Ail gartrefi: Treth Sir Benfro i ddyblu o fis Ebrill 2022

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Hedd Harries: 'Dim dyfodol i bobl ifanc' ar hyn o bryd

Mae cynghorwyr Sir Benfro wedi pleidleisio i gynyddu treth y cyngor ychwanegol ar ail gartrefi o 50% i 100%, yn dilyn argymhelliad aelodau'r cabinet i gynyddu treth y cyngor ychwanegol ar ail gartrefi o 50% i 100%.

Mae hyn yn golygu y bydd perchnogion ail gartrefi yn talu dwbl y bil arferol am dreth y cyngor o fis Ebrill.

Mae Cynghorau Abertawe a Gwynedd eisoes wedi cefnogi cyflwyno'r dreth uchaf bosib ar ail gartrefi.

Fe fydd 75% o'r arian sydd yn cael ei godi o'r cynnydd yn cael ei wario ar dai fforddiadwy yn ôl Cyngor Sir Penfro, gyda 25% yn mynd i gronfa cynllun Gwella Sir Benfro.

Yn ôl ystadegau Llywodraeth Cymru, mae 16% o holl dai Sir Benfro yn cael eu diffinio fel ail gartrefi. Dim ond yng Ngwynedd mae'r ffigwr yn uwch (20%).

Pleidleisiodd 39 o gynghorwyr o blaid y cynnydd ac wyth yn erbyn. Roedd dau ymataliad.

Mewn adroddiad aeth gerbron y cynghorwyr, mae'r awdurdod yn nodi fod 5,100 o bobl ar restr tai y cyngor yn aros am gartrefi ar hyn o bryd a bod y rhestr yn dal i dyfu.

Mewn cyfarfod o'r cabinet ar 4 Hydref, dywedodd y Cynghorydd Bob Kilmister bod ail gartrefi yn bygwth "cynaliadwyedd" cymunedau a bod 40% o dai mewn rhai cymunedau arfordirol yn ail gartrefi.

Fe wnaeth Cymdeithas yr Iaith alw'r penderfyniad yn "newyddion calonogol", gan ychwanegu eu bod nhw am bwyso ar y llywodraeth i "roi mesurau mewn lle fel na all pobl fanteisio ar unrhyw fannau gwan i osgoi'r dreth a gosod cap ar ail dai."

'Ddim yn mynd yn ddigon pell'

Mae Hedd Harries o Fwlch-y-groes yn byw yn lleol ac yn aelod o'r grŵp Na i Ail Gartrefi yn Sir Benfro fydd yn cynnal rali ar y Parrog yn Nhrefdraeth ar 23 Hydref.

Mae'n croesawu safiad aelodau'r cabinet, ond yn teimlo nad yw cynyddu treth y cyngor yn ddigon.

"Mae'n rhaid canmol y Cabinet ar hyn achos mae'n gam positif iawn, i geisio mynd i wraidd y broblem a dwi'n gobeithio bydd y cyngor sir yn ei gefnogi ond dwi ddim yn credu fod e'n mynd yn ddigon pell.

"Dylai'r llywodraeth weithredu cyn bo' hi yn rhy hwyr. Mae angen i Gyngor Sir Penfro bwyso ar Lywodraeth Cymru drwy roi capiau ar faint o dai haf, rheoliadau ar Airbnbs."

Disgrifiad o’r llun,

Er bod tua 50 o dai ym mhentref Cwm-Yr-Eglwys, Sir Benfro, dim ond dau dŷ sydd â rhywun yn byw ynddynt drwy gydol y flwyddyn

Mae Hedd yn teimlo anobaith ar hyn o bryd am sefyllfa'r Gymraeg, yn sgil effaith ail gartrefi.

"Dwi'n teimlo yn angerddol am y peth, achos dwi wedi clywed first-hand y sefyllfa. Dwi wedi clywed am bobl oedran ni yn cael eu gazumpio ac yn y blaen, a phobl gyda swyddi yn yr ardal yn methu cael morgeisi.

"Does dim gobaith na dyfodol i'r iaith i ni bobl ifanc a'r diwylliant yn yr ardal ar y funud."

Yn ôl ystadegau Llywodraeth Cymru, bu cynnydd o dros 1,200 yn y nifer yr ail gartrefi yn Sir Benfro ers 2017-18, sef cynnydd o 45%.

Tra'n cefnogi'r cynnydd yn nhreth y cyngor, mae Ros McGarry o Drefdraeth yn dweud bod angen atal yr hawl i berchnogion ail gartrefi rhag cofrestru eu tai fel busnesau, a bod angen edrych eto ar brosesau cynllunio.

"Mae'n rhaid gwneud rhywbeth am y system gynllunio, i newid pethau fel bod pobl yn medru cael tai ble maen nhw yn byw," meddai.

'Cyfraniad sylweddol i'r economi'

Nid pawb sydd yn cefnogi cynyddu treth y cyngor. Roedd yna ymateb chwyrn i ymgynghoriad y cyngor i'r syniad o gynyddu'r dreth.

Chris Birch yw Cyfarwyddwr Holiday Homes Wales sydd yn gosod tai gwyliau yn Sir Benfro.

"Fydd pobl naill ai'n gwrthod talu, ac yn cael gwared ar eu tai gwyliau neu mi fyddan nhw yn cofrestru'r tŷ fel busnes ac yn talu trethi annomestig," meddai.

"Mae'n drist i ddweud y gwir. Mae'r cyngor a'r llywodraeth yn gorfodi pobl i wneud hyn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae ail gartrefi yn cynnal swyddi mewn ardaloedd fel Sir Benfro, meddai Chris Birch

Mae'n dweud bod ail gartrefi yn gwneud cyfraniad sylweddol i'r economi.

"Maen nhw'n cyflogi glanhawyr, gweithwyr cynnal a chadw, ynghyd â chwmnïau i reoli'r tai. Mae hynny cyn bod yr ymwelydd yn cyrraedd, sydd yn gwario arian yn y siopau lleol."

'Rhaid edrych ar y cymunedau lleol'

Mae Leyton Jones o Gasnewydd yn berchen ar ail gartref yn Ninbych y Pysgod ac yn cefnogi'r dreth ychwanegol.

"Mae'r tŷ gyda ni ers dwy flynedd a hanner - dwi'n dod o Sir Gaerfyrddin ac mae atgofion melys 'da fi o fod yn ifanc a mynd i Ddinbych-y-Pysgod," meddai.

"Dwi'n cefnogi'r cyngor wrth godi treth y cyngor i 100% mwy na rhywun mewn tŷ cyffredin.

"Mae'n rhaid edrych ar y cymunedau lleol. Dwi ddim yn credu bod ni fel teulu yn rhoi rhyw lawer mewn i'r cymunedau lleol, sydd yn dod i lawr o bryd i'w gilydd.

"Dwi ddim yn cytuno bod ni fel bobl sydd yn berchen ar ail gartrefi yn dodi rhyw lawer mewn i'r cymunedau. Dyna pam dwi o blaid codi'r dreth y cyngor i geisio helpu pobl ifanc sydd yn ceisio prynu eu tŷ cyntaf.

"Dwi'n meddwl dylsen ni dalu mwy i helpu adeiladu mwy o dai i wneud yn siŵr fod pobl ifanc yn medru prynu'r tŷ cyntaf yna."

Bydd y cynnydd yn dod i rym o fis Ebrill 2022.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar hyn o bryd ar drethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety hunan-arlwyo.

Mewn datganiad, dywedodd eu bod "eisiau i bawb i gael mynediad i dai fforddiadwy, o'r safon uchaf".

"Cymru yw'r unig wlad o fewn y Deyrnas Unedig i roi'r pwerau i gynyddu'r premiwm treth y cyngor ar ail gartrefi i 100%," meddai.

"Mae'r llywodraeth hefyd wedi cynyddu'r lefel uchaf o'r Dreth Trafodiadau Tir, sydd yn berthnasol i bobl sydd yn prynu eiddo ychwanegol.

"Mae'r llywodraeth yn ceisio cyflwyno atebion cynaliadwy i broblemau cymhleth. Mae hyn hefyd yn cynnwys ymrwymiad i godi 20,000 o dai carbon isel i'w rhentu dros y pum mlynedd nesaf."

Pynciau cysylltiedig