Menywod 'ofn mynd allan' wedi achosion sbeicio diodydd
- Cyhoeddwyd
Mae menywod a merched ofn mynd ar noson allan oherwydd ffyrdd "sinistr" o ymosod, yn ôl Aelod Seneddol.
Daw sylwadau Anna McMorrin wedi nifer o achosion o ferched yn cael eu chwistrellu a diodydd yn cael eu sbeicio.
Mae'r gweinidog cysgodol dioddefwyr a chyfiawnder ieuenctid yn galw am wneud mwy i amddiffyn pobl sy'n mynd i fariau a chlybiau nos.
Dywedodd Cymdeithas y Diwydiant Nos (NTIA) fod lleoliadau yn gweithio gyda'r heddlu a chynghorau ar "ddiogelu cwsmeriaid, yn enwedig menywod".
"Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn adnabod rhywun sy'n adnabod rhywun sydd wedi cael ei ddiod wedi'i sbeicio," meddai Ms McMorrin, AS Llafur Gogledd Caerdydd, wrth raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales.
"Ond nawr mae'n ymddangos bod hyn yn cyrraedd lefel fwy sinistr lle mae menywod a merched mewn perygl o gael eu chwistrellu â sylwedd gwenwynig.
"A'r peth gwirioneddol sinistr mewn gwirionedd yw, rydyn ni'n gwybod mai'r bwriad yw gwneud niwed, yw treisio.
"Felly credaf ein bod yn gwybod bod menywod a merched wedi dychryn."
Mae'r Ysgrifennydd Cartref Priti Patel wedi gofyn i heddluoedd am ddiweddariad yn dilyn nifer o achosion o ferched yn adrodd eu bod wedi eu sbeicio gan nodwyddau mewn clybiau nos.
Mae boicot o glybiau yn cael ei gynllunio mewn rhai dinasoedd, gan gynnwys Caerdydd, ar 29 Hydref.
Dywedodd Ms McMorrin fod ei merch hynaf, sy'n fyfyriwr prifysgol, wedi dweud wrthi ei bod hi a'i ffrindiau'n cymryd rhagofalon ychwanegol gan eu bod "ofn mynd allan gyda'r nos".
Galwodd am "newid y diwylliant" a gwneud misogyny yn drosedd casineb.
'Rhoi pwyslais ar y troseddwyr'
Dywedodd y cyn-Ysgrifennydd Cyfiawnder, y Cymro Robert Buckland AS, hefyd fod angen gweithredu i dargedu ymosodwyr yn hytrach na rhoi'r baich ar fenywod a merched i ofalu am eu diogelwch eu hunain.
"Mae dweud y dylai menywod aros yn ddiogel, ac i bob pwrpas aros gartref, yn ddull anghywir yn llwyr," meddai AS Ceidwadol De Swindon.
"Dyna pam rydw i bob amser wedi pwysleisio'r angen i ni fynd i'r afael yn uniongyrchol â'r rhesymau dros gyflawni'r troseddau hyn a'r troseddwyr eu hunain."
Dywedodd prif swyddog gweithredol NTIA, Michael Kill, fod gweithredwyr lleoliadau wedi cyflwyno mesurau mewn rhai rhanbarthau gan gynnwys amddiffyn diodydd trwy fecanweithiau rhwystr, profi swab diodydd a chwilio pobl.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2021