Marwolaeth bachgen, 3, mewn tân carafán yn ddamwain
- Cyhoeddwyd
Bu farw bachgen tair oed oedd mewn carafán aeth ar dân yng Ngheredigion drwy ddamwain, yn ôl crwner.
Roedd Zac Michael Harvey yn cysgu yn y garafán yn Ffair Rhos pan ddigwyddodd y tân ar 19 Ionawr 2020.
Clywodd y cwest ei fod wedi marw o ganlyniad i anadlu mwg.
Llwyddodd ei dad a'i frawd, Shaun a Harley Harvey, i ddianc o'r garafán.
Clywodd y cwest ei bod yn debygol mai gwresogydd trydan, neu ddeunydd llosgadwy yn dod i gysylltiad â'r gwresogydd, oedd achos y tân.
Mewn tystiolaeth i Heddlu Dyfed-Powys, dywedodd Shaun Harvey ei fod yn defnyddio'r gwresogydd i gynhesu'r garafán, ond ei fod yn credu iddo ei ddiffodd cyn mynd i gysgu.
Roedd y gwresogydd wedi ei bweru gan gebl o dŷ cyfagos.
Yn ddiweddarach, cafodd ei ddeffro gan dân ffyrnig, ac nid oedd yn gallu symud ei ddau fab mewn pryd.
Nid oedd disgwyl i frawd Zac, Harley, oroesi ei anafiadau, ond mae wedi gwella'n llawn.
Rhoddodd y crwner Peter Brunton ei gydymdeimlad i fam Zac, Erin - a oedd yn y gwrandawiad - gan gofnodi achos y farwolaeth fel damwain.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd28 Mai 2020