentog na'i gilydd?
Cwestiwn da. Cwestiwn pryfoclyd.
Am wn i na fyddai'n gwneud cyfres deledu ddifyr: "Ymunwch â ni wedi'r egwyl i weld pa ran o'r wlad sy'n haeddu'r teitl Ardal fwyaf Dawnus Cymru." (Gan dderbyn, wrth gwrs, ein bod ni'n fodlon cydnabod taw peth go iawn ac nid cysyniad yn unig yw ardal...)
Dros y deunaw mis a aeth heibio, bu brolio mawr ar ardal Aberteifi fel ardal 'dalentog'. Gwaetha'r modd, fe ddaeth y brolio hwnnw yn sgil y colledion a brofwyd gan y dre a'i chyffiniau yn ystod cyfnod Covid.
Dyma gyfnod colli David R. Edwards, prif leisydd y grŵp arloesol Datblygu. Dyma hefyd gyfnod colli'r brodyr Richard a Wyn Jones, aelodau o'r band Ail Symudiad a sefydlwyr cwmni recordio Fflach. A chyfnod colli Andrew Paul Thomas, y DJ a'r cyflwynydd Tommo.
Bu colledion eraill hefyd a gafodd lai o sylw ond sy'n tystio i weithgarwch diwylliannol yr ardal yn ehangach. Ddiwedd 2019 bu farw Wyn Lewis - Wyn y Fet ar lafar gwlad - sefydlydd ac arweinydd cyntaf côr meibion Ar ôl Tri, côr sy'n cwrdd yn festri Capel Mair yn y dre, côr a enillodd 11 o wobrau cyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Dri mis yn ddiweddarach, bu farw un o gymeriadau cyhoeddus amlyca'r dre, sef y pobydd Martin Radley, cyn-aelod o gôr Cantorion Teifi ac un a ddiddanodd gynulleidfaoedd Theatr Mwldan am flynyddoedd fel aelod o gwmni Opera Teifi.
Dros gyfnod y Calan wedyn, daeth y newyddion trist am golli un o gantorion anwyla' Cymru, sef y tenor Washington ('Washi') James o Genarth, cyn-enillydd y Rhuban Glas yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Dri mis wedi hynny, dyma golli Iwan Davies, Rhydygaer, Blaen-porth - 'Chick' i'w gydnabod - baswr ac un o hoelion wyth cymanfaoedd a chorau'r ardal dros y degawdau, yn eu plith Côr Meibion Blaen-porth a Chôr Pensiynwyr Aberteifi.
Cyfnod Covid
Mae'n wir nad Coronafeirws a'u cipiodd i gyd ond mae'n rhyfedd fel mae'r cyfnod Covid wedi creu ffrâm frawychus o daclus i'w gosod o'u cwmpas i gyd. Yn wir, mae wedi dwysáu'r teimlad o golled - rydym yn cysylltu'r colledion hyn â'i gilydd mewn ffordd na fyddem wedi ei wneud pe na bai am y cyfnod.
Yn ddadlennol, wrth sôn am yr unigolion hyn, mae pobl leol wedi crybwyll y ffaith fod cynifer ohonyn nhw'n 'gymeriadau' a'n bod ni, felly, wedi colli mwy na dim ond dawn neu gyfraniad yr unigolion hyn; ein bod ni wedi colli personoliaethau unigryw. "Tributes have been paid to well-known Cardigan businessman and character," meddai'r papur lleol drannoeth marwolaeth Martin Radley, er enghraifft.
Traddodiad
Roedd deugain mlynedd, i bob pwrpas, yn gwahanu'r hynaf a'r ieuengaf ohonyn nhw ond etifeddion traddodiad tebyg oedden nhw i gyd, fwy neu lai. Plant diwylliant y festri a'r eisteddfodau oedd y rhan fwya' ohonyn nhw. A bu sawl un ohonyn nhw'n oedolion y diwylliant hwnnw hefyd - diwylliant oedd yr un mor gartrefol yn y dafarn neu'r clwb ag ydoedd mewn capel neu bafiliwn.
Symud rhwng y diwylliant hwnnw a diwylliant y sîn roc a phop oedd tynged rhai ohonyn nhw, serch hynny. Roedd tad Richard a Wyn yn ysgrifennydd capel Tabernacl yn y dre a bu festri'r capel hwnnw ymysg ystafelloedd ymarfer cyntaf Ail Symudiad.
Wrth reswm, cerddoriaeth gyfoes oedd yn mynd â bryd y ddau frawd, ond chlywais erioed yr un ohonyn nhw'n difrïo'r traddodiad y maged nhw ynddo fe, chwaith. Yn wir, fe fuon nhw'n gefnogol iawn o weithgarwch grwpiau ac unigolion mewn meysydd diwylliannol y tu hwnt i'w sîn roc a phop nhw eu hunain.
Fel yn achos mwyafrif helaeth ein cenhedlaeth ni, ymwrthod yn llwyr â'r diwylliant ysgol-Sul-ac-ysgol-a-steddfod-a'r-Pethe oedd dymuniad Dai Edwards ('David Rupert' i rai ohono' ni).
Wrth edrych nôl, felly, mae'n eironig iddo, pan oedd e yn yr ysgol gynradd yn Aberteifi, gael ei ddewis i chwarae rhan yr Archdderwydd, o bawb, a hynny mewn cynhyrchiad i ddathlu Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi ym 1975. Fe grëwyd y sioe gan ddau aelod o staff yr ysgol ar y pryd, sef Rita Milton Jenkins ac Alun Tegryn Davies. (Roedd pwyslais mawr ar bethau cerddorol yn yr ysgol yn y cyfnod hwnnw a pha ryfedd gan fod y pennaeth, Alun Tegryn, yn arweinydd, cyfansoddwr ac arbenigwr ar gerdd dant, yn uchel ei barch trwy'r wlad.)
Mae gen i gof o Tommo hefyd yn chwarae rhan cymeriad eiconig pan oedd e yn yr ysgol gynradd. Addasiad o chwedl Branwen oedd y sioe ac fe'i perfformiwyd (yn Gymraeg) gan un o ddosbarthiadau cyfrwng Saesneg yr ysgol. A phwy oedd Tommo? Wel, neb llai na Bendigeidfran, wrth gwrs!
Dyled enfawr
Do, o Wyn y Fet i Richard a Wyn Fflach, fe gollodd ardal Aberteifi rai o'u mawrion. Ac yn achos y tri hyn yn arbennig, fe gollodd yr ardal gymeriadau nid yn unig a gyfoethogodd fywyd y fro ond a roddodd gyfle i eraill i gyfrannu ac i ddatblygu eu talentau nhw hefyd, boed hynny mewn côr neu mewn stiwdio recordio. Oherwydd eu bod nhw yn fodlon trefnu a chwrso, hwyluso a hyfforddi, annog ac arwain, mae'n dyled iddyn nhw'n enfawr.
A oes rhai ardaloedd yn fwy talentog na'i gilydd, felly?
Roedd gan Dic yr Hendre ateb i'r cwestiwn. Wrth dalu teyrnged i ŵr a gwraig a fu mor weithgar yn ardal Aber-porth yn ystod ei ieuenctid e, sef y Parchedig a Mrs Tegryn Davies (rhieni Alun Tegryn, fel mae'n digwydd), dyma ddywedodd Dic:
"Yr un yw'r deunydd crai ymhob ardal. Yr arweinyddion sy'n wahanol."