Rali yn galw am daclo 'argyfwng' ail gartrefi Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr wedi annog Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r hyn maen nhw'n ei ddisgrifio fel argyfwng tai yn Sir Benfro.
Daeth tua 150 o bobl ynghyd mewn rali ar draeth y Parrog yn Nhrefdraeth ddydd Sadwrn yn erbyn ail gartrefi.
Daw yn sgil pryder am effaith ail gartrefi ar y farchnad, a'r nifer o dai fforddiadwy sydd ar gael.
Yn ôl yr ymgyrchwyr, mae tai teras tair ystafell wely yn Nhrefdraeth yn gwerthu am dros £400,000.
Pris tŷ ar gyfartaledd yn Sir Benfro yw £227,000.
Pleidleisiodd cynghorwyr Sir Benfro yn ddiweddar dros ddyblu treth y cyngor i berchnogion ail gartrefi.
'Allan o'r cwestiwn'
Dywedodd un o drefnwyr y rali, Hedd Ladd-Lewis bod y farchnad dai "allan o reolaeth" yn yr ardal a "nad oedd gobaith i bobl leol fyw yn eu cymunedau".
"Mae yna fwy o dlodi rhent wrth i deuluoedd orfod talu rhent afresymol yn y sector breifat, a pha berson lleol gall fforddio talu £400,000 am dy teras?
"Felly beth fydd dyfodol yr ysgol gynradd? 'Yn ni wedi gweld beth sy' wedi digwydd yn Abersoch yn ddiweddar."
Mae Heledd Evans yn 21 oed ac yn byw yn Nhrewyddel. Mae'n dweud nad oes gobaith iddi fedru fforddio tŷ yn y pentref yng ngogledd Sir Benfro.
"Dwi newydd symud adre o'r brifysgol a dwi'n byw gyda Mam a Dad. Mae Trewyddel allan o'r cwestiwn i fi," meddai.
"Mae'r lle yn llawn bythynnod, ac mae pobl eisiau eu prynu. Mae'n drueni, oherwydd falle dyma'r math o dŷ fyddai'n addas fel cartref cyntaf. Ar y funud, sai'n siŵr ble fydda i yn gallu fforddio rhywle."
Dyw hi ddim yn cefnogi adeiladu mwy o dai, ond mae hi'n dweud bod angen sicrhau bod tai yn cael eu neilltuo i bobl leol.
"Beth sydd angen sicrhau yw bod canran o'r tai yn cael eu neilltuo ar gyfer ieuenctid, ar gyfer pobl sydd yn cyfrannu i'r gymuned."
Roedd rhai sydd yn gefnogol i berchnogion ail gartrefi yn gwylio'r rali yn Nhrefdraeth, ond doedden nhw ddim yn barod i wneud cyfweliad gyda BBC Cymru.
Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru?
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Cymru yw'r unig genedl yn y DU i roi pwerau dewisol i awdurdodau lleol godi premiwm - hyd at 100% - o'r dreth gyngor ar eiddo gwag tymor hir ac ail gartrefi.
"Dyma un o'r mesurau rydyn ni wedi'u cyflwyno i helpu i fynd i'r afael â mater ail gartrefi.
"Rydym hefyd wedi cynyddu cyfradd uwch y dreth trafodion tir, sy'n berthnasol pan fydd pobl yn prynu eiddo ychwanegol ac rydym yn edrych ar ba ymyriadau pellach sydd ar gael a sut y gall ein partneriaid ddefnyddio'r pwerau presennol."
Ychwanegodd eu bod hefyd wedi ymrwymo i adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd ar gyfer rhent cymdeithasol dros y pum mlynedd nesaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2021